Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Ymchwil ac Arloesedd>Addysgu Gwybodus Ymchwil a Menter

Addysgu Gwybodus Ymchwil a Menter

​​

Un o brif fanteision addysg brifysgol yw bod myfyrwyr yn cael eu trochi mewn amgylchedd dysgu sy'n cael ei lywio gan ymchwil arloesol. Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn ymhél â gwaith ymchwil ar y lefelau uchaf; yn yr Ymarfer Asesu ymchwil diwethaf, barnwyd bod 75% o'n cyflwyniad o dan adain WIRAD y gorau yn y byd neu’n Rhagorol yn Rhyngwladol. Mae CSAD yn benderfynol o sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn teimlo budd y rhagoriaeth ymchwil hon yng nghyfoeth eu haddysg ac yn eu rhagolygon gyrfa pan fyddant yn ein gadael. Mae'r astudiaethau achos isod yn dangos rhai o'r ffyrdd y mae agendâu ymchwil ac addysgu'r Ysgol yn cwrdd â’i gilydd.

Thinking with John Berger

Research and Teaching at CSAD 

Image: Maria Hayes, Thinking with John Berger Conference sketchbook, Sept 2014

  Daeth fy nhiwtor Chris Glynn ataf i helpu i gydlynu gweithgaredd yr oedd ef a'i gyd-ddarlithydd uwch Dr Natasha Mayo yn CSAD wedi'u cynllunio i wella'r gynhadledd,  'Thinking with John Berger' ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Cafodd y syniadau a gyflwynwyd ar gyfer y cydweithrediad hwn eu hysbrydoli gan 'Bento's Sketchbook', a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd gan John Berger yn 2011; llyfr testun a lluniau sy'n archwilio'r arfer o ddarlunio a'i botensial.

Gwnaethom annog mynychwyr i wneud darluniadau ar bwys y nodiadau y byddent yn eu gwneud fel arfer mewn cynhadledd, gan roi braslyfr iddynt ac ystafell ar wahân llawn deunyddiau crai ac ysbrydoliaeth i ymgolli ynddi. Ein rôl oedd trosglwyddo'r tudalennau â darluniau i'r cynrychiolwyr yn ystod pob egwyl, er mwyn iddynt weld eu darluniadau’n cronni mewn amser real. Roeddem am iddynt roi syniadau cymhellol Berger ar gyfathrebu gweledol ar waith. Gan mai ei waith ef oedd wrth wraidd y gynhadledd, roedd y mwyafrif o fynychwyr yn gyfarwydd â'r testun gwreiddiol ac yn agored i gysyniad ein hymarferiad. Dros y ddau ddiwrnod, gwnaethom ddechrau casglu llawer o luniau, gan storio ôl-gatalog helaeth o luniau a ddefnyddiwyd ar yr un diwrnod â sioe sleidiau. Bydd y rhain hefyd yn cael eu defnyddio mewn fideo ar ôl y digwyddiad a grëwyd gan Drawing Partnerships, a fydd yn ceisio myfyrio ar yr hyn y mae'r cyfranogwyr wedi'u darlunio, eu braslunio neu eu dwdlan yn ddifeddwl yn ystod y gynhadledd.

Agwedd gydberthynol y sgyrsiau oedd priodoli meddylfryd beirniadol amrywiol Berger i ddisgyblaeth artistig neu ymchwil ddamcaniaethol y siaradwr. Rhoddodd hyn amrywiaeth gyfoethog a hygyrchedd hawdd i'r trafodaethau, mewn sbectrwm a oedd yn amrywio o gelcio cymhellol i Gustav Courbet, ac o gadwraeth rieni i ddarlunio yn yr Hebrides Allanol. Cefais i gipolwg ar fyd ymchwil gydweithredol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r meysydd ymchwil rydw i wedi'u hystyried a chadw atynt wedi’u priodoli i’m maes, a theimlais fod y digwyddiad hwn yn gyfle amhrisiadwy i mi weld sut mae disgyblaethau eraill yn ymdrin â chyhoeddiadau, lluniau a thestunau yr wyf i'n gyfarwydd â hwy, a sut maen nhw’n eu dadansoddi’n wahanol yn unigol a chyda’i gilydd. Gwnaeth y syniadau a'r damcaniaethau yr ymdriniwyd â hwy gadarnhau i mi fod natur ymarferol Darlunio yn ymestyn yn hawdd i ddyfnderoedd archwilio damcaniaethol a dadansoddi beirniadol, ac rwyf yn awyddus i dybio a dangos hyn yn y prosiectau sydd i ddod gennyf ac wrth agosáu at fy nhraethawd hir. Yn dilyn y digwyddiad, rwy'n teimlo bod y gynhadledd wedi cadarnhau imi fod fy nhueddiad tuag at ymchwil yn llwybr archwilio diriaethol bellach, ac yn un y byddaf yn ei ddilyn yn barhaus yn ystod ac ar ôl fy amser yn CSAD. Ni chroesodd y syniad hwn fy meddwl erioed pan ymrestrais ar gwrs gyda'r un bwriad i ddod yn ymarferydd hyfforddedig, ond nawr, pan fydd fy ngradd wedi'i chwblhau, gallwn fod yn gadael y sefydliad i ddilyn gyrfa mewn ymchwil.

Rosie Turner ar ddarlunio Berger

Gwnaeth Rosie Turner, Myfyriwr Darlunio yn ei thrydedd flwyddyn, wirfoddoli fel gohebydd yn y gynhadledd “Thinking With John Berger” a gynhaliwyd ym Met Caerdydd ar 4-5 Medi 2014. Gan weithio gyda'i chyd-fyfyriwr Jen Lewis i ddangos y gynhadledd, mae Rosie yn disgrifio ei phrofiad o'r digwyddiad a’r manteision o ymhel â diddordebau ymchwil y darlithwyr Chris Glynn a Natasha Mayo.

Research and Teaching Cardiff SCHOOL OF ART AND DESIGN 

Roedd awyrgylch gefnogol i’r gynhadledd er ei bod yn ffurfiol. Roedd yr amgylchedd a chymysgedd y cynrychiolwyr yn gyfle cyffrous i rwydweithio, meddwl am syniadau a dod o hyd i gymariaethau a chysylltiadau diddorol rhwng disgyblaethau. Trodd y gynhadledd yn fwy o sgwrs na chyfres o siaradwyr ar wahân wedi'u hamserlennu, gyda phob sgwrs yn arwain i'r nesaf neu'n ei chyferbynnu mewn ffordd a oedd yn procio'r meddwl; roedd hefyd yn caniatáu i'r gwrthwynebwyr ddod yn angenrheidiol ar gyfer pob ochr o'r drafodaeth.

Roedd cydweithio’n agos â thiwtoriaid ar y prosiect yn gyfle defnyddiol i ddarganfod mwy am eu hymarfer a’u diddordebau ymchwil. Gwnaeth gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr mwy profiadol roi mewnwelediad llawer mwy ymarferol a rhyngweithiol i mi hefyd o ddulliau ar gyfer trefnu a chyflawni prosiect cyfranogol byw. Fel y dywedodd Berger ei hun, “Gallwch chi gynllunio digwyddiadau, ond os ydyn nhw'n dilyn y cynllun nid digwyddiadau ydyn nhw.” Nid yw hyn i ddweud na aeth y gweithgaredd yn ôl y cynllun; i'r gwrthwyneb: cyflwynodd y digwyddiad ganlyniadau disgwyliedig ac annisgwyl, ac wrth gynllunio roedd yn debycach i gynllunio'r cynhwysion ar gyfer digwyddiad a gadael iddynt gael deialog, gan greu cyfle felly ar gyfer creadigrwydd a darganfyddiadau digymell.

Yn sgil fy nghyfranogiad, enillais lawer o lwybrau ymchwil posibl newydd, deunyddiau cyfeirio a hefyd y profiad o arsylwi a chyfrannu at gynhadledd academaidd. Gwnaeth y pynciau trafod gadarnhau fy meysydd o ddiddordeb ac ehangu fy ngweledigaeth o'u cymwysiadau.

Yr hyn a oedd yn sefyll allan i mi o waith Berger a chyflwyniadau'r cynrychiolwyr oedd y celfyddydau, yn enwedig gallu darlunio i helpu i ddatblygu a gwella deallusrwydd emosiynol ac empathi. Mae Berger yn defnyddio darlunio fel modd o feddwl, gan ddod â syniadau athronyddol yn realiti cyffyrddol: mae'n annog nid yn unig edrych ond gweld, a thrwy weld, gallwn ond gwella ein dealltwriaeth. Mae'n galw hyn yn gydweithrediad. “Pan fydd egwyddor cydweithredu wedi’i deall, daw’n faen prawf ar gyfer barnu gweithiau o unrhyw arddull, waeth beth yw rhyddid eu hymdriniaeth.. Neu, yn hytrach (oherwydd nid oes gan farn lawer i'w wneud â chelf) mae'n cynnig mewnwelediad inni er mwyn gweld yn fwy eglur pam fod paentio yn ein cynhyrfu." [The Shape of a Pocket, (2002) t20].

Dyma yw empathi i mi: dealltwriaeth anfeirniadol o fod. Mae'r rhinwedd hwn yn amlwg mewn darlunio pan gaiff ei wneud fel dull darganfod a phan caiff gweld ei ddefnyddio fel modd o ddeall, ac nid o feirniadu yn unig.

 

Lleoliadau myfyrwyr Odoni-Elwell

Cyn bo hir bydd Odoni-Elwell yn croesawu dau fyfyriwr MSc ar leoliadau gwaith; elfen allweddol o'r cwrs MSc sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a chael profiad yn y byd go iawn o weithio mewn lleoliad diwydiant. Fe wnaethom siarad ag Odoni-Elwell i ddarganfod mwy am sut mae'r cynllun Mynediad at Radd Meistr o fudd iddyn nhw fel cwmni croesawu.

odoni elwell 

Busnes bach a chanolig yn Ne Cymru yw Odoni-Elwell sy'n arbenigo mewn cynhyrchu adeiladau dur amlbwrpas ac amrediad o gyfarpar parcio beiciau, o raciau a standiau i lochesi a chyrtiau mawr. Eglura’r Rheolwr Cyffredinol, Simon Nurse, sut y gall lleoliadau myfyrwyr fod yn hynod fuddiol i gwmni â thîm dylunio bach, o ran datblygu cynnyrch a datblygiad y cwmni.

“Mae'r lleoliadau myfyrwyr yn creu llif rheolaidd o syniadau newydd sy'n dod i mewn i'r sefydliad. Mae'n ffordd o gyflwyno gwahanol bersonoliaethau a phobl ffres i mewn i’r gweithlu, sy'n beth da i dîm bach”.

“Mae cynnig lleoliad myfyriwr yn annog y cwmni cyfan i neilltuo amser i feddwl am ein cynnyrch a’u hadolygu mewn ffordd nad oes gennym amser i’w wneud yn aml”.

Rhoddir cynhyrchion penodol i fyfyrwyr ar leoliad yn Odoni-Elwell weithio arnynt. Yn ystod y lleoliad, cefnogir myfyrwyr gan fentor sy'n goruchwylio eu gwaith, a gallant fanteisio ar arbenigedd staff y cwmni. I Simon, mae hon yn broses ddwyffordd i raddau helaeth gan fod y lleoliad yn rhoi adnodd ychwanegol i'r cwmni ddatblygu cynnyrch ac yn creu cyfleoedd ar gyfer datblygiad staff.

“Mae'r lleoliad myfyrwyr yn caniatáu i'n staff ein hunain ehangu eu sgiliau rheoli. Maen nhw’n cael profiad o reoli prosiect arwahanol o'r dechrau i'r diwedd a phrofiad rheoli llinell drwy'r broses fentora. Rydyn ni’n wir werthfawrogi'r hyn mae'r myfyrwyr yn eu rhoi yn ôl i ni, o ran eu syniadau a'r cynnyrch y maen nhw'n eu datblygu”.

 

Fovograffeg: Ymchwil Gweld

image: Rob Pepperll  

Llun: Rob Pepperell

Mae'r prosiect Fovograffeg yn tarddu o'r pwnc Celfyddyd Gain yn yr Ysgol Gelf a Dylunio. Mae'n ymgais gan grŵp o artistiaid a dylunwyr i lunio math newydd o bersbectif darluniadol sy’n seiliedig ar strwythur canfyddiad gweledol dynol.

Trwy gydol tymor yr hydref mae myfyrwyr o CSAD wedi bod yn rhan o'r prosiect mewn nifer o ffyrdd. Mae rhan o'r prosiect yn cynnwys cynnal astudiaethau gwyddonol i brofi sut mae pobl yn profi gofod gweledol. Mae myfyrwyr Darlunio, Celfyddyd Gain a Graffeg wedi cymryd rhan fel cyfranogwyr, ac mae hyn wedi arwain at well dealltwriaeth o'u prosesau canfyddiadol eu hunain. Maent wedi adrodd, er enghraifft, eu bod wedi sylweddoli pethau am ymddangosiad gwrthrychau nad oeddent erioed wedi sylwi arnynt o'r blaen. Maent hefyd wedi nodi eu bod wedi dod yn ymwybodol o ardaloedd ymylol eu maes golwg a sut mae’r byd yn edrych fel petai wedi’i ‘ddyblu’ yn aml gan ein bod fel arfer yn gweld â dwy lygad. Mae rhai myfyrwyr y radd Meistr hefyd yn gweithio fel cynorthwywyr stiwdio, yn helpu â’r gwaith o ddylunio ac adeiladu cyfarpar arbrofol, tra bod eraill wedi bod yn rhan o weithdai a thrafodaethau ynghylch goblygiadau athronyddol yr ymchwil hwn.

“Mae wedi bod yn wych cynnwys y myfyrwyr yn ein hymchwil. Maen nhw wedi cymryd rhan yn ein harbrofion, wedi ein helpu i ddylunio ac adeiladu prototeipiau, ac wedi cyfrannu syniadau ac adborth ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Mae hefyd yn wych eu bod yn dod i ddeall mwy am sut mae’r golwg yn gweithio a sut y gall pobl o'r celfyddydau gyfrannu at ddatblygiadau newydd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.” (Yr Athro Robert Pepperell)

Mae aelodau o'r tîm fovograffeg yn datblygu mathau newydd o gyfryngau delweddu ac arddangos, ac mae'r rhain yn cael eu harchwilio gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn creu ffyrdd newydd o gyflwyno gwaith gradd ar gyfer y sioe derfynol.

 

Tecstilau: Cyfarchion Rhyngwladol - Safbwynt Myfyriwr

image: Rob Pepperll  

Llun: Rob Pepperell

Mae'r prosiect Fovograffeg yn tarddu o'r pwnc Celfyddyd Gain yn yr Ysgol Gelf a Dylunio. Mae'n ymgais gan grŵp o artistiaid a dylunwyr i lunio math newydd o bersbectif darluniadol sy’n seiliedig ar strwythur canfyddiad gweledol dynol.

Trwy gydol tymor yr hydref mae myfyrwyr o CSAD wedi bod yn rhan o'r prosiect mewn nifer o ffyrdd. Mae rhan o'r prosiect yn cynnwys cynnal astudiaethau gwyddonol i brofi sut mae pobl yn profi gofod gweledol. Mae myfyrwyr Darlunio, Celfyddyd Gain a Graffeg wedi cymryd rhan fel cyfranogwyr, ac mae hyn wedi arwain at well dealltwriaeth o'u prosesau canfyddiadol eu hunain. Maent wedi adrodd, er enghraifft, eu bod wedi sylweddoli pethau am ymddangosiad gwrthrychau nad oeddent erioed wedi sylwi arnynt o'r blaen. Maent hefyd wedi nodi eu bod wedi dod yn ymwybodol o ardaloedd ymylol eu maes golwg a sut mae’r byd yn edrych fel petai wedi’i ‘ddyblu’ yn aml gan ein bod fel arfer yn gweld â dwy lygad. Mae rhai myfyrwyr y radd Meistr hefyd yn gweithio fel cynorthwywyr stiwdio, yn helpu â’r gwaith o ddylunio ac adeiladu cyfarpar arbrofol, tra bod eraill wedi bod yn rhan o weithdai a thrafodaethau ynghylch goblygiadau athronyddol yr ymchwil hwn.

“Mae wedi bod yn wych cynnwys y myfyrwyr yn ein hymchwil. Maen nhw wedi cymryd rhan yn ein harbrofion, wedi ein helpu i ddylunio ac adeiladu prototeipiau, ac wedi cyfrannu syniadau ac adborth ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Mae hefyd yn wych eu bod yn dod i ddeall mwy am sut mae’r golwg yn gweithio a sut y gall pobl o'r celfyddydau gyfrannu at ddatblygiadau newydd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.” (Yr Athro Robert Pepperell)

Mae aelodau o'r tîm fovograffeg yn datblygu mathau newydd o gyfryngau delweddu ac arddangos, ac mae'r rhain yn cael eu harchwilio gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn creu ffyrdd newydd o gyflwyno gwaith gradd ar gyfer y sioe derfynol.

 

Tecstilau: Cyfarchion Rhyngwladol

International Greetings 

Fel rhan o berthynas hirsefydlog â chwmni International Greetings yn Ystrad Mynach, bu myfyrwyr Tecstilau ar eu blwyddyn olaf yn gweithio ar brosiect hirdymor gyda'r cwmni, y gwneuthurwr cardiau cyfarch a deunydd lapio mwyaf yn y DU.

Gwahoddwyd y myfyrwyr i ddylunio naill ai amrywiaeth o gynhyrchion cyfarchion ar bapur gan gynnwys rholyn a dalen o ddeunydd lapio anrhegion; bag anrheg; tag anrheg; rhuban; rhuban anrheg a cherdyn cyfarch neu gasgliad o wyth cerdyn cyfarch.

Gwnaeth Sarah Barker, Pennaeth Creadigol International Greetings (UK) ddewis Sarah Morris, Tiffany Gravenor, Ellie Jarvis a Lauren Bevan, a dyfarnwyd £300 iddynt yn ogystal â chynnig o leoliad gwaith am wyth wythnos yn International Greetings. Dyfarnwyd gwobrau eraill i Elen Davie, Cara Hearne, Ceris Butterworth, Daisy Dando, Nia Hendry, Sam Birch ac Emma Bagnall. Dywedodd Esther Young o dîm stiwdio creadigol International Greetings: “Rydym yn teimlo’n angerddol am rannu ein gwybodaeth am y diwydiant masnachol gyda’r myfyrwyr a rhoi mewnwelediad byw iddynt wrth symud o’r brifysgol i gyflogaeth llawn amser.

“Mae'r myfyrwyr yn rhoi safbwynt ffres, ddiduedd ac archwiliadol ar ein cynhyrchion craidd, sy'n gyffrous ac yn fuddiol i'w weld. Trwy gydol y prosiect, rydym yn hynod falch o weld eu taith greadigol yn datblygu, wrth iddynt dderbyn cyngor dylunio masnachol gan aelodau staff uwch a phrofiadol yr International Greetings Design Studio.”

 

Perfformiad Rygbi

IestynShawWedi'i ysbrydoli gan Brosiect Maes 'Perfformiad Paentio' yr Athro Andre Stitt, mae’r myfyriwr Celfyddyd Gain trydedd flwyddyn, Iestyn Shaw, yn manteisio ar arbenigedd a diddordebau ymchwil staff CSAD ac Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd i adeiladu ei ddull o ymarfer a datblygu datrysiadau creadigol i broblemau a ddaw i’r golwg wrth gynhyrchu gwaith newydd.

Wedi’i seilio ar ymchwil Andre yn edrych ar y cydberthnasau hanesyddol, damcaniaethol ac ymarferol rhwng paentio a chelfyddyd perfformio, gwnaeth y Prosiect Maes “Perfformiad Paentio” annog cyfranogwyr i ystyried y weithred gorfforol o baentio, drwy arwyddion a haniaethu, fel proses berfformiadol. I Iestyn, roedd hyn yn gyfle i ystyried paent mewn ffordd newydd.

“Pan ddechreuais i yn CSAD, roedd fy mryd ar baentio a gwneud printiau. Roeddwn i’n fawr feddwl y byddai gennyf ddiddordeb mewn celfyddyd perfformio. Fe wnaeth prosiect maes Andre fy helpu i ddeall mwy am y broses berfformio a sut gwnaeth artistiaid fel Jackson Pollock neu Yves Klein ddefnyddio elfennau o berfformiad yn eu gwaith, gan barhau i ystyried eu hunain yn beintwyr”.

Trwy ystyried syniadau ynghylch egni'r gwaith yn hytrach na chanolbwyntio ar ganlyniad sefydlog, daeth Iestyn o hyd i ffordd o gyfuno ei ddau ddiddordeb - celf a rygbi - i archwilio ffyrdd o ddarlunio symudiad. Dechreuodd hyn trwy ddefnyddio technegau paentio a pherfformio i ddangos effaith rygbi, ac mae wedi datblygu i ddefnyddio technegau ffotograffig strobosgopig i ddarlunio symudiadau ac addasiadau’r corff mewn llun lonydd.

“Mae gen i ddiddordeb yn y cydbwysedd rhwng y pwnc ac ansicrwydd y llun. Drwy ganolbwyntio ar y broses o greu’r llun, mae wedi fy ngalluogi i arbrofi ac archwilio cyfryngau y tu hwnt i'r rhai yr oeddwn i’n ‘gyfarwydd’ â nhw pan ddechreuais fy ngradd”.

Gyda chefnogaeth Arddangoswr Technegydd (Ffotograffiaeth) CSAD, Mal Bennett, arweiniodd hyn at gydweithrediad â Darlithydd Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Lucy Holmes a gwirfoddolwyr o dîm rygbi Met Caerdydd, sy'n cyfuno bwriad artistig Iestyn ag ymchwil Lucy ar ddadansoddi symudiad a defnyddio dadansoddiad perfformiad a thechnoleg i roi adborth i athletwyr.

“Mae wedi bod yn broses ddysgu go iawn ac mae pobl wedi bod ar gael i'm helpu i brofi syniadau a datrys y problemau technegol a gododd wrth i'r gwaith ddatblygu. Mae gweithio gydag Andre, Mal a Lucy wedi helpu i roi hyder imi roi cynnig ar wahanol ddulliau a gweld fy ymarfer mewn ffordd newydd.”

 

Cyfathrebu Graffig: Profiad gwaith

 

BA Graphic Communication Work Experience  

Dan arweiniad Ian Weir, mae'r Prosiect Maes Profiad Gwaith yn annog myfyrwyr, gyda chefnogaeth eu timau pwnc, i gael lleoliadau gwaith gyda busnesau a sefydliadau yn y DU.

Yn ystod y lleoliad pedair wythnos o hyd, bydd myfyrwyr yn gweithio o fewn un neu ddau sefydliad. Mae'r profiad yn helpu artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr i ddeall y cyd-destun y byddant yn gweithio o’i fewn ar ôl graddio ac i ddarganfod yr amrywiaeth eang o rolau o fewn stiwdios, orielau, amgueddfeydd a sefydliadau eraill yr hoffent eu gwneud o bosibl yn y dyfodol.

Fe wnaeth y myfyriwr Cyfathrebu Graffig, Jordon Gazzard, fyfyrio ar ei leoliad gwaith gyda thîm dylunio Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd:

Roedd fy mhrofiad cyfan gyda Taz ac Undeb y Myfyrwyr yn gadarnhaol iawn. Roeddwn yn nerfus iawn cyn dechrau'r prosiect hwn oherwydd nid oeddwn yn gwybod beth i'w ddisgwyl wrth ddylunio mewn gweithle go iawn. Fe ddysgais yn gyflym fod angen gweithio’n gyflym iawn o fewn tîm dylunio mewnol. Mae’r gwaith yn weddol debyg i'r hyn rwy'n ei wneud ar fy nghwrs a dibynnir yn fawr ar dimau dylunio i hyrwyddo digwyddiadau. Pe na baem o gwmpas rwy'n siŵr y byddai popeth yn cwympo’n ddarnau!

Roedd gennym gyfrifoldeb mawr fel dylunwyr i gyflawni'r gwaith yn gyflym ac yn effeithlon a'r hyn oedd yn ddiddorol oedd lefel y gwaith a oedd yn cael ei gynhyrchu. Gwellodd safon fy ngwaith yn bendant, oherwydd roeddwn yn treulio mwy o amser yn canolbwyntio ar roi sylw i fanylion yn fy ngwaith, a bydd hynny’n parhau, trwy fy ngwaith dylunio yn y dyfodol.

Mae'r prosiect maes hwn wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi wrth siarad ag eraill ac mae gennyf lawer mwy o hyder yn fy ngalluoedd fy hun fel dylunydd - ac yn anad dim, rwyf wedi cael cyfle i weld sut beth fyddai bywyd gwaith. Ers hyn, mae fy awydd i weithio fel dylunydd wedi'i gadarnhau. Byddwn yn argymell lleoliad gwaith i unrhyw un, mae wedi dysgu llawer i mi ac wedi bod yn brofiad aruthrol o gadarnhaol i mi, oherwydd rwyf wedi derbyn cynnig gwaith a gyflwynwyd yn sgil fy holl waith caled.

Cwrs Gwneuthurwr yn creu Gwneuthurwyr

Wrth i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr Dylunydd Artist: Gwneuthurwr baratoi i raddio, mae Ingrid Murphy a Jon Pigott yn myfyrio ar sut mae strwythur y cwrs a gwaith y myfyriwr wedi helpu i ddatblygu eu gwaith ymchwil a'u hymdriniaeth o addysgu.

Gwneud sydd wrth wraidd y cwrs Dylunydd Artist: Gwneuthurwr. Mae’n galluogi myfyrwyr i ymhél ag arferion a ddefnyddir mewn amrediad eang o ddisgyblaethau creadigol, gan gynnwys celf, dylunio a chrefft, gan bontio'r bwlch rhwng sgiliau traddodiadol a thechnolegau newydd, megis castio efydd, gwaith saer, argraffu 3D a realiti estynedig.

Mae athroniaeth y cwrs yn cael ei yrru gan ddiddordebau’r staff addysgu - arbrofi gydag offer a diwylliant materol - ond mae hefyd yn datblygu mewn ymateb i anghenion a diddordebau'r myfyriwr.

Eglura Jon “Nid disgyblaeth draddodiadol yw’r Gwneuthurwr. Mae’n dechrau gyda’r deunyddiau a'r broses a gymhwysir i amrediad o gyd-destunau newydd a thraddodiadol. O ganlyniad, mae'r myfyrwyr yn arbrofi'n barhaus â deunyddiau, cyd-destunau ac offer i ddatblygu deilliannau. Mae'r dull anhierarchaidd hwn o ymdrin â thechnegau a disgyblaethau yn creu amgylchedd lle rydym yn mynd ati’n barhaus i edrych ar dechnolegau newydd gyda'n myfyrwyr, ac mae hyn yn llywio ein hymchwil ein hunain”.

Enghraifft o hyn yw gwaith Hannah Morgan a ysbrydolwyd gan grochenwaith iasbis unigryw Wedgewood. Mae'r gwrthrychau traddodiadol hyn a wnaed â llaw wedi'u cyfuno â sganio 3D a melino CNC i greu cyfres o wrthrychau sydd wedi'u haddurno â lluniau o fyfyrwyr a staff.

Hannah Morgan 

Trwy weithio gyda'r myfyrwyr i arbrofi ar Lithoffanau (techneg draddodiadol lle caiff dyluniadau eu hysgythru ar borslen tryloyw tenau iawn, a gellir dim ond eu gweld yn glir pan gaiff golau ei ddisgleirio y tu ôl iddynt), daeth yn amlwg i Ingrid y gellid defnyddio melino CNC i ail-greu’r effaith, gan gyflwyno technoleg newydd i broses draddodiadol.

Mae'r dull hwn yn cynhyrchu perthynas symbiotig lle y mae ymchwil ac ymarfer yn llywio'r cwrs, a’r cwrs yn llywio ymchwil ac ymarfer. O ganlyniad, mae ymchwil wedi’i ymwreiddio yn strwythur Dylunydd Artist: Gwneuthurwr ac mae wedi helpu i ddatblygu’r arddull addysgu arloesol y mae’r cwrs yn adnabyddus amdano. Cydnabu hyn yn ffurfiol yn 2015 gan Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol, a gyflwynwyd i Ingrid Murphy am ei gwaith ar greu amgylcheddau dysgu ac addysgu ymdrochol, boed hwy’n rhai ffisegol, cymdeithasol neu rithwir sy'n hyrwyddo ymgysylltiad i ddysgwyr.

 

Poppy Farrugia: MSc Dylunio Cynnyrch

Poppy Farrugia 

Ym mis Mawrth eleni, ymgymerodd Poppy Farrugia â'i lleoliad diwydiannol yn yr Adran Lawfeddygol a Phrosthetig - PDR fel rhan o'i MSc mewn Dylunio Cynnyrch. Gwnaeth Dominic Eggbeer (Pennaeth Llawfeddygol a Phrostheteg - PDR) gyflwyno Poppy i Tom Wheeler a oedd wedi cael anaf plecsws breichiol 4 blynedd yn ôl yn dilyn damwain beic mynydd, gan adael ei fraich dde wedi'i pharlysu. Ers hynny mae Tom wedi datblygu ffrâm fraich ffibr carbon bwrpasol sy'n caniatáu iddo feicio eto oherwydd y diffyg cynhyrchion sydd ar gael i’w helpu i wneud adferiad.

Cafodd Poppy y dasg o ddatblygu gwybodaeth newydd ym maes dyfeisiau orthoteg pwrpasol ar gyfer unigolion sy'n byw ag anafiadau plecsws breichiol, a deall sut gall dyfeisiau adsefydlu fodloni dyheadau defnyddwyr yn well heb y gost uchel. Gan gymhwyso'r sgiliau ymchwil a'r wybodaeth o'i phrofiad yn y brifysgol, canfu Poppy gyfiawnhad dros y prosiect, gan nodi angen a datrys problemau ac anawsterau o fewn y cynhyrchion cyfredol sydd o gymorth i adsefydlu. Ar hyn o bryd, nid oes gan y farchnad ddyfeisiau braich sy'n benodol i chwaraeon, ac o ganlyniad, rhaid i unigolion â'r math hwn o anaf rwymo’r cymal, sy’n achosi straen ychwanegol ar y fraich sydd heb ei heffeithio.

Aeth gwaith Poppy ati i archwilio ffyrdd o ddatrys y materion hyn. Mae'r dyluniad terfynol yn addasadwy, yn hawdd ei addasu ag un llaw ac yn galluogi'r unigolyn i ddefnyddio’r ddwy fraich wrth feicio. Mae'r dyluniad terfynol hyd yma wedi'i argraffu’n gyfan gwbl mewn 3D gan ddefnyddio SLA (Stereolithograffeg). Hoffai Poppy ddiolch i Dominic Eggbeer, Tom Wheeler a PDR am eu cefnogaeth trwy gydol y prosiect.

I gael gwybod mwy am y prosiect, ewch i www.poppyfarrugia.co.uk