Skip to main content

Dylunio Byd-eang MA

Fel cymuned ddylunio fyd-eang, rydym yn rhannu'r gwerthoedd, yr egwyddorion, yr arferion a'r prosesau sy'n creu gweithredoedd ac allbynnau treiddiol a all fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n bygwth dyfodol y blaned a'i phobloedd.

Rhaid i ni wneud y gorau o ddychymyg, myfyrdod a gweledigaeth ein crefft i ddwyn ynghyd ac ysgogi gwyddonwyr, technolegwyr, ecolegwyr a gwleidyddion mewn cenhadaeth i wella bywydau nawr.

Mae ein rhaglen Dylunio Byd-eang MDes ar gyfer dylunwyr sydd am chwarae eu rhan yn y genhadaeth honno. Rydym yn chwilio am raddedigion ymroddedig sy'n teimlo'n angerddol am ysgogi newid byd-eang, lleol ac unigol er mwyn adeiladu dyfodol cynaliadwy a bywiog i'r blaned, ei hecolegau a'i phobl.

Mae'r rhaglen hon yn caniatáu i fyfyrwyr o gefndiroedd ymarfer a chefndiroedd heblaw ymarfer archwilio cynaliadwyedd, moeseg, iechyd, diogelwch a'r amgylchedd drwy ddiwylliant ymchwil sy'n blaenoriaethu meithrin perthynas, archwilio trawsddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol a chydweithredu â rhanddeiliaid.

Gan weithio'n draws-gydweithredol â chymunedau lleol a byd-eang, byddwch yn datblygu prosiect y byddwch wedi'i ganfod eich hun, gan bennu bwriad i ragweld, gweithredu a rhoi trawsffurfiad ar waith sydd o arwyddocâd byd-eang.

Drwy gydol y rhaglen byddwch yn ymgysylltu â chysyniadau, dulliau ac ymarfer sy'n datblygu eich dealltwriaeth o sut mae newid yn digwydd. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar gyfeiriad dylunio yn y dyfodol a sut y gall gweithgarwch dynol greu gweledigaethau amgen mewn ffordd sydd ar yr un pryd yn chwareus ac yn fentrus, yn ogystal â thrylwyr iawn.

Waeth a yw eich diddordeb mewn ymarfer a arweinir gan ymchwil neu ymchwil a arweinir gan ymarfer, rydym yn disgwyl i chi ddod o hyd i'ch ymchwil o fewn y cyd-destunau Byd-eang, Moesegol, Cymdeithasol a Gwleidyddol ehangach sy'n berthnasol i dirwedd ymchwil Celf a Dylunio cyfoes.

Mae cynnwys cwrs dangosol yn cynnwys:

  • Moeseg Dylunio

  • Anthropoleg Dylunio
  • Dylunio ar gyfer Ymgyrchu

  • Dylunio Cyfranogol

  • Dyfodol Cynaliadwy

  • Athroniaeth Ddylunio a'r Ôl-ddyniaethau

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol fel rhan o'r Rhaglen MDes Dylunio Byd-eang. Mae pob modiwl yn cefnogi'r broses o ailadrodd syniad lle mae myfyrwyr yn pennu bwriad i herio systemau gwleidyddol, cymdeithasol, moesegol ac economaidd sy'n bodoli eisoes.


Semester 1

Yn Semester 1 byddwch yn cyflawni dau fodiwl cyfochrog integredig:


  • ART7777 Newid drwy Ddylunio (40 credyd)

  • ART7771 Cyd-destun a Methodolegau Rhan 1 (20 credyd)

Mae'r modiwlau hyn yn gyd-ddibynnol, gan roi'r modelau damcaniaethol a chysyniadol i chi sy'n eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth wybodus a beirniadol o Ddylunio Byd-eang mewn ymarfer.

Bydd Newid drwy Ddylunio yn eich gwahodd i archwilio elfennau gwrthffeithiol sy'n herio ein tueddiad i ragfynegi'r dyfodol ar sail tueddiadau ystadegol.

Bydd Newid drwy Ddylunio yn archwilio'r syniad o "beth os" yn llawn sy'n ein galluogi i ddeall yn well y ffordd yr ydym yn gweld y posibilrwydd o weithredu yn y presennol. Rydym yn ystyried sut y gallem fywiogi newid drwy archwilio amrywiaeth o Fethodolegau sy'n hyrwyddo ymgysylltiad cyfrifol â gweithredu dynol.


Semester 2

Yn Semester 2 byddwch yn cyflawni dau fodiwl cyffredin cyfochrog integredig: Syniad a Chyd-destunau..


  • ART7773 Syniad (40 credyd)

  • ART7772 Cyd-destun a Methodolegau Rhan 2 (20 credyd)

Nod y modiwlau hyn yw cefnogi ysgolheictod uwch parhaus i roi cyd-destun a gweithredu'r cynnig ymchwil a ddatblygwyd gennych yn Semester 1 yn ymwneud â phryderon byd-eang, moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol.

Wrth i'r posibiliadau a archwiliwyd yn Semester 1 esblygu tuag at fwriadau mwy pendant, mae'r modiwl Syniad yn cynnig cyfleoedd i ystyried elfennau perthynol Dylunio Byd-eang.

Bydd cysylltiadau o'r fath yn cael eu harchwilio, yn rhannol, drwy gydweithio â myfyrwyr Meistr o raglenni celfyddydol eraill, gan gynnig cyfleoedd cyfnewid a rhyngweithio a all gyfoethogi a gwneud ein hymarfer ein hunain o ddylunio yn unigryw. Law yn llaw â Syniad,byddwch yn astudio'r modiwl Cyd-destunau,lle byddwch yn archwilio'r paradeimau, y dylanwadau, y galluogwyr a'r ffiniau sy'n helpu i benderfynu ar y gallu i weithredu sydd yn ein syniad.

Mae'r synergeddau a gynigir gan y modiwlau hyn yn osgoi'r duedd i gymhwyso dulliau i weithredoedd yn unig. Yn hytrach, rydym yn disgwyl i chi brofi dulliau newydd sy'n ailfeddwl, ail-siapio a tharfu ar draddodiadau ymchwil dylunio. Rhaid i'r technegau a'r offer a ddefnyddiwch gyfrannu at - ac ail-ddychmygu hyd yn oed – ein dealltwriaeth o'r modd mae ein syniadau'n cyfrannu at werthoedd a rennir ar gyfer byw - o'r lleol i'r byd-eang.


Semester 3

Yn Semester 3 byddwch yn cyflawni un modiwl: Allbwn.Mae'r modiwl yn cynnwys dau weithgaredd ysgrifenedig integredig a arweinir gan ymarfer sy'n cyfateb i 60 credyd.


  • ART7774 Allbwn (60 credyd)

Mae Allbwn yn cynrychioli penllanw eich prosiect ymchwil ac astudio ar lefel Meistr. Mae'n cydgrynhoi canfyddiadau eich ymchwil drwy wireddu eich prosiect mawr i ffurfio arddangosfa wedi'i churadu (Mehefin/Gorffennaf) a phapur neu erthygl ysgrifenedig. (Mis Medi).

Throughout Drwy gydol Allbwn bydd disgwyl i chi gyflwyno, cyfathrebu a lledaenu eich syniadau, eich dulliau a'ch canfyddiadau canolog o safbwynt o werthuso beirniadol gwybodus.

Disgwylir i'r allbynnau a asesir fod yn arteffactau ymarferol, ynghyd â chorff sylweddol o ddogfennaeth broffesiynol ategol sy'n dangos yn glir y lefel uchaf o ddefnydd o ddulliau, sgiliau a phrosesau ymchwil.

Mae Allbwn yn hunangyfeiriedig yn bennaf, a chaiff ei ategu gan diwtorialau unigol a grŵp rheolaidd, mentora, a seminarau a arweinir gan fyfyrwyr sy'n ysgogi trafodaeth a beirniadaeth ar y gwerthoedd, yr egwyddorion, yr arferion a'r prosesau a ymgorfforir yn eu prosiectau.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd disgwyl i fyfyrwyr gydgrynhoi eu canfyddiadau o fodiwlau eraill a'u cyfleu i gynulleidfaoedd academaidd ac anacademaidd penodol drwy ddulliau priodol.


Pwyntiau gadael

  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 60 credyd, gellir dyfarnu Tystysgrif Ôl-raddedig i fyfyrwyr.
  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 120 credyd, gellir dyfarnu Diploma Ôl-raddedig i fyfyrwyr
  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 180 credyd, dyfernir Gradd Meistr i fyfyrwyr

Dysgu ac Addysgu

Mae natur y rhaglen Dylunio Byd-eang yn golygu ei bod yn dibynnu ar brofiad byd go iawn tîm staff craidd a darlithwyr gwadd. Yr ymarferwyr medrus hyn yw hwyluswyr allweddol eich dysgu ac, i adlewyrchu hyn, defnyddir amrywiaeth o fecanweithiau cyflwyno, gyda ffocws cyffredin gan y byddant yn ceisio datblygu eich sgiliau fel dysgwyr annibynnol rhagweithiol a myfyriol.

Yn ogystal, dyrennir Tiwtor Personol i bob myfyriwr ac yn ogystal ag aelodau staff pwnc arbenigol o fewn yr Ysgol. Gyda'i gilydd nhw yw'r tîm goruchwylio.

Mae pob prosiect yn dechrau gyda sesiwn friffio fyw, a dogfen friffio sydd ar gael drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir (VLE), Moodle.

CDP (Cynllun Datblygu Personol): Byddwch yn cadw dyddiaduron myfyriol a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o gyrff gwaith asesedig; bydd tiwtorialau academaidd a'r tiwtorialau bugeiliol bob tymor yn monitro ac yn ymateb i bryderon sy'n codi ar draws eich profiad dysgu a byddant yn canolbwyntio ar eich helpu i fireinio eich amcanion datblygu personol cyffredinol a'ch arddull ddysgu.

Darlithoedd: Mae darlithoedd yn cyflwyno rhaglen astudio gydlynol ac ysbrydoliaeth gyffredinol. Cânt eu cefnogi gan ddeunydd gweledol a/neu destunau. Gall y cynnwys fod yn hanesyddol, yn ddamcaniaethol, yn gyd-destunol neu'n ymarferol. Lle bo'n briodol, caiff darlithoedd eu strwythuro i'ch cynnwys mewn trafodaeth.

Tiwtorialau: Cyfarfodydd myfyrwyr neu grwpiau o fyfyrwyr gyda darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi

  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion mewn gwybodaeth gefndir.

Seminarau: Amcan seminarau yw annog cyflwyno eglur a dadansoddol a, thrwy drafodaethau grŵp, datblygu dealltwriaeth o'r pwnc a'i gyd-destun. Mae hwn yn ddull addysgu a dysgu canolog, yn enwedig wrth gysylltu'r hyn a ddysgir â'ch ymchwil bersonol ac yn ôl i bwnc Darlunio ac Animeiddio.

Gall seminarau fod ar dair ffurf:

  • Rhai sy'n cael eu harwain gan staff lle darperir testunau, delweddau neu arteffactau i chi gyflwyno dadansoddiad i'ch grŵp.  

  • Rhai lle byddwch chi'n dewis testunau, delweddau neu arteffactau i'w trafod yn eich grŵp. 

  • Rhai lle byddwch chi'n cyflwyno eich gwaith neu'ch canfyddiadau ymchwil eich hun.  

Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Mae seminarau'n cynnig profiad gwerthfawr i chi mewn sgiliau cyflwyno, blogiau, wicis neu bodlediadau yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
 
Gweithdai ymarferol: Mae gweithdai ymarferol yn eich galluogi i ymarfer a mireinio eich sgidiau mewn amgylchedd cefnogol lle cewch adborth gan aelodau staff. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
 
Sesiynau stiwdio ymarferol: Mae sesiynau stiwdio ymarferol, sy'n pwysleisio cymhwyso egwyddorion sylfaenol Darlunio ac Animeiddio, yn canolbwyntio ar ddatrys problemau a datblygu atebion creadigol a thechnegol i broblemau dylunio. Mae ymarferion efelychu a phrosiectau byw'n cynnig her ysgogol i chi weithio'n annibynnol ac mewn grwpiau i brofi heriau busnes go iawn.
 
Fe'ch anogir i fynegi eich cynigion mewn modd gwrthrychol a beirniadol ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol sy'n hanfodol i entrepreneur neu arloeswr.
 
E-ddysgu: Defnyddir amgylchedd dysgu rhithwir (VLE) yn helaeth ar y rhaglen i wella profiad dysgu'r myfyrwyr. Ar wahân i'w ddefnydd eang fel ystorfa ar gyfer deunydd dysgu ac adnoddau, fe'i defnyddir i'ch cynnwys yn eich dysgu eich hun. Mae'n werthfawr hefyd fel ffordd o gyfathrebu, cynnig adborth a deunyddiau dysgu ychwanegol. Rhoddir adborth electronig drwy'r amgylchedd dysgu rhithwir.
 
Trafodaethau Beirniadol: Mae trafodaethau sy'n cynnwys staff a myfyrwyr yn nodwedd ganolog o'r beirniaid mewn aseiniadau a gwaith prosiect a drefnir fel rhan o raglen y stiwdio. Cynhelir trafodaethau beirniadol ym mhob cam asesu (interim neu derfynol) aseiniad neu brosiect yn y modiwlau stiwdio lle byddwch yn cyflwyno eich gwaith i'ch grŵp blwyddyn a'ch tiwtor i gael adborth a thrafodaeth. Mae'r digwyddiad hwn yn gonglfaen yn y broses ddysgu. Caiff aseiniadau eu cynllunio i sicrhau eich bod yn mynd i'r afael ag amrywiaeth eang o astudiaethau achos neu gynsail sy'n dangos amrywiaeth o sefyllfaoedd neu atebion. Mae'r broses o drafodaeth feirniadol yn sicrhau eich bod yn dysgu o waith sy'n cael ei wneud gan eraill yn ogystal â thrwy eich ymdrechion eich hun.

Asesu

Asesir y deilliannau dysgu yn y modiwlau drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau a gwaith prosiect ac ati, fel y gwelir yn nisgrifiadau modiwlau unigol.

Mae asesu'n digwydd ar adegau strategol yn y flwyddyn academaidd i alluogi a chefnogi eich datblygiad parhaus. Mae trafodaeth feirniadol a thiwtorialau grŵp yn cynnig cyfleoedd adborth parhaus. Defnyddir asesu gan gyfoedion a hunanasesu'n helaeth.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae'r rhaglen MDes mewn Dylunio Byd-eang yn galluogi myfyrwyr i wella eu gyrfaoedd fel dylunwyr sefydledig, neu i ddod yn ddylunwyr sefydledig sy'n arwain at yrfa, PhD, neu at Ddoethuriaeth Broffesiynol naill ai mewn celf neu ddylunio. Mae Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn cynnig rhaglenni Doethurol Proffesiynol mewn Celf a Dylunio.

Nod y rhaglen MDes mewn Dylunio Byd-eang yw galluogi myfyrwyr i gyflawni priodoleddau megis mwy o hyblygrwydd, y gallu i addasu, cyfrifoldeb unigol ac ymreolaeth fel dylunwyr neu ymchwilwyr proffesiynol.

Nod y cwrs yw datblygu unigoliaeth, creadigrwydd, hunanddibyniaeth, menter, a'r gallu i gyflawni mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym yn ogystal â chynyddu cymhwysedd gyda sgiliau a dulliau ymchwil a fydd yn gwneud graddedigion yn gyflogadwy iawn fel academyddion a/neu ymchwilwyr, neu'n eu galluogi i ddatblygu ymarfer gweithredol a pharhaus fel dylunwyr.

Mae'r MDes mewn Dylunio Byd-eang yn galluogi graddedigion, yn ogystal ag ymarferwyr canol gyrfa a phroffesiynol o fewn a thu allan i ddisgyblaeth Dylunio Byd-eang drafod ac archwilio strategaethau dylunio ar gyfer newid.

Mae pob myfyriwr yn derbyn tiwtorialau Portffolio Datblygiad Personol (PDP) unigol i gefnogi cyflogadwyedd a dysgu gydol oes. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gadw dyddiaduron dysgu sy'n dangos tystiolaeth o ddogfennaeth weledol barhaus sy'n integreiddio cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio er mwyn eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr effeithiol a hyderus.

Ar ddiwedd y rhaglen, mae canran uchel iawn o raddedigion MA yn sefydlu neu'n parhau â'u hymarfer proffesiynol, a alluogir gan y cysylltiadau y maent wedi'u gwneud â stiwdios dylunio neu sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau gweledol a dylunio. Mae rhai'n dewis parhau â'u hastudiaethau Dylunio Byd-eang yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd drwy gyflawni PhD.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf adran dosbarth cyntaf neu adran uwch ail ddosbarth (dosbarthiad gradd 1af neu 2.1) mewn pwnc priodol, a/neu bydd gennych brofiad neu statws proffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth dylunio, crefftau dylunio, neu ddiwydiannau creadigol (yn seiliedig ar Ddysgu Blaenorol Achrededig (RPL) a asesir neu Ddysgu drwy Brofiad Blaenorol Achrededig (RPEL) a asesir), neu ddisgyblaeth sy'n gysylltiedig â'u rhaglen astudio. Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau RPL a RPEL ar gael yma. 


Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Cyn gwneud cais, gofynnir i fyfyrwyr yr UE/Rhyngwladol gysylltu â Dr Fiaz Hussain  fhussain@cardiffmet.ac.uk i drafod y gweithdrefnau angenrheidiol sy'n ymwneud ag astudio gyda ni.


Sut i wneud cais
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i'r brifysgol yn uniongyrchol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma: 

Llenwch y ffurflen Datganiad Personol orfodol hefyd a'i hatodi i'ch cais. Gellir ei lawrlwytho Llenwch y ffurflen Datganiad Personol orfodol hefyd a'i hatodi i'ch cais. Gellir ei lawrlwytho yma. Caiff pob myfyriwr ei gyfweld ar gyfer y cwrs hwn. Os nad yw cyfweliad wyneb yn wyneb yn bosibl, defnyddir Skype i'w gynnal.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chymorth Ariannol
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r cymorth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.cardiffmet.ac.uk/fees.


Ffioedd rhan-amser
Codir ffioedd fesul modiwl unigol oni nodir yn benodol: Israddedig = 10 credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd Yn gyffredinol, rydym yn gweld bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaeth Israddedig ac Ôl-raddedig; gellir cael yr union gost trwy gysylltu ag Arweinydd y Rhaglen yn uniongyrchol.


Costau astudio ôl-raddedig yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd:
Deunyddiau

Byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau a ddefnyddir fel rhan o sesiynau cynefino gweithdai sydd ar yr amserlen. Cewch fynediad at ddeunyddiau wedi'u hailgylchu hefyd a chewch eu defnyddio mewn ardaloedd gweithdy lle maent ar gael. Yn gyffredinol, bydd angen i chi brynu deunyddiau ar gyfer prosiectau unigol a ddefnyddir yn y stiwdio a'r gweithdai fel y bo'n briodol.

Sylwch y bydd y costau'n amrywio yn dibynnu ar raddfa a gofynion unigol eich gwaith. Yn ogystal, bydd angen cyllidebu ar gyfer prynu offer a chyfarpar personol untro. Costau eraill fel argraffu, prynu gwerslyfrau; a bydd angen i chi dalu cost lleoliadau dewisol hefyd. Ar y cyfan, ni chodir tâl am ddefnyddio offer. Mae mynediad i FabLab Cardydd yn fater i'w drafod; mae'n cynnig ffioedd is i fyfyrwyr ei ddefnyddio.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer gwybodaeth gyffredinol am gyrsiau Ôl-raddedig CSAD, cysylltwch â'r Tiwtor Derbyniaday, Amelia Huw-Morgan ar ahuwmorgan@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i'r cwrs, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Sarah Smith: smsmith@cardiffmet.ac.uk.



Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Lleoliad Astudio: 
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn yn llawn neu ddwy flynedd yn rhan-amser.