Cyfrifoldebau

​​​​​​​​​​​​​​

​Mae ymrwymiad y Brifysgol i'r amgylchedd wedi'i nodi yn y Polisi yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd​, a lofnodwyd gan yr Is-Ganghellor a'i gyfleu i'r holl staff a myfyrwyr.

Fel rhan o'r System Reoli Amgylcheddol (EMS) ​ae gan y Brifysgol siart sefydliad sy'n diffinio'r swyddogaethau rheoli, eu rhyngberthnasau a'u strwythur adrodd.

Mae Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol yn gyfrifol am bob agwedd ar gydymffurfiaeth statudol, ac yn rheoli’r Brifysgol trwy osod cymeriad a chenhadaeth. Mae'n gyflogwr staff ac yn berchennog cyfreithiol asedau. Mae gan Fwrdd y Llywodraethwyr gyfrifoldeb cyffredinol dros berfformiad amgylcheddol y Brifysgol ac am y strategaeth gynaliadwyedd gyffredinol. 

Bwrdd Academaidd Cyfun y Brifysgol yw'r corff gweithredol a'r awdurdod pennaf sy'n gyfrifol am faterion rheoli'r Brifysgol. Mae'r Bwrdd Rheoli yn gyfrifol am y prif benderfyniadau sy'n effeithio ar strategaeth a risg ym meysydd: Cyllid; Ystadau a Chyfleusterau; Adnoddau Dynol; Gwasanaethau Myfyrwyr; Marchnata, Cyfathrebu a Recriwtio Myfyrwyr; a Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth. Mae cynrychiolaeth y myfyrwyr ar y Bwrdd Rheoli. Y Dirprwy Is-Ganghellor Partneriaethau ac Ymgysylltu Allanol yw Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd, sy'n adrodd i'r Bwrdd Academaidd Cyfun.  

Mae'r Is-ganghellor a'i thîm yn gyfrifol am weithredu'r polisïau a'r strategaethau a gymeradwywyd gan Fwrdd y Llywodraethwyr a'r Bwrdd Academaidd.  Dangosir y cyfrifoldeb am reoli'r amgylchedd yn dda drwy:

  • Gymeradwyo’r Polisi Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd, sy'n cynnwys ymrwymiad i atal llygredd.
  • Sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â'r gofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol sy'n ymwneud â gwasanaethau a gweithgareddau.

Diffinnir cyfrifoldebau unigol ymhellach yn Llawlyfr Rheoli'r Amgylchedd, ​iffiniadau Agwedd.