Datgeliad er Lles y Cyhoedd (Chwythu'r Chwiban)

​​​​​​​​​​​​​​​

​​

Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i gynnal ei busnes yn foesegol ac yn onest ac rydym yn disgwyl i'n holl staff gynnal safonau uchel o ymddygiad. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod ein bod, fel pob sefydliad arall, yn wynebu'r risg y bydd pethau'n mynd o'i le ar brydiau. Nod Polisi Chwythu'r Chwiban y Brifysgol yw annog staff i wneud datgeliadau'n ymwneud â pherygl gwirioneddol neu bosibl, twyll neu ymddygiad anghyfreithlon neu anfoesegol arall sydd er budd y cyhoedd. Mae'r polisi wedi'i ysgrifennu i gymryd darpariaethau Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 i ystyriaeth ac mae'n amddiffyn gweithwyr sy'n codi gwir bryderon.

Gallwch gyrchu copi o'r Polisi drwy'r ddolen ar y dde. Os ydych yn dymuno codi unrhyw faterion o dan y Polisi neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, e-bostiwch whistleblowing@cardiffmet.ac.uk​ neu cysylltwch ag un o'r Cysylltiadau sydd wedi'u rhestru yn adran 11 y Polisi. 


Related Documents