Cofrestru'ch CerdynMet
I fewngofnodi'n gyflym i argraffwyr y Brifysgol bydd angen i chi gofrestru'ch CerdynMet. Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn, ond os byddwch chi'n colli'ch cerdyn staff/myfyriwr efallai y bydd angen i chi ail-wneud y broses.
Register Card (Web).pdf
Ychwanegu Credyd Argraffu
Gallwch chi ychwanegu credyd at eich cyfrif argraffu yn hawdd gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd. Ewch i cardiffmet.ac.uk/printcredit a dilynwch y canllaw isod i ychwanegu at eich balans yn gyflym.
Noder y bydd angen ail-glustnodi unrhyw gredyd blaenorol ar eich CerdynMet i'r system newydd. Ewch i'r Stiwdio Argraffu i symud unrhyw arian yr ydych am ei ddefnyddio.
Print Credit (Web).pdf
Anfon Printiau
Mae argraffu dogfennau’n haws nag erioed gan ddefnyddio'r dyfeisiau newydd. Mae'n hargraffwyr newydd yn darparu rhai nodweddion defnyddiol newydd fel newid gosodiadau tasgau hyd yn oed ar ôl eu hanfon i'w hargraffu. Bydd y canllaw isod yn eich helpu i ddechrau os ydych angen rhywfaint o gymorth i argraffu gwaith.
Printing (Web).pdf
Sganio
Mae gan yr argraffwyr aml-swyddogaeth newydd ystod eang o opsiynau sganio hefyd. Sganiwch i e-bost a storfa cwmwl yn syth o'r ddyfais yn gyflym ac yn hawdd.
* Bydd yn bosibl Sganio i OneDrive o fewn yr ychydig wythnosau nesaf
Scan to Guide web.pdf
Argraffu Gwe (Symudol)
Gallwch argraffu ffeiliau o unrhyw ddyfais gan ddefnyddio'r porth gwe i anfon tasgau. Bydd y canllawiau isod yn eich helpu i ddechrau.
Web Print Guide web.pdf