Blaenoriaethau Strategol

Golygfa o'r awyr o Gampws Cyncoed Met Caerdydd

Mae ein blaenoriaethau strategol yn arwydd o’n huchelgais ac yn tynnu sylw at fentrau mawr yr ydym yn anelu at eu cyflawni erbyn 2030. Mae’r blaenoriaethau strategol yn cefnogi ein blaenoriaethau thematig ac maent yn ysgogwyr ac yn amlygu ein rhaglen barhaus o dwf, arallgyfeirio a gwella:


1. Gwella’r diwylliant

Wrth i ni ymgorffori ein strategaeth newydd, bydd y flaenoriaeth gyffredinol hon yn rhoi pwyslais o’r newydd ar newid diwylliannol, gan ddefnyddio ein gwerthoedd a’n hymddygiad fel ein sylfaen. Bydd y ffocws ar gryfhau ein diwylliant o berthyn ledled ein cymuned staff a myfyrwyr.

Bydd yn adeiladu ar ein gwaith Athena Swan a’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol a byddwn yn parhau i arwain y ddadl ar ddileu aflonyddu, troseddau casineb a thrais o fewn addysg uwch, gan gasglu a rhannu arferion da a gweithredu fel hyrwyddwr newid nid yn unig mewn addysg uwch ond mwy yn fras.


2. Campws 2030

Bydd ein prif gynllun ystadau yn trawsnewid ein campysau, gan greu ystâd sero-garbon net erbyn 2030 a darparu mannau addysgu, ymchwil, chwaraeon a chymdeithasol rhagorol i’n myfyrwyr a’n staff.

Yn ystod y cyfnod strategol byddwn yn cyflwyno achosion busnes i ddatblygu ein campysau Cyncoed a Llandaf yn ogystal â chreu pentref preswyl newydd ac archwilio partneriaethau gyda Chyngor Caerdydd a chyrff chwaraeon mewn mentrau newydd.


3. Dyfodol Carbon Isel

Byddwn yn datblygu llwyfan ar gyfer ein harbenigedd presennol, wedi’i ategu gan dalent newydd, i ddod at ei gilydd i greu meysydd addysgu ac ymchwil arloesol sy’n ymateb i newid yn yr hinsawdd, angen cyflogwyr a galw myfyrwyr am gynaliadwyedd amgylcheddol, economïau mwy gwyrdd, addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a’r economi lles.

Gan ddarparu buddsoddiad strategol a hwyluso cyfleoedd i newid mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, colegau addysg bellach, busnes a diwydiant, byddwn yn sicrhau cenedl fwy ffyniannus, wyrddach a thegach.


4. Prifysgol Chwaraeon Cymru

Byddwn yn canolbwyntio ar ragoriaeth ar draws ein system chwaraeon, gan adeiladu ar hanes balch a thraddodiad o lwyddiant chwaraeon yn y Brifysgol. Bydd buddsoddiad strategol sylweddol yn cael ei wneud i uwchraddio cyfleusterau, arallgyfeirio gweithgarwch a gwella mynediad, cadw, canlyniadau ac effaith mewn chwaraeon perfformiad uchel a chymryd rhan. Gan weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, Cyngor Caerdydd, Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethu mewn chwaraeon, byddwn yn darparu profiad chwaraeon rhagorol a bydd Met Caerdydd yn cael ei galw’n ‘Brifysgol Chwaraeon Cymru’ gan fanteisio ar chwaraeon fel sbardun ar gyfer lles cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ehangach.


5. Academïau Byd-eang

Bydd y tair Academi Fyd-eang a sefydlwyd yn ystod y cyfnod strategol diwethaf, gyda’u ffocws ar ymchwil ac addysg ôl-raddedig, yn cryfhau maint, cyrhaeddiad ac effaith eu hymchwil a’u harloesedd, yn enwedig drwy gydweithio rhyngwladol a bydd pob un yn cael ei wella drwy ddatblygu a recriwtio i brosiect portffolio cydlynol o raglenni ôl-raddedig a addysgir rhyngddisgyblaethol arloesol a gynlluniwyd ar gyfer marchnad fyd-eang.

Bydd yr angen i sefydlu Academïau Byd-eang pellach yn cael ei asesu’n barhaus.