Ynglŷn â Ni>Print Studio>Print Ready Guidance

 

Paratoi'ch gwaith ar gyfer ei Argraffu

Mae yna ychydig o ffyrdd syml i'n helpu ni i ddarparu'r union beth rydych chi'n chwilio amdano.

Cadw fel PDF

Mae cadw'ch ffeiliau ar ffurf PDF yn sicrhau ein bod yn gallu eu hagor yn hawdd a dylai atal unrhyw beth rhag symud o gwmpas.

Pan fyddwn yn argraffu dogfennau Office, er enghraifft, mae testun neu ddelweddau’n aml yn cael eu heffeithio, yn argraffu ar y dudalen anghywir neu ddim o gwbl. Os ydych chi'n argraffu dogfen fawr (traethawd hir, er enghraifft) mae hyn yn debygol o achosi problemau trwy'r ddogfen i gyd a gall ddod yn wall drud yn gyflym iawn.

Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd yn safio ar fformat PDF yn hawdd. Os ydych chi'n cael trafferth, yna galwch heibio i'n gweld neu fel arall ewch at y ddesg gymorth TG am gefnogaeth.

 


Remember what you've saved

Bydd angen i ni wybod enwau'r ffeiliau rydych chi am eu hargraffu, felly gwnewch nodyn ohonyn nhw cyn dod i'n gweld. Efallai ei fod yn swnio'n amlwg ond yn aml mae gwaith mewn nifer o ffolderi. Byddem yn cynghori cadw popeth sydd ei angen arnoch mewn ffolder o'r enw 'Stiwdio Argraffu' i'w gwneud hi'n hawdd pan ddewch chi atom ni.

Noder y bydd angen i ni gadw'ch ffon USB hyd nes ein bod wedi argraffu'ch gwaith.

Oherwydd y nifer o wahanol wasanaethau rhannu ffeiliau ar gwmwl, a'r mwyafrif ohonynt angen cyfrifon ar wahân, ni allwn dderbyn ffeiliau trwy Dropbox, Google Drive, ac ati

​Gwiriwch gyda'ch Tiwtor

Gyda chymaint o gyrsiau a therfynau amser mae'n annhebygol y byddwn yn gwybod yn union beth sydd angen i chi ei greu.

Os nad ydych yn siŵr pa faint sydd angen i chi ei gynhyrchu, neu'r math o rwymiad sy'n ofynnol, holwch eich tiwtor cyn cyflwyno’r gwaith i ni.

 

 

Rhowch amser i'ch hun

Mae'r Brifysgol yn eithaf mawr felly gall ein dwy Stiwdio Argraffu fod yn brysur iawn. Rydyn ni'n gwybod bod gennych chi derfynau amser ac weithiau mae pethau'n dynn. Byddwn yn ceisio gwneud pethau cyn gynted â phosibl i chi ond byddwch yn ymwybodol y gall ein hamser cwblhau amrywio. Byddem bob amser yn cynghori caniatáu ychydig o ddyddiau ar gyfer pethau fel posteri er mwyn sicrhau y gallwn gwblhau eich gwaith. Byddem hefyd bob amser yn eich annog i alw heibio a chael sgwrs am eich terfyn amser ymlaen llaw.

Rydym hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o argraffwyr hunanwasanaeth ar gyfer argraffu A4 ac A3, gan roi mwy o amser i ni gynhyrchu'r pethau arbenigol fel posteri a rhwymo llyfrau. Er y byddai'n gyfleus pe gallem helpu gyda'ch holl dasgau bach, rydym yn credu y byddwch yn diolch i ni pan fydd angen argraffu arbenigol arnoch chi ar frys!

 

 

Byddwch yn ymwybodol o liw

Mae’n haws dweud na gnweud o ran creu printiau’r lliwiau cywir. Yn ymarferol, mae sgrin eich cyfrifiadur yn gallu cynhyrchu lliwiau na ellir eu creu wrth argraffu. Er enghraifft, os ydych chi'n dal dalen wen o bapur wrth ymyl delwedd wen lachar ar eich monitor, byddan nhw'n edrych yn wahanol iawn – ac mae hyn cyn i ni ddechrau argraffu hyd yn oed!

Byddwn yn gwneud ein gorau i gael y lliwiau'n iawn ar gyfer eich gwaith, ond os yw lliw cywir yn hanfodol i'r gwaith hwn yna cofiwch grybwyll hynny cyn i ni ddechrau argraffu a gall ein staff helpu i ddod o hyd i'r opsiwn gorau i chi.