Cenhadaeth Ddinesig

Plant ar drac rhedeg dan do

Bydd Met Caerdydd yn ymestyn ei weithgaredd cenhadaeth ddinesig, gan adeiladu ar ein gwaith presennol i gyfoethogi lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Drwy bartneriaethau a chydweithio, byddwn yn cefnogi’r gymuned, busnesau a diwydiannau drwy ymestyn mynediad i’n cyfleusterau, ein doniau a’n hadnoddau i chwarae rôl arwyddocaol a gweladwy wrth helpu Cymru i ffynnu.

Byddwn yn:

  • Cynyddu ein cydweithrediad â phartneriaid a’n cymuned leol.

  • Ymestyn cyrhaeddiad ein staff a’n myfyrwyr drwy wella prosiect Colegau Agored Caerdydd, ehangu’r fenter Campws Agored, a cheisio codi dyheadau a safonau addysg ar draws ysgolion a cholegau Cymru ac yn unol â deddfwriaeth Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

  • Adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu’n lleol ac yn genedlaethol ac yn cefnogi eu hanghenion drwy hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

  • Gweithio gyda’n cymunedau a’n harweinwyr yn y maes i wella symudedd cymdeithasol er mwyn gwneud cymdeithas yn decach.