Hafan>Gyn-fyfyrwyr>Canllaw digwyddiadau

Canllaw digwyddiadau

Trefnu aduniad

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal aduniad gyda'ch cyd-Gyn-fyfyrwyr? Gallwn ni helpu! 

Gall y tîm Cyn-fyfyrwyr eich tywys ar sut i gynllunio eich aduniad, anfon gwahoddiadau i hen ffrindiau a hyrwyddo eich digwyddiad.

Gwahodd eich gwesteion

Mae gan ein cronfa ddata filoedd o Gyn-fyfyrwyr Met Caerdydd o ystod o grwpiau blwyddyn y gallwn drosglwyddo eich gwahoddiadau iddyn nhw*. 

Neu gallwn ofyn iddyn nhw a ydyn nhw'n hapus i ni rannu eu manylion cyswllt gyda chi er mwyn i chi allu cysylltu â nhw eich hunain! 

Gallwn chwilio ein cronfa ddata yn seiliedig ar:

  • blwyddyn graddio
  • cwrs astudio
* Sylwch mai dim ond y rheiny sydd wedi dweud eu bod yn fodlon derbyn gohebiaeth gan Met Caerdydd y gallwn gysylltu â nhw.
 

Cynllunio beth i'w wneud

Gallwn ni roi cyngor ar lefydd i fwyta, neu lefydd i ymweld os nad ydych chi'n gyfarwydd â Chaerdydd ac angen help i benderfynu beth i wneud yn ystod eich arhosiad.

Gallwn gysylltu â'ch adran a helpu trefnu teithiau neu ymweliadau adrannol (lle bo'n bosibl) i weld beth sydd wedi newid ers eich dyddiau prifysgol!

Dod o hyd i leoliad

Os hoffech gynnal eich aduniad ar y campws, gallwch ddarganfod eich opsiynau drwy gysylltu â'n tîm Gwasanaethau Cynhadledd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal eich aduniad yn y bar UM, cysylltwch ag Undeb y Myfyrwyr.

Dod o hyd i le i aros

Gall cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd gael mynediad i ostyngiadau arbennig gan lawer o brif westai Caerdydd.

Os ydych chi'n cynllunio aduniad haf ac angen rhywle i aros, beth am ystyried eich hen lety i ychwanegu hyd yn oed mwy o hiraeth i'ch profiad?
 
Rhwng diwedd Mehefin a dechrau Medi, mae Met Caerdydd yn cynnig llety i deuluoedd, grwpiau a theithwyr unigol.
Neu rhowch wybod i ni am eich aduniad a gallwn ddysgu am yr argaeledd ar eich cyfer.


Hyrwyddo eich aduniad

Gallwn rannu manylion eich aduniad ar ein cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyrau digidol chwarterol neu e-byst misol i helpu i ddod o hyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu.

Helpwch ni i dyfu ein rhwydwaith cyn-fyfyrwyr

Mae'n bosibl, drwy gydol eich cynllunio aduniad, eich bod yn dod o hyd i Gyn-fyfyrwyr nad ydynt wedi ymuno â'n cymuned eto. Byddem yn gwerthfawrogi os byddech yn annog unrhyw un yn eich grŵp i ymuno fel y gallwn wneud ein cymuned yn fwy byth ac ymgysylltu â mwy o gyn-fyfyrwyr Met Caerdydd.

Rhannu eich lluniau 

Ar ôl i'ch aduniad ddigwydd, byddem wrth ein boddau'n clywed am sut yr aeth a gweld unrhyw luniau o'r achlysur. Os ydych chi'n hapus i ni, gallwn wedyn rannu'r rhain gyda'r gymuned cyn-fyfyrwyr gyfan.

Cysylltu â ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynllunio aduniad ac am i ni helpu gydag unrhyw un o hyn, e-bostiwch ni ar alumni@cardiffmet.ac.uk.