Ynglŷn â Ni>Learning & Teaching Development Unit>Dysgu wedi'i Wella gan Dechnoleg (TEL)

Dysgu wedi'i Wella gan Dechnoleg (TEL)

 

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​

Nod y CGA yw gwella profiad dysgu myfyrwyr trwy ddull dysgu cyfunol, gan gyplysu moddau arloesol wedi’u galluogi’n dechnolegol gyda dulliau mwy traddodiadol. Rydym hefyd yn darparu gweithdai datblygu staff, canllawiau defnyddwyr a chyhoeddiadau ar dechnolegau dysgu.

Defnyddir ein hamgylchedd dysgu rhithiol (VLE) ledled y Brifysgol i gefnogi dysgu myfyrwyr p’un a ydynt yn astudio trwy ddulliau cyfunol, ar-lein neu fwy traddodiadol.

Adeiladwyd y VLE gan ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored Moodle, wedi’i theilwra i anghenion penodol y Brifysgol, gan roi edrychiad a theimlad arbennig iddi wrth ganiatáu iddi ryngweithio â systemau eraill y brifysgol. Mae hyn yn caniatáu i staff gyflwyno cynnwys ar-lein mewn ffordd ddi-dor, gan integreiddio nodweddion megis e-bortffolio Mahara, Panopto ReView (cipio cynnwys) a rhestrau darllen Leganto. Darperir dolenni uniongyrchol o fewn y VLE hefyd i wasanaethau eraill megis Gyrfaoedd ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â chyfleuster i chwilio system ar-lein y llyfrgell. Ar ben hynny, gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ar-lein, lle bo hynny’n ymarferol bosibl, sy’n sicrhau bod y VLE yn parhau i fod yn elfen gefnogol trwy gydol eu profiad dysgu cyfan.
 
Datblygwyd y system Moodle gydag addysgeg adeileddwr cymdeithasol mewn cof, gan sicrhau ei fod yn cynnwys amrywiaeth o offer ar gyfer rhyngweithio dysgwyr a gweithgarwch cynhyrchiol. Mae’r tîm CGA wedi creu llwyth o adnoddau i gefnogi defnydd yr offer hwn gan gynnwys geirfa ‘Cymorth’ wedi’i ymgorffori o fewn y VLE ei hun. Mae’r gallu i ymgorffori amrywiaeth eang o gyfryngau i’r VLE, ar ben yr elfennau rhyngweithiol, yn sicrhau y gellir gwneud adnoddau ar gael i ddiwallu anghenion amrywiol myfyrwyr. I staff sy’n dymuno gwella eu haddysgu gan ddefnyddio’r cyfleusterau hyn, mae’r tîm CGA yn darparu hyfforddiant, y gellir cael gafael arno trwy’r Pwll Dysgu (staff Met Caerdydd yn unig).

Ymhlith agweddau eraill o Ddysgu wedi’i Wella gan Dechnoleg a gefnogir gan y tîm y mae:

Panopto ReView (dal cynnwys)
Adborth Sain / Fideo
Podledu - defnyddio Sain mewn Dysgu ac Addysgu