Skip to main content

Troseddeg - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth sy’n ysgogi pobl i droseddu? Ydych chi wedi ystyried sut mae cymdeithas yn llunio ein dealltwriaeth o droseddu a throseddwyr? Ydych chi wedi meddwl am y dioddefwyr a sut maen nhw’n cael eu trin yn y system cyfiawnder troseddol?

Mae gradd BSc (Anrh) Troseddeg Met Caerdydd yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol ac empirig mewn rhaglen fodern a fydd yn herio’r ffordd rydych chi’n edrych ar astudio trosedd.

Yn ogystal â dysgu am yr athroniaethau a’r damcaniaethau sylfaenol sy’n archwilio trosedd fel maes astudio academaidd, bydd myfyrwyr BSc (Anrh) Troseddeg yn archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y damcaniaethau a’r athroniaethau hyn, ac o bosibl yn cyfrannu at ein dealltwriaeth ddatblygol mewn amrywiaeth o bynciau arloesol.

Wrth astudio Troseddeg ym Met Caerdydd, byddwch yn canolbwyntio ar dri maes allweddol sydd wedi’u plethu drwy gydol y radd, sy’n cynnwys Damcaniaethau Troseddeg, hanfodion y System Cyfiawnder Troseddol a Disgyblaethau sy’n Dod i’r Amlwg mewn Troseddeg gyfoes.

Bydd y lleoliad yn ystod yr ail flwyddyn yn rhoi cyfle rhagorol i raddedigion gael profiad gwaith amhrisiadwy mewn diwydiannau priodol a pherthnasol, yn ychwanegol at yr amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddol sydd ar gael drwy gydol eich astudiaethau. Bydd y cymhwyster ILM Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli sy’n cyd-fynd â’r radd yn eich helpu i achub y blaen ar eich cyfoedion o ran canlyniadau graddedigion, ar ôl cwblhau.

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Astudio Troseddeg ym Met Caerdydd

​Mae gradd Met Caerdydd mewn Troseddeg yn canolbwyntio ar dri llinyn allweddol sydd wedi’u plethu drwy lefelau 4, 5 a 6.

Mae llinyn un, damcaniaethau troseddegol, yn ymdrin â’r syniadau a’r athroniaethau craidd sy’n golygu bod troseddeg yn faes pwnc penodol. Byddwch yn archwilio casgliad o gysyniadau pwysig o ddamcaniaethau cyn-glasurol a chlasurol troseddeg, hyd at ddamcaniaethau cyfoes a’r rhai sy’n dod i’r amlwg sy’n llunio dyfodol maes y pwnc.

Bydd llinyn dau, y system cyfiawnder troseddol, yn archwilio’r hanfodion o ran sut mae systemau ac asiantaethau cyfreithiol gwahanol wedi’u strwythuro yn y DU a thramor. Byddwch yn dysgu sut mae cyfreithiau gwahanol yn cael eu creu a sut mae systemau cyfreithiol gwahanol yn cydweithio ac weithiau’n gwrthdaro, sut mae unigolion yn cael eu trin yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn edrych yn fanwl ar ein system carchardai a chyfiawnder ieuenctid.

Mae llinyn tri, disgyblaethau sy’n dod i’r amlwg, yn archwilio amrywiaeth o ddisgyblaethau blaengar a phwysig sy’n dod i’r amlwg mewn astudiaethau cyfoes mewn troseddeg. Mae’r rhain yn cynnwys: effaith salwch meddwl a niwroamrywiaeth ar unigolion ac asiantaethau yn y system cyfiawnder troseddol; sut mae troseddeg werdd a chynaliadwy’n llunio ein dealltwriaeth o niwed cymdeithasol a throseddoldeb fel y’u cymhwysir i’r byd naturiol; a sut mae troseddeg rhywedd, hil a chwiar yn arwain y ffordd wrth lunio ein dealltwriaeth feirniadol o gymdeithas. Byddwch hefyd yn dysgu am bynciau mwyfwy pwysig eraill fel gwrthderfysgaeth, seiberdroseddu, a sut mae ein systemau carchardai yn esblygu i ddiwallu anghenion sy’n newid yn barhaus.

Cynnwys y Cwrs

Mae BSc (Anrh) Troseddeg Met Caerdydd yn cynnwys 360 credyd dros dair blynedd.

  • Blwyddyn 1, byddwch yn astudio 6 modiwl craidd.
  • Blwyddyn 2, byddwch yn astudio 5 modiwl craidd, gydag 1 modiwl dewisol ychwanegol i’w ddewis gennych chi.
  • Bydd Blwyddyn 3 hefyd yn cynnwys 5 modiwl craidd, gydag 1 modiwl dewisol ychwanegol i’w ddewis gennych chi.


Blwyddyn 1

  • Sylfeini damcaniaeth droseddegol.
  • Archwilio’r system cyfiawnder troseddol.
  • Deall Ymchwil Droseddol.
  • Trosedd, Rheoli ac Atal.
  • Gweithio gyda phobl mewn cyd-destun cymdeithasol.
  • Seicoleg trosedd.


Blwyddyn 2

*Ym mlwyddyn 2, byddwch yn cwblhau lleoliad gwaith gorfodol â chymorth ym myd diwydiant gydag un o’n sefydliadau partner. Bydd y lleoliad hwn yn cael ei asesu drwy gymhwyster Arweinyddiaeth a Rheoli Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), a fydd yn eich galluogi i adael gyda chymhwyster ychwanegol a gydnabyddir yn genedlaethol ar lefel 5.

Modiwlau Craidd

  • Systemau cymharol cyfiawnder troseddol.
  • Troseddeg werdd, wledig a bywyd gwyllt.
  • Salwch meddwl, niwroamrywiaeth a throsedd.
  • Gwneud ymchwil droseddegol.
  • Modiwl Lleoliad*

Modiwlau Dewisol

  • Defnyddio seicoleg mewn troseddeg.
  • Bygythiad, risg a niwed.


Blwyddyn 3

Modiwlau Craidd

  • Ymarfer unigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Hil a rhywedd troseddeg.
  • Cosb, carchardai a phenydeg.
  • Dynladdiad a throseddau treisgar.

Modiwlau Dewisol

  • Gwrthderfysgaeth.
  • Seiberdroseddu a chymdeithas.

Dysgu ac Addysgu

Rydym yn defnyddio amryw ddulliau addysgu sydd wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion dysgu. Mae hyn yn cynnwys gweithdai, seminarau, darlithoedd, ac amgylcheddau dysgu rhithiol. Bydd myfyrwyr hefyd yn wynebu problemau ymarferol cymhleth ffug, y bydd gofyn iddynt eu dadansoddi a chreu ymateb priodol. Mae’r ymarferion ffug hyn wedi’u cynllunio i ddatblygu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Byddwch yn defnyddio ein tŷ trosedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu efelychiadol; bydd hyn yn cynnwys defnyddio ein tŷ safle trosedd, ystafell ddalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth ffug, ffug lys, ac ystafell gyfweld ffug.

Oriau Cyswllt

Mae gan bob modiwl 20 credyd tua 200 awr o astudio’n gysylltiedig â nhw, a gyflwynir dros semester. Fel arfer, bydd 48 o’r oriau hyn yn cael eu cyflwyno mewn sesiynau a addysgir fel darlithoedd, seminarau a gweithdai, fel arfer ar yr amserlen fel 4 awr yr wythnos (fesul modiwl). Neilltuir oddeutu 52 awr ar gyfer tasgau astudio a pharatoi dan gyfarwyddyd sydd wedi’u gosod yn wythnosol fel rhan o’r sesiynau a addysgir ac mae’r 100 awr sy’n weddill ar gyfer astudio hunangyfeiriedig lle mae’r myfyrwyr yn cwblhau’r darllen sy’n ofynnol ar gyfer y modiwl ac yn cwblhau eu hasesiad gofynnol. Gan fod Gradd Troseddeg Met Caerdydd yn cael ei haddysgu dros ddau semester y flwyddyn academaidd, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd, ochr yn ochr, bob semester.

Cymorth

Pennir tiwtor personol i bob myfyriwr pan fyddant yn cychwyn ar y cwrs ac mae’r tiwtor hwn yn eu cefnogi drwy gydol eu gradd. Bydd y myfyrwyr yn mynychu cyfarfodydd tiwtorial sydd wedi’u trefnu, ond mae’r tiwtoriaid hefyd ar gael i fyfyrwyr y tu allan i’r cyfarfodydd a drefnwyd. Mae gan y brifysgol ddarpariaeth cymorth myfyrwyr sefydledig ar gyfer myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae ganddi’r adnoddau i ddelio ag unrhyw faterion sy’n codi yn ystod astudiaethau myfyriwr.

Technoleg a Chyfleusterau

Cefnogir y modiwlau trwy ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithiol y Brifysgol, Moodle, sydd ar y we ac felly gallwch ei gyrchu yn unrhyw le trwy’r rhyngrwyd. Mae holl ddeunydd y cyrsiau’n cael ei gadw yma, gan gynnwys cyflwyniadau darlithoedd a seminarau, gwybodaeth asesu a darllen neu adnoddau ychwanegol. Mae’r tiwtoriaid hefyd yn defnyddio Moodle i e-bostio myfyrwyr gyda gwybodaeth a diweddariadau.

Staff

Mae’r staff yn weithgar ym maes ymchwil, a byddwch yn elwa o hyn yn uniongyrchol drwy’r addysgu. Ymhlith rhai o’r diddordebau ymchwil presennol y mae ymchwilio i brosesau gwneud penderfyniadau ymchwilwyr safleoedd trosedd, sut y gall troseddeg werdd a chynaliadwy effeithio ar addysg myfyrwyr plismona, defnyddio chwarae Lego therapiwtig er budd cyfryngwyr yn ystod y broses gyfweld, a defnyddio ymyriadau darllen mewn carchardai.

Mae’r staff ar y rhaglen hon yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, ac mae profiad cenedlaethol a rhyngwladol yn eu harbenigedd. Maent yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol o ansawdd uchel. Bydd casgliad o ddulliau addysgegol cyfoes yn cael eu hymgorffori yn narpariaeth pob modiwl. Mae gan ein staff ystod o gefndiroedd gan gynnwys cefnogi addysg amgen, gweithio gyda theuluoedd i atal trwytho a radicaleiddio, cefndiroedd plismona helaeth gan gynnwys ymarfer ar lefel weithredol a strategol, ymchwilio i safleoedd trosedd, cyfweld uwch â’r sawl a ddrwgdybir, a gweithio i frwydro yn erbyn gweithgareddau troseddol cartelau a throseddu cyfundrefnol.

Cyfleusterau

Addysgir gradd Met Caerdydd mewn Troseddeg ar draws campysau Cyncoed a Llandaf, lle bydd myfyrwyr yn elwa o amrywiaeth o gyfleusterau.

Mae Cyncoed yn gampws prysur sy’n cynnig llety ar y safle, cyfleusterau chwaraeon rhagorol a Chanolfan Campws bwrpasol, gan gynnwys siop ar y safle, bariau coffi a ffreutur. Mae gennym hefyd dŷ safle trosedd ffug, ystafell ddalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth, ystafell gyfweld â’r sawl a ragdybir, labordy seicoleg, stiwdio ddrama, a digonedd o le yn yr awyr agored. Tra byddant ar gampws Cyncoed, bydd y myfyrwyr yn elwa o gael eu haddysgu ochr yn ochr â’n myfyrwyr BA (Anrh) Plismona Proffesiynol ac yn cael mewnwelediadau ychwanegol a mynediad at fyfyrwyr sy’n anelu at gyflawni’r cymhwyster nodedig hwn mewn plismona modern.

Mae Llandaf yn gampws bywiog a phrysur. Ar ôl miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn ddiweddar, mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr. Ar Gampws Llandaf bydd y myfyrwyr yn dysgu yn ein hystafell Ffug Lys, sy’n efelychu elfennau o achos troseddol, ochr yn ochr â myfyrwyr LLB (Anrh) y Gyfraith Met Caerdydd.

Asesu

Mae’r asesiadau’n ddiddorol ac yn amrywiol ac maent yn cyd-fynd yn agos â chanllawiau Meincnodau mewn Troseddeg QAA 2022. Mae’r asesiadau wedi’u cynllunio i ddarparu profiadau dilys i’r myfyrwyr ddangos cymwyseddau’r byd go iawn y byddai angen iddynt eu defnyddio mewn cyd-destunau proffesiynol.

Caiff yr asesiadau eu cwblhau naill ai’n unigol neu mewn grŵp. Mae gan fodiwlau asesiadau integredig: traethodau beirniadol, arddangosfeydd, portffolios a senarios byw. Mae’r rhain i gyd yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr, i ddangos eu gallu i gyd-fynd â chymwyseddau’r byd go iawn.

Rhoddir dyddiadau cyflwyno’r asesiadau i’r myfyrwyr ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal â grid trosolwg asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i’w helpu i gynllunio a rheoli eu hamser yn effeithiol. Mae myfyrwyr yn derbyn adborth unigol ar eu gwaith sy’n nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Bydd y lleoliad yn ystod yr ail flwyddyn yn rhoi cyfle rhagorol i raddedigion gael profiad gwaith amhrisiadwy mewn diwydiannau priodol a pherthnasol. Bydd cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheoli Lefel 5 ILM sy’n cyd-fynd â’r radd yn eich helpu i achub y blaen ar eich cyfoedion o ran canlyniadau graddedigion, ar ôl cwblhau eich gradd. Yn ogystal â hyn, cewch gipolwg gwerthfawr ar gyfleoedd y byd go iawn o amrywiaeth o siaradwyr gwadd a theithiau maes i amrywiaeth o leoliadau.

Beth allaf ei wneud gyda fy ngradd?

Bydd gradd BSc (Anrh) Troseddeg Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau yn y sector cyfiawnder troseddol a thu hwnt. Gallai cyrchfannau traddodiadol gynnwys cyflogaeth mewn,

  • Rolau Gwasanaeth yr Heddlu, fel swyddog heddlu, ditectif, staff yr heddlu, ac ati.
  • Gwasanaeth prawf,
  • Gwasanaeth Carchardai,
  • Llysoedd y DU, ac amrywiaeth o rolau tebyg eraill.

Gallai cyfleoedd eraill gynnwys, ond yn sicr nid ydynt yn gyfyngedig i, weithio gyda

  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi,
  • Llu’r Ffiniau,
  • Gwasanaethau Cymdeithasol,
  • Gweithio fel athro neu ddarlithydd,
  • Rolau Llywodraeth Ganolog neu Leol,
  • Elusennau.

Mae potensial hefyd ar gyfer astudio pellach, gan gynnwys llwybrau ôl-raddedig fel,

  • TAR Met Caerdydd,
  • Graddau Meistr a Addysgir, megis gradd Meistr Met Caerdydd mewn Addysg a Seicoleg
  • Graddau Meistr yn Seiliedig ar Ymchwil, fel MRes,
  • Astudiaeth Ddoethurol, fel PhD neu EdD.

Gofynion Mynediad

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 96-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau BCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044, anfonwch e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu trydarwch ni ar @CMetAdmissions.

Ar gyfer ymholiadau sy’n benodol i’r cwrs, cysylltwch â chyfarwyddwr y rhaglen, Daniel Williams
Email: dwilliams4@cardiffmet.ac.uk




Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

​Codau UCAS:
M800 - Gradd 3 blynedd
M80F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Chwe blynedd yn rhan-amser.​

ARCHWILIO EIN CYFLEUSTERAU
Tŷ Trosedd

Mae ein cyfleusterau Tŷ Trosedd pwrpasol yn cynnwys ystafell dalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth, ac ystafell gyfweld dioddefwyr a rhai a ddrwgdybir, sy'n rhoi cyfleoedd dysgu efelychiadol hanfodol i chi i roi'r wybodaeth a'r sgiliau rydych chi'n eu dysgu ar waith.