Mae'r Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS) wedi'u lleoli ar gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd Llandaf, o lle mae’r tîm yn cefnogi rhyngweithio o ran cyfnewid ymchwil a gwybodaeth gyda busnesau a'r gymuned ehangach. Ar lefel weithredol, RIS yw'r porth ble gall sefydliadau allanol gael mynediad at gefnogaeth a sylfaen wybodaeth y Brifysgol.
Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws pum Ysgol Met Caerdydd ar ystod eang o weithgareddau ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth gan gynyddu gwerth masnachol a chymdeithasol ymchwil y Brifysgol i'r eithaf. Rydym yn gweithio gyda busnesau trwy gydweithio, dysgu seiliedig ar waith, gan gynnig y cyfle i fusnesau weithio gyda'n myfyrwyr a defnyddio’n hadnoddau a'n cyfleusteraus.
Os hoffech ddysgu mwy am sut y gall Met Caerdydd weithio gyda chi er mwyn helpu eich busnes, cysylltwch â ni drwy ddilyn y ddolen yma:
Cysylltwch â Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych!