Busnes>Canolfan Entrepreneuriaeth>Cymorth i Academyddion

Cymorth i Academyddion


​Helpu i ddatblygu ​cwricwlwm ​​cyfoethog.

Rydym yn credu y gall myfyrwyr ddatblygu cymwyseddau entrepreneuraidd trwy neu fel rhan o’u disgyblaeth.

Sut ydym ni’n cefnogi cydweithwyr academaidd i wneud hyn?

Rydym yn cyfrannu at ddysgu ac addysgu ar draws pob un o’r pum ysgol academaidd. Rydym yn datblygu ein dealltwriaeth o’r rhaglen, ac yna’n teilwra cymorth sy’n briodol. Mae’n ddull cyfannol sy’n cyfuno cefnogaeth i ddatblygu rhaglenni a meithrin cymwyseddau entrepreneuraidd. Rydym yn gallu cyflawni o’n dewis o sesiynau ‘barod i fynd’ neu gysylltu cydweithwyr â rhwydwaith o fodelau rôl entrepreneuraidd. Ein diben yn y pendraw yw cydweithio trwy ddefnyddio themâu sy’n gysylltiedig â disgyblaethau. Rydym yn credu mewn cefnogi unigolion ac arloeswyr y’n cynnig gwerth cymdeithasol yn y dyfodol drwy ddysgu dilys sy’n cyd-fynd ag EDGE Met Caerdydd.

Beth yw addysg menter ac entrepreneuriaeth?

Mae addysg menter yn wrthgyferbyniad i addysg entrepreneuriaeth; mae ‘addysg menter’ yn ymwneud â gwella ac amlygu’r gallu i ddatrys problemau, nodi cyfleoedd a gweithredu ar gyfleoedd. Tra bod ‘addysg entrepreneuriaeth’ yn ymwneud â gallu’r myfyriwr i gyflawni nod mewn ffordd ystyriol sy’n creu swyddi cynaliadwy iddyn nhw neu eraill.

Pwy ydym ni?

Mae tîm galluog y Ganolfan Entrepreneuriaeth yn hyrwyddo entrepreneuriaeth drwy ymdrechion cwricwlaidd, allgyrsiol neu ddechrau busnes. Mae gan aelodau’r tîm brofiad mewn dechrau busnes, creu ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth, addysg menter, cynaliadwyedd, datblygu’r cwricwlwm, ymgysylltu â busnes, ymchwil a dylanwadu ar bolisi.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwil?

Mae ymchwil ysgolheigaidd a dechrau busnes yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu’n ymarferol yma ym Met Caerdydd. Rydym bob amser yn chwilio am gydweithio ymchwil ac astudiaethau achos addysgegol. Gallwn gydweithio ar ymchwil cysylltiedig, neu hyrwyddo gwaith cydweithwyr ar draws y Brifysgol neu’r Sector AU ehangach. Mae gennym ddiddordeb mewn datblygu cymorth ymarferol i fyfyrwyr drwy greu mentrau a datblygu arferion addysgu cysylltiedig.

Hoffech chi wybod mwy?

Darllenwch am yr hyn y mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei ddweud am ddatblygu cwricwlwm menter cyfoethog?

Mae gan bob ysgol academaidd Hyrwyddwr Menter. Nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf i drafod cefnogaeth.

Hyrwyddwr Menter