Hafan>Llety>Myfyrwyr Anabl

Llety i Fyfyrwyr Anabl

​Mae gan gampysau Plas Gwyn a Chyncoed sawl ystafell sy’n addas ar gyfer myfyrwyr ag anableddau sydd angen llety wedi ei addasu.

Mae gan Now Students North Court un fflat stiwdio sy’n addas ar gyfer myfyrwyr ag anableddau corfforol.

Mae gan Unite Blackweir Lodge ystafelloedd a fflatiau hygyrch.

Mae rhai unedau eraill hefyd yn addasadwy i’w defnyddio gan rai sydd ag anableddau corfforol. Argymhellir eich bod yn cysylltu’n gynnar i drafod anghenion unigol; fe’ch cynghorir i gynnwys llythyr eglurhaol wrth ddychwelyd eich ffurflen gais neuadd.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth:
Gwasanaeth Anabledd Met Caerdydd