Busnes>Canolfan Entrepreneuriaeth>Cymorth i Raddedigion

Cymorth i Raddedigion - CF5

​​​ Myfyrwyr y Ganolfan Entrepreneuriaeth yn dangos eu gwobrau

Mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn darparu cefnogaeth amrywiol i raddedigion a Chyn-fyfyrwyr Met Caerdydd. Mae ein holl gefnogaeth, a chyllid, ar gael am hyd at 2 b​lynedd ar ôl i chi raddio. Er mwyn cael mynediad i’n cefnogaeth bersonol, llenwch y ffurflen gofrestru hon a byddwn yn cysylltu â chi.

Gallwch barhau i gael mynediad i’n gweithdai a’n digwyddiadau rhwydweithio drwy MetHub neu Eventbrite ac ar ôl i chi gofre​stru gyda ni byddwn yn eich gwahodd i ​CF5 Mini Accelerators a chyfleoedd eraill perthnasol.​

​​Pwy rydym yn cefnogi

​Mae ein manifesto yn dweud eich bod chi yn diffinio llwyddiant, felly mae hynny’n golygu ein bod ni’n hapus i weithio gydag unrhyw raddedigion entrepreneuraidd. P’un a ydych chi eisiau gweithio’n llawrydd, datblygu eich portffolio artistig, dechrau elusen, creu busnes technoleg neu newid y byd, rydym am weithio gyda chi.​

Os nad swydd gyda chyflogwr yw eich peth chi, dewch i fod yn fos eich hun gyda’n cymorth a’n cefnogaeth.​

​Pam CF5?

Pam mae ein cefnogaeth i raddedigion wedi’i alw’n CF5? Yn syml, oherwydd dyna ein cod post yn ein cartref ar Gampws Llandaf.​

Dewch o hyd i'n cyfeiriad post yma​.