Hafan>Llety>Sut mae gwneud cais?

Llety - Sut mae gwneud cais?


Er mwyn gwneud cais bydd angen naill ai eich ID myfyriwr Met Caerdydd neu rif ID UCAS arnoch. Os hoffech dderbyn Gwybodaeth Tai Sector Preifat, cysylltwch â'r Gwasanaethau Llety yn uniongyrchol yn accomm@cardiffmet.ac.uk.

Os ydych chi'n cael anhawster yn dod o hyd i'ch cyfrinair ar gyfer eich Cais Neuaddau, ewch i'ch cysylltiadau e-bost ac ychwanegwch accomm@cardiffmet.ac.uk a accomoffers@cardiffmet.ac.uk. Bydd hyn yn atal e-byst rhag mynd i mewn i'ch blwch sothach. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn defnyddio cyfeiriad gmail. Rydym yn argymell nad ydych yn defnyddio gmail na chyfeiriad e-bost ysgol.


Blaenoriaeth ar gyfer ystafell mewn neuaddau

Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer ystafell yn y neuaddau preswyl i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Wrth ddyrannu ystafelloedd, rydym yn ystyried pa mor bell mae’r myfyrwyr yn byw o Gaerdydd a'r dyddiad y derbyniwyd y Cais Neuaddau ar-lein.

Bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu ein hysbysu os yw'n well ganddyn nhw fyw gyda chyd-siaradwyr Cymraeg. Yn dibynnu ar y galw, byddwn yn ceisio cwrdd â'r dewis hwnnw.​

Byddwn yn gwarantu lle i chi mewn llety a gymeradwyir gan y Brifysgol os ydych chi'n gwneud cais i fod yn fyfyriwr amser llawn ym Met Caerdydd am y tro cyntaf.


Er mwyn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer llety gwarantedig, mae angen i chi hefyd:

  • fod erioed wedi bod yn fyfyriwr amser llawn ym Met Caerdydd yn y gorffennol
  • bod wedi derbyn cynnig lle ym Met Caerdydd ac wedi gwneud Met Caerdydd eich dewis cyntaf trwy UCAS
  • cyflwyno eich cais neuadd ar-lein am lety i ni erbyn 31 Mai fan bellaf
  • bod angen y llety ar gyfer y cyfnod gosod llawn fel deiliad sengl
  • derbyn ein cynnig o lety, a thalu eich blaendal cadw i ni cyn pen saith diwrnod ar ôl i ni roi'r cynnig i chi
  • sicrhau bod gennym lety addas presennol i ddiwallu eich anghenion.

Yn anffodus oherwydd y nifer gyfyngedig o neuaddau sydd ar gael, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd (gan gynnwys y rhai sydd wedi cwblhau blwyddyn sylfaen o'r blaen) oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Dylai myfyrwyr ôl-raddedig fod yn ymwybodol bod myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn meddiannu neuaddau ac efallai na fydd bywyd neuadd yn ffafriol i lwyth gwaith ôl-raddedig. Nid oes gennym neuaddau ôl-raddedig pwrpasol.

Bydd rhai â chynnig diamod sydd wedi gwneud cais cyn 31 Mai yn clywed cyn diwedd mis Gorffennaf ynghylch eu cynnig.

Bydd rhai â chynnig amodol yn clywed yn dilyn y canlyniadau 'Safon Uwch' ar yr amod eu bod yn derbyn cynnig diamod gyda Met Caerdydd. Ni allwn wneud cynnig ichi nes i chi nodi cynnig diamod ar system UCAS ar gyfer cwrs Met Caerdydd.​

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i chi gwblhau eich cais ar-lein, bydd yn cael ei anfon yn awtomatig i'r Swyddfa Llety. Byddwch yn derbyn e-bost cydnabod y dylech ei gadw gan ei fod yn brawf o'ch cais. Os nad ydych wedi derbyn e-bost cydnabod o fewn 2 ddiwrnod, cysylltwch â'r Swyddfa Llety ar 02920 416188/89. Yna byddwn yn gwirio bod eich cais wedi dod i law.

​​Os gallwn gynnig lle i chi mewn neuadd, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chynnig. Gwiriwch eich blwch SOTHACH oherwydd weithiau fe all y neges lanio yn y blwch hwnnw. Os yw'r cynnig ar gyfer neuaddau Metropolitan Caerdydd, bydd yr e-bost yn cynnwys atodiadau y bydd angen eu hargraffu, eu llofnodi a'u hanfon yn ôl i'r Swyddfa Llety cyn pen 7 diwrnod ar ôl inni anfon yr e-bost. Os cynigiwn le i chi mewn unrhyw un o’r neuaddau preifat (nad ydynt yn eiddo i Met Caerdydd), yna bydd yr e-bost yn rhoi cyfarwyddiadau clir i chi ar sut i archebu'r ystafell benodol a ddyrennir i chi trwy eu system archebu ar-lein.

Os na fyddwch yn ymateb i'ch e-bost cynnig o fewn 7 diwrnod, byddwn yn tybio nad oes angen y llety arnoch a bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl a'i gynnig i ymgeisydd arall. Os ydych chi'n cael unrhyw anhawster ymateb o fewn y cyfnod o saith diwrnod, cysylltwch â ni ar unwaith.

Pe bai'r holl neuaddau'n dod yn llawn ac nad oes gennym fwy o ystafelloedd ar ôl i'w cynnig, byddwn yn dal i'ch cadw ar ein rhestr aros am unrhyw gansladau sy'n digwydd ac yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bydd unrhyw ystafelloedd yn cael eu canslo. Byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth atoch am opsiynau llety amgen yn y sector preifat, megis tai myfyrwyr a neuaddau preifat eraill.