Grŵp Ymchwil Addysgeg: PED-R CGA

Grŵp Ymchwil Addysgeg


Mae’n bleser gan y Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd gyhoeddi datblygiad PED-R CGA, Grŵp Ymchwil Addysgegol


Nod y grŵp yw denu pobl sy’n ymwneud ag ymchwil addysgegol yn barod ynghyd a meithrin cymuned gynyddol o ymarfer i ddatblygu’r gweithgarwch hwn a gwahodd newydd-ddyfodiaid i ymchwil addysgegol. Disgwylir y bydd y grŵp PED R yn amgylchedd grymusol a chefnogol ochr yn ochr â dadlau beirniadol ar arfer gorau

Rydym eisiau:
  • Cynyddu swm y PED R ledled y brifysgol a chefnogi newydd-ddyfodiaid i PED R trwy fentoriaeth
  • Gwella arfer staff academaidd a phroffesiynol, a darparu cyfleoedd ar gyfer lledaenu trwy gyhoeddiadau cyfnodolion, cyflwyniadau mewn cynadleddau a chylchgronau proffesiynol
  • Gwella cyfleoedd gyrfa i staff trwy gysylltu PED R â cheisiadau i fod yn Uwch Gymrawd, Cymrawd Addysgu Cenedlaethol, neu ar gyfer y Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu (rhagor o wybodaeth yma)
  • Cael digwyddiadau lledaenu rheolaidd yn ymwneud â phob agwedd ar PED R gan gynnwys ymateb i fylchau sgiliau aelodau, cyflwyno arfer gorau, ennill adborth ar syniadau cychwynnol neu ddata ymchwil
  • Cysylltu PED R ag amcanion strategol trwy brosiectau galw
  • Cysylltu â chymorth ariannu presennol megis y Gronfa Ymgysylltu â Myfyrwyr (rhagor o wybodaeth yma)
  • Darparu cyfleoedd i feithrin partneriaethau cydweithredol gyda staff mewn Ysgolion eraill
  • Darparu rhwydwaith cymorth ar gyfer PED R – er enghraifft, ystyried panel moeseg PED R canolog
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu trafodion y Gynhadledd Gwella Ansawdd flynyddol
  • Datblygu meysydd gwahanol o arbenigedd PED R sy’n berthnasol i Met Caerdydd, a defnyddio hyn i wthio newid strategol ac wrth frandio gweithgareddau
  • Defnyddio’r grŵp i barhau i ddatblygu a gyrru gweledigaeth ar y cyd o gyfeiriad strategol Met Caerdydd mewn dysgu ac addysgu
Arweiniwyd y Digwyddiad Lansio ar gyfer y Grŵp Ymchwil Addysgegol newydd gan Corony Edwards o Brifysgol Caerwysg ac fe’i cynhaliwyd ar 16eg Mawrth 2021, 1000-1200 ar-lein. Cafwyd cefnogaeth ac ymrwymiad brwdfrydig i’r fenter.

Bydd manylion pellach yn cael eu hychwanegu maes o law unwaith y bydd yr adborth o’r digwyddiad wedi’i gasglu mewn cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn i ddod.