Busnes>Canolfan Entrepreneuriaeth>CF5 Accelerator Programme

Rhaglen Sbarduno CF5


Ydych chi eisoes yn rhedeg busnes? Oes gennych chi syniad busnes yr hoffech chi ei ddilyn?

Cynlluniwyd Rhaglen Sbarduno CF5 i helpu'ch busnes i dyfu trwy'ch datblygiad fel entrepreneur newydd a trwy wneud penderfyniadau busnes effeithiol, mabwysiadu meddylfryd entrepreneuraidd cadarnhaol ac adeiladu rhwydwaith cymorth cryf.

Yn cael ei gyflwyno trwy gymysgedd o weithdai grŵp, mentora a hyfforddi wedi'u teilwra, mae cyfranogwyr yn cael eu neilltuo i weithgorau bwrdd gwaith sy'n sail i'r rhaglen. Gall grwpiau gyrchu amrywiaeth o wasanaethau yn annibynnol gan gynnwys arbenigwyr a gweithdai sgiliau. Ariennir y rhaglen yn breifat gan Met Caerdydd ac mae'n cael ei rhedeg gan dîm profiadol ac ymroddedig.

Mae'r Rhaglen Sbarduno yn agored i holl Raddedigion Met Caerdydd ac yn rhedeg rhwng 7 Medi a Nadolig 2020. Os ydych chi am ddarganfod mwy a thrafod cael eich ychwanegu at y rhaglen gyfredol, e-bostiwch eich mynegiant o ddiddordeb i entrepreneuriaeth@cardiffmet.ac.uk

 

Am wybod mwy am sut y gallwn eich cefnogi?

Ewch i'n tudalen Cymorth i Raddedigion.