Ynglŷn â Ni>Strwythur a Llywodraethiant y Brifysgol>Grŵp Gweithredol yr Is-Ganghellor

Tîm Arweinyddiaeth Uwch Met Caerdydd

Llandaff Campus

Grŵp Gweithredol yr Is-Ganghellor (GGIG) yw uwch dîm arweinyddiaeth y Brifysgol ac mae'n cynorthwyo'r Is-Ganghellor i ddarparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer yr holl bortffolios Gweithredol. Mae aelodau GGIG yn cynnwys y Llywydd ac Is-Ganghellor, Dirprwy Is-Ganghellor, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymgysylltu â Myfyrwyr), Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesi), Ysgrifennydd y Brifysgol, a Phrif Swyddog (Adnoddau).

 

​​

Llywydd ac Is-Ganghellor | Yr Athro Rachael Langford

BA MA (Oxon), PhD

Y Llywydd a’r Is-Ganghellor yw’r aelod uchaf o staff gweithredol yn y Brifysgol, gan weithredu fel pennaeth academaidd a gweinyddol, gan oruchwylio’r holl weithgareddau sy’n digwydd ym Met Caerdydd.

Mae’r Is-Ganghellor yn atebol i Fwrdd y Llywodraethwyr a CCAUC ac mae hi ei hun yn gyfrifol fel rheolwr llinell dros aelodau eraill Grŵp Gweithredol yr Is-Ganghellor.

Mae cyfrifoldebau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Cyfeiriad strategol

  • Perfformiad ariannol

  • Mesurau llwyddiant

  • Diwylliant sefydliadol

  • Enw da yn allanol

Darllen mwy am yr Athro Langford.


Dirprwy Is-Ganghellor (Ymgysylltu â Myfyrwyr) | Yr Athro Jacqui Boddington

Mae'r Dirprwy Is-Ganghellor (Ymgysylltu â Myfyrwyr) yn gyfrifol am ddull strategol y Brifysgol o ddysgu ac addysgu, addysg uwch yn y coleg, ansawdd academaidd, cyflogadwyedd graddedigion, gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth, a phob agwedd ar gymorth myfyrwyr. Mae gan Jacqui gyfrifoldeb hefyd dros Wasanaethau Cofrestrfa'r Brifysgol, sy'n ymdrin â gweinyddiaeth academaidd a myfyrwyr. Mae Gwasanaethau'r Gofrestrfa'n gweithio'n agos â phob ysgol academaidd ac adrannau gweinyddol a chymorth eraill.   


Darllenwch Mwy

Dechreuodd Jacqui ei rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor (Ymgysylltu â Myfyrwyr) yn 2017 ar ôl 16 mlynedd yn gweithio ym maes addysg uwch.

Dechreuodd ei gyrfa fel gohebydd a golygydd cyn newid i arwain gradd newyddiaduraeth mewn amgylchedd addysg bellach, cyn gadael i arwain rhaglen fynediad gwerth £15m a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgol Falmouth a ddyluniwyd i ymestyn cyfle lleol ar gyfer uwch astudiaeth addysg ledled Cernyw. 

Yna symudodd Jacqui i arwain y gyfarwyddiaeth Learning Futures ym Mhrifysgol Falmouth, gan gydlynu rhaglen o waith datblygu cwricwlwm i ddarparu ar gyfer yr uno â Choleg Celfyddydau Dartington a chychwyn y portffolio digidol yn Falmouth.

Symudodd i Brifysgol Middlesex yn 2011 fel Cyfarwyddwr Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr lle datblygodd a gweithredodd ddull myfyriwr-ganolog o ddatblygu, dylunio a darparu rhaglenni i sicrhau bod y portffolio yn cefnogi mynediad ac ymgysylltiad myfyrwyr yn effeithiol, gan sicrhau effaith amlwg ar fetrigau allanol.

Cymwysterau academaidd:

  • BSc Geneteg a Microbioleg (Coleg y Frenhines Mary, Llundain)

  • TAR (Prifysgol Plymouth)

  • MA Cyfathrebu ar Raddfa Mawr (Prifysgol Caerlŷr)

  • PhD (Prifysgol Middlesex)


Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arlosesi) | Yr Athro Sheldon Hanton

Mae'r Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesi) yn gyfrifol am yr holl strategaeth ymchwil ac arloesi yn y Brifysgol gan gynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ac Academïau Byd-eang y Brifysgol. Maent hefyd yn gyfrifol am yr holl ffrydiau cyllido ymchwil ac arloesi, moeseg, y Ganolfan Ryngwladol Dylunio ac Ymchwil (PDR) a'r Academi Ddoethurol ymchwil ôl-raddedig.



Darllenwch Mwy

​Dechreuodd Sheldon ei rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil yn 2012, ar ôl bod yn uwch arweinydd yn y brifysgol am nifer o flynyddoedd, gynt yn Gyfarwyddwr Ymchwil y Brifysgol yn ogystal â bod wedi dal Cyfarwyddiaethau Ysgol mewn Ymchwil, Astudiaethau Graddedig a Menter.

Yn athro Seicoleg, mae Sheldon yn parhau i fod yn weithgar mewn ymchwil, yn benodol mewn meysydd fel cystadleuaeth a straen sefydliadol, gwytnwch meddyliol, seicoleg anafiadau ac ymarfer proffesiynol.

Yn ogystal â'r byd academaidd, mae Sheldon wedi cynnal ac yn parhau i ddal sawl swydd olygyddol ryngwladol proffil uchel ac wedi ymgynghori â Thîm Nofio Lloegr mewn gwersylloedd a chystadlaethau hyfforddi rhyngwladol.

Cymwysterau academaidd:

  • BA (Anrh) Astudiaethau Symudiad Dynol (Prifysgol Metropolitan Leeds)

  • MSc Gwyddor Chwaraeon (Prifysgol Loughborough)

  • PhD (Prifysgol Loughborough) Archwiliad o bryder cystadleuol buddiannol a gwanychol



Prif Swyddog (Adnoddau) | David Llewellyn

Mae'r Prif Swyddog (Adnoddau) yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud ag adnoddau ariannol, dynol, corfforol a masnachol y Brifysgol. Mae'r rheolaeth hon ar adnoddau yn cefnogi strategaeth y Brifysgol ac yn sicrhau cydymffurfiad â gofynion cydymffurfio a rheoliadol.

Mae David hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredol yr Is-Gangellorion, yn ogystal â bod ganddo gyfrifoldebau Bwrdd Llywodraethwyr, Pwyllgor, strategol ac arwain. 


Darllenwch Mwy

​Mae David wedi gweithio yn y Brifysgol er 1992 pan ymunodd fel Cyfrifydd Ariannol, gan weithio wedyn gyda'r Brifysgol yn y tîm cyllid fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Dirprwy Gyfarwyddwr, ac yna Cyfarwyddwr Cyllid cyn dechrau ei rôl fel Prif Swyddog (Adnoddau) yn 2020.

Yn ogystal ag ystod eang o brofiad ym maes cyllid ac addysg uwch, mae David wedi gwasanaethu ar fyrddau llawer o sefydliadau fel cyfarwyddwr anweithredol.  Mae ganddo set sgiliau amrywiol, gan gynnwys sgiliau rhyngbersonol, strategol a gweithredol.

Cymwysterau academaidd:

  • BSc Economeg (Prifysgol Caerdydd)

  • Cyfrifydd Siartredig