Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Darlunio – Gradd BA (Anrh)

Darlunio – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae darluniadau yn ddelweddau gweithredol; mae diben iddyn nhw bob tro, yn gwneud synnwyr o syniadau cymhleth. Gan y byddwch yn ddarlunwyr, byddwch yn gweithio i alluogi dealltwriaeth o bethau pob dydd – o gyfoethogi llenyddiaeth a barddoniaeth hyd at ymateb i faterion a fydd yn ymwneud â chymdeithas, o wyddoniaeth a meddygaeth hyd at wleidyddiaeth ac economeg. Byddwch yn datblygu ymatebion cyfoethog, llawn dychymyg i adeiladu eich ymarfer unigryw gan wahodd eich cynulleidfaoedd i mewn.

 sgiliau craidd mewn lluniadu a naratif, byddwch yn archwilio ac yn arbrofi gyda deunyddiau, gan ddatblygu ystod o sgiliau technegol i gael dod o hyd i’ch ieithoedd gweledol chi eich hunan y gallwch eu defnyddio i ymdrin â phynciau heriol.

Drwy ein cwricwlwm unigryw byddwch yn tyfu ymarfer y caiff ei ddiben ei ddiffinio nid yn unig gan sut y byddwch yn gwneud eich gwaith ond, yn bwysig, am beth y bydd eich gwaith yn ymwneud a sut bydd yn cyfathrebu â’r damcaniaethol a’r hanesyddol yn greiddiol iddo.

Byddwch yn profi eich darluniadau mewn amrywiaeth o amgylcheddau a sefyllfaoedd – yn archwilio y tu hwnt i fyd uniongyrchol y darlunydd drwy, er enghraifft, animeiddio, ffilm, cyfryngau printiedig a digidol, i gyd-destunoli a rhoi mynegiant i’ch disgyblaeth, gan gyfoethogi eich gwaith â dealltwriaeth well o’r amgylchedd y bydd yn gweithredu ynddo.

Mae darlunio yn ymgyrraedd ymhellach drwy’r amser. P’un ai y bydd hynny yn gweithio gyda chleientiaid a chydweithredwyr neu’n awduro ac yn cyfarwyddo eich prosiectau chi eich hunan, byddwch yn graddio â lliaws o sgiliau trosglwyddadwy.

Gan y byddwch yn fyfyrwyr darlunio, byddwch yn ymuno â’n Stiwdio Fertigol lle y byddwch yn ymchwilio, yn archwilio ac yn datgelu’r ddisgyblaeth drwy sgyrsiau dynamig, dadleuon a chyflwyniadau, gan ddatgloi grym darlunio.

Yr her yw deall a defnyddio tueddiadau gweledol mewn ffordd gritigol, gan ddatblygu eich dulliau unigryw – a hyn i gyd wrth ystyried grym delweddau mewn byd sy’n orlawn o bethau gweledol. Drwy’r tair blynedd o astudio, byddwch yn siapio’ch ymarfer unigryw chi eich hunan fel y bydd yn siarad mewn ffordd a fydd yn cynnwys eich cynulleidfa.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y Cwrs

Datgloi syniadau ar gyfer deunydd darluniadol – o amrywiaeth o bersbectifau. Byddwch yn archwilio naratif cymhwysol, lluniadu, prosesau cydweithredu a gwneud, a fydd yn cynnwys ystod eang o sgiliau megis:

  • Lluniadu arbrofol ac arsylwadol
  • Peintio
  • Gwneud printiau
  • Deall lliw
  • Cymeriadu
  • Cyfansoddi
  • Personoli h.y. gweithio gyda gwrthrychau difywyd yn gymeriadau
  • Trosiad
  • Adrodd storïau
  • Animeiddio un-ffrâm-ar-y-tro / arbrofol
  • Rhwymo llyfrau
  • Dylunio llyfrau a dylunio cloriau llyfrau
  • Darluniadau golygyddol
  • Gwneud zîn (cylchgrawn bach)
  • Dylunio poster
  • Gwneud GIF
  • Dylunio gwefan bersonol
  • Pypedwaith cysgod / pypedwaith
  • Briffiau byw / cystadlaethau

Byddwch yn dechrau meddwl am eich arbenigedd – hogi eich sgiliau ac adeiladu ar eich cryfderau. Ac yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gweithio tuag at gynhyrchu corff soffistigedig o waith i gael dangos eich brwdfrydedd dros gyfathrebu syniadau.

O’r dechrau’n deg, byddwch yn edrych ymlaen i’r dyfodol. Gallwch ddod i gysylltiad â’r diwydiant drwy friffiau byw a lleoliadau gwaith, teithio ac astudio dramor, neu gallwch ehangu eich sgiliau academaidd â phrosiect ymchwil.

Blwyddyn Un

Pwnc: Ieithoedd Gweledol – 40 Credyd
Bydd y modiwl hwn yn defnyddio cyfuniad o brofiadau gweithdy a briffiau prosiectau lle y bydd y myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth sylfaenol o ieithoedd gweledol ac yn dechrau archwilio sut gellir defnyddio delweddau gweledol i gyfathrebu syniadau, teimladau, gwybodaeth a safbwyntiau penodol.

Byddwch yn herio rhagsyniadau o ran ymarfer a swyddogaeth darlunio er mwyn dangos sut y bydd gwaith newydd yn amlygu ei hunan, ac yn gwneud hynny’n weithredol ac â phwrpas.

Bydd y myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol (e.e. lluniadu, ffotograffiaeth collage, print, delweddau byw) a sgiliau cysyniadol a fydd yn gweithio mewn cytgord ac yn eu galluogi i lunio corff o waith a fydd yn dangos y sgiliau hyn.

Bydd y modiwl chwareus, arbrofol hwn yn defnyddio testunau a sain yn gatalyddion i helpu i ymhelaethu ar sefyllfaoedd posib lle y bydd darluniadau yn gweithio’n weithredol. Bydd y cyfuniad o ddulliau a sgiliau traddodiadol ac annhraddodiadol y byddwch yn eu caffael yn y modiwl hwn yn drosglwyddadwy a byddwch yn ychwanegu atyn nhw mewn modiwlau dilynol.

Pwnc: Mewn Cyd-destunau – 20 Credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich gwahodd i archwilio arwyddocâd cyd-destun ar gyfer disgyblaeth ddarlunio drwy ymarfer adfyfyriol. Gan ystyried pwy yw eich cynulleidfa, ble caiff eich gwaith ei weld a beth yw diben eich gwaith?

Ceir cymysgedd o brosiectau, rhai â chanlyniadau penodol a rhai a fydd yn fwy rhydd ac y gallwch eu harwain. Bydd hyn yn adlewyrchu natur y ffordd y gallai darlunwyr lywio eu gyrfa drwy brosiectau dan arweiniad cleientiaid neu wedi’u cychwyn gan y myfyrwyr eu hunain.

Ar hyd y modiwl hwn, byddwch yn adeiladu ar eich profiad yn y modiwl Ieithoedd Gweledol, yn benodol yn parhau i ddatblygu sgiliau o ran eich defnydd ar ddeunyddiau, prosesau a thechnegau a’ch dealltwriaeth gyffredinol o greu delweddau a rôl naratif o fewn darluniadau.

Ystyriwch sut rydych yn datblygu eich dealltwriaeth o liw a chyfansoddiad a sut byddwch yn tyfu’ch sgiliau ym mhob elfen o luniadu o ddull arsylwadol hyd at ddull llawn dychymyg.

Maes Un: Cydweithredu – 20 credyd*
Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.

Cytser: Cysyniad – 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd sydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Blwyddyn Dau

Pwnc: Ymholi, Coreograffu, Tyfu – 40 Credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio eich byd darluniadol a rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer eich ffyrdd unigryw o weithio. Yna byddwch yn defnyddio hyn pan fyddwch yn dysgu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth gan ddefnyddio amrywiaeth o leisiau a phersbectifau.

Byddwch yn cymhwyso’ch ymarfer drwy friffiau’r tiwtoriad a briffiau cystadlaethau – wedi’u dylunio i’ch helpu i ddatblygu eich dull a’ch syniadau chi eich hunan. Bydd disgwrs, darllen ac ysgrifennu er mwyn ehangu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r pwnc yn greiddiol i hyn i gyd.

Maes Dau: Archwilio – 40 credyd*
Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

Cytser: Bwrw golwg feirniadol – 40 credyd
Drwy fwrw golwg feirniadol dros lenyddiaeth, cyfnodolion ac arddangosfeydd, byddwch yn hogi eich gallu i roi eich ymarfer dylunio o fewn cyd-destun. Cewch gyfleoedd hefyd i ryngweithio gyda myfyrwyr a staff ac i dreiddio mwy i’r meysydd a fydd o ddiddordeb i chi.

Blwyddyn Tri

Pwnc: Dod ar Draws – 40 Credyd
Mae’r modiwl hwn yn ymwneud cymaint â’ch ymholi i ieithioedd gweledol ag yw â datblygu gwaith terfynol. Byddwch yn ystyried pynciau anodd a fydd yn herio’ch sgiliau cyfathrebu. A byddwch yn archwilio ffyrdd newydd o weithio, a fydd yn mynd â chi y tu hwnt i ddulliau traddodiadol i helpu i wella’ch ymarfer creadigol.

Maes Tri: Arddangos – 40 credyd
Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Cytser: Cyfraniad – 40 credyd
Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

O’r dechrau, byddwch yn magu profiad ymarferol mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan ddatblygu eich sgiliau deunyddiol craidd. Bydd darlithoedd, y bydd aelodau o’r staff academaidd yn eu harwain, yn ehangu’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’ch maes, a bydd seminarau targedig llai wedi’u dylunio i roi arweiniad er mwyn boddhau mwy o alwadau deallusol ac ymarferol unigol.

Bydd y myfyrwyr yn gweithio hefyd gyda thiwtor personol ar hyd y tair blynedd y byddan nhw’n astudio. Bydd y tiwtoriaid personol yn cwrdd â’r myfyrwyr unwaith y tymor i gynnig cymorth ac arweiniad bugeiliol, ac i weld a yw’r myfyrwyr yn cymryd diddordeb ym mhob elfen o’r cwrs.

Bydd y tîm yn parhau i weithio yn ddarlunwyr ac ymchwilwyr yn y maes. Bydd ein Stiwdio Fertigol yn rhoi’r cyfle i’r staff, y myfyrwyr a’r gwesteion ar draws pob lefel gwrdd â’i gilydd a rhannu eu gwaith; bydd hyn yn datblygu sgiliau proffesiynol ac yn cynnwys myfyrwyr yn anuniongyrchol yn nisgwrs ehangach y ddisgyblaeth a’u rôl yn ei datblygu ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn astudio, gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 14 a 22 awr o gyswllt bob wythnos drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai ymarferol a gweithdai technegol, ar y campws ac ar-lein. Ar hyd y tair blynedd, cynigir amgylchedd dysgu llawn cyffro, yn y stiwdio ar ar-lein, a fydd yn meithrin uchelgais a thrywydd gyrfa’r myfyrwyr.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU: Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn i’ch disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig, yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.

Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn ddarlunydd a pherson deallusol cytbwys. Mae hyn wedi’i lunio ar gwricwlwm a fydd â’ch potensial mewn golwg. Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Gallwch ddewis dilyn trywydd penodol drwy ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau lle y gallwch weithio’n agos gyda busnesau neu lansio’ch busnes eich hunan ar gyfer y foment y byddwch yn graddio. Yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl.

Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i gael ymuno â chwmnïau dylunio, i weithio yn ddarlunwyr a dylunwyr mewn sefydliadau mawr, neu i sefydlu eu busnes nhw eu hunain. Bydd rhai yn cael mwy o hyfforddiant, drwy wneud TAR er enghraifft. Bydd rhai yn dewis astudio ymhellach drwy wneud cymhwyster Meistr yn yr Ysgol Gelf a Dylunio a bydd cyfleoedd iddyn nhw fynd â hyn ymhellach eto drwy Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Dylunio.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill: Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr A Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag Arweinydd y Pwnc Amelia Huw Morgan:

Ebost: AHuwMorgan@cardiffmet.ac.uk



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS:
W220 - gradd 3 blynedd

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. Pedair blynedd amser llawn​ os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​​​​

CWRDD Â’R TÎM
Cwrdd â’r Tîm: Amelia Huw Morgan

Mae'r Uwch Ddarlithydd Amelia Huw Morgan yn trafod ei hangerdd dros ddarlunio a sut mae'n rhannu ei sgiliau a'i brwdfrydedd gyda myfyrwyr Darlunio Met Caerdydd.

ASTUDIO CELF DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Cwrdd â’r Tîm: Huw Williams

Mae'r darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio, Huw Williams yn sôn am y manteision o astudio Celf a Dylunio yn ddwyieithog.

ARCHWILIWCH EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith Gweithdy Gwneud Printiau

Ewch ar daith rithwir o'n Gweithdai Gwneud Printiau.

YMGEISIO I YSGOL CELF A DYLUNIO CAERDYDD
Beth i'w Gynnwys yn Eich Portffolio

Mae Swyddog Recriwtio Myfyrwyr a myfyriwr graddedig o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Abbie, yn rhannu ei chynghorion portffolio.