Hafan>Busnes>Innovate UK funding available

Cyllid Innovate UK ar gael

Innovate UK yw asiantaeth arloesedd y DU. Mae'n gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol a ariennir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae’n cynnig nifer o gynlluniau cyllido i gwmnïau mawr a bach.  Cystadlaethau yw’r rhan fwyaf o'i chynlluniau cyllido, gyda phartner y cwmni’n cyfrannu cyfran o gostau'r prosiect. Gall tîm y Gwasanaethau Ymchwil a Menter gynnig cefnogaeth a chymorth wrth ymchwilio i gyllid Innovate UK. Y cynlluniau yw:

​​

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)

Partneriaeth rhwng cwmni, prifysgol a myfyriwr graddedig (Cydymaith) yw KTP. Mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni prosiect strategol ar gyfer y busnes na fyddai'r cwmni'n gallu ei wneud heb y wybodaeth a'r arbenigedd a ddarperir gan y Brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth am KTPs dilynwch y ddolen isod:

> Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

Pwy all wneud cais:  Cwmnïau mawr a bach. 

Talebau Arloesedd

Gellir defnyddio Talebau Arloesedd gwerth hyd at £5,000 i gael unigolyn academaidd i helpu’ch busnes i dyfu. Gallwch ddefnyddio ein pobl academaidd ni i gael cyngor ar syniad newydd neu i ddefnyddio dyluniad yn eich busnes. Gallwch ofyn iddynt eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eiddo deallusol. Gallwch hefyd ddefnyddio Talebau Arloesedd i brynu amser a chefnogaeth ar offer neu gyfleusterau arbenigol.  Dilynwch y ddolen isod i gysylltu â'n tîm i gael rhagor o wybodaeth.

> Cysylltwch â'r tîm i ddarganfod mwy o wybodaeth

Pwy all wneud cais: busnesau bach a chanolig (llai na 250 o weithwyr).

Cystadlaethau

Gall busnesau wneud cais i gystadlaethau cyllido i helpu i ddatblygu eu cynnyrch arloesol.  Maen nhw’n ymdrin â’r sectorau diwydiannol canlynol: 

  • Technolegau datblygol a galluogi
  • Systemau isadeiledd
  • Iechyd a Gwyddorau Bywyd
  • Gweithgynhyrchu a deunyddiau

I gael rhagor o wybodaeth am gystadlaethau Innovate UK ac i weld yr holl gystadlaethau cyllido cyfredol a'r rhai i ddod, dilynwch y ddolen isod neu cysylltwch â'n tîm:

 > Cystadlaethau Innovate UK​

 > Cysylltwch â'r tîm i gael rhagor o wybodaeth

Pwy all wneud cais:  Cwmnïau bach a mawr mewn sectorau penodol o’r diwydiant

 ​Re​turn to Collaborate with us