Ynglŷn â Ni>Print Studio>Sticker Printing
Sticker Printing

Argraffu Sticeri

Mae'n sticeri yn ffordd wych o hyrwyddo cynnyrch neu ddigwyddiad. Wedi'u hargraffu ar ddeunydd finyl gwydn, maen nhw’n dal dŵr ac yn glynu at bron unrhyw beth! Dewiswch o ddeunydd di-sglein, sgleiniog neu glir i gael yr edrychiad yr ydych ei eisiau.

Os am fod yn greadigol edrychwch ar ein canllaw PDF i gael gwybod sut i baratoi eich ffeiliau.

​Lawrlwythwch ein canllaw PDF

Dechreuwch greu eich sticeri eich hun
 

Rhywbeth i gnoi cil drosto

Os ewch chi i mewn i fecws arbennig yng Nghaerdydd yna fe welwch ein sticeri printiedig yn gorchuddio'r waliau!
Mae cleientiaid eraill yn cynnwys siopau coffi ac gwerthwyr jam cartref.


Labeli

Dywedwch wrthon ni faint sydd eu hangen arnoch chi a bydd ein meddalwedd yn dod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithlon o argraffu.

Testun Wedi’i Dorri Allan

Perffaith ar gyfer oriau agor, mannau arddangos, arwyddion a mwy.

Siapiau Arbennig

Argraffu a thorri unrhyw siâp o unrhyw faint! Gweler ein canllawau am ychydig o help i greu ffeiliau.