Hafan>Gyn-fyfyrwyr>Diweddaru eich manylion

Diweddaru eich manylion

Os ydych chi am glywed y newyddion diweddaraf ym Met Caerdydd, cyrchu buddion cyn-fyfyrwyr a chymorth gyrfaoedd a darganfod mwy am gyfleoedd graddedigion newydd, gwnewch yn siŵr bod eich gwybodaeth gyswllt yn gyfredol ac fe wnawn ni'r gweddill! 



Cofrestru ar gyfer cyfrif cyn-fyfyrwyr

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer cyfrif cyn-fyfyrwyr eto ac eisiau diweddaru eich manylion, dewiswch 'Cofrestru defnyddiwr newydd'. 

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, fel y gallwn wirio eich bod wedi cofrestrua chysylltu â'ch manylion cofnod myfyriwr. Bydd eich cyfrif newydd yn cael ei sefydlu cyn pen 5 diwrnod gwaith. 


Diweddaru eich manylion

Os oes gennych gyfrif a bod eich manylion cyswllt wedi newid, (er enghraifft, mae gennych rif ffôn newydd, cyfeiriad e-bost newydd, neu hyd yn oed swydd newydd), gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif ar unrhyw adeg i ddiweddaru'ch manylion cyswllt a dewisiadau cyfathrebu.


Sut rydyn ni'n defnyddio'ch data
Darllenwch ein rhybudd prosesu data cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr i ddarganfod sut y byddwn yn trin ac yn defnyddio'ch data.