Ynglŷn â Ni>Pwy ydym ni>Mae angen HUG™ ar bawb

Mae angen HUG™ ar bawb

 
The first HUG™ prototype earned far-reaching media interest and press coverage, having been found to have a profound beneficial impact on the patient for whom it was designed.


Mae HUG™ yn ddyfais chwareus sydd â chorff meddal, cyffyrddadwy a breichiau wedi’u trymhau sy’n lapio o gwmpas person er mwyn rhoi’r teimlad o roi a derbyn coflaid, neu gwtsh. Mae electroneg yn atgynhyrchu curiad calon, a gellir rhaglennu pob HUG™ i ganu rhestr chwarae bersonol o synau. 

Mae ymchwil diweddar a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos y cafodd y sawl sy’n byw gyda dementia a ddefnyddiodd HUG™ am chwe mis gynnydd o 87% yn eu lles a gwelliant yn eu gallu gwybyddol a gweithredol. Roedden nhw hefyd wedi dangos llai o gynnwrf a rhyngweithio cymdeithasol gwell. 

Nawr, mae HUG™ yn anelu tuag at gynhyrchu graddfa lawn diolch i bartneriaeth newydd gyda rhaglen arloesi Accelerator yr Alzheimer’s Society.     

Mae’r cydweithredu’n nodi cam enfawr wrth helpu cwmni deillio’r Brifysgol, HUG by LAUGH™, wneud HUG™ ar gael yn fasnachol. Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd bywyd llawer mwy o bobl sy’n byw gyda dementia datblygedig, yn ogystal â’r sawl sydd wedi cael eu heffeithio arnynt gan arwahanrwydd cymdeithasol, gorbryder ac iselder. 

Mae’n nodi penllanw pum mlynedd o ymchwil a datblygiad academaidd gan yr Athro Cathy Treadaway, Dr Jac Fennell ac Aidan Taylor o Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd. 

Mae prototeipiau HUG™ wedi bod o dan dreialon o fewn y GIG a’r sector gofal preifat gyda mewnbwn gan ofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, technolegwyr a phobl sy’n byw gyda dementia. Disgwylir cyhoeddi canlyniadau llawn y treialon hyn yn hwyrach eleni. 

Bydd y bartneriaeth newydd gyda’r Alzheimer’s Society yn parhau ar hyd y 12 mis nesaf, gan ddarparu buddsoddiad ariannol yn HUG™ i alluogi’r cam cyntaf yn y broses weithgynhyrchu. 

Bydd yr elusen hefyd yn darparu cyngor ac arbenigedd i helpu datblygu a thyfu’r busnes deillio, yn ogystal â sianelau cyfathrebu yn uniongyrchol â phobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n rhoi gofal iddynt. 

Yn hollbwysig, mae hefyd yn rhoi i HUG by LAUGH™ fynediad i ‘Dementia Voice’ yr Alzheimer’s Society – grŵp o bobl sydd â phrofiad byw o ddementia, a fydd yn helpu i fireinio dyluniad HUG™. 

Bydd canran o elw gwerthiannau HUG™ hefyd yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r elusen, gan helpu i ariannu ymchwil pellach i ddementia. 

Ewch i www.hug.world am ragor o wybodaeth.

_

Mae newyddbeth Met Caerdydd mewn gofal dementia datblygedig, HUG™, wedi ennill sylw’r cyfryngau oriau brig ar raglen The One Show ar BBC One

Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliad gyda Llysgennad yr Alzheimer’s Society, Chris Maddocks, sy’n byw gyda dementia, lle disgrifiodd sut mae HUG™ yn ei helpu hi. 


Pwy ydym niDysgwch fwy am arloesedd, creadigrwydd ac amrywiaeth y mae ein prifysgol yn seiliedig arnynt.
Darllen mwy