Cynadleddau

Cynhaliwyd y Gynhadledd Gwella Ansawdd 2021 ddydd Mercher 19eg Mai 2021, o dan yr enw ‘Cydweithio, cysylltedd, a charennydd: dathlu llwyddiannau, myfyrio ar flwyddyn o heriau, ac edrych ymlaen at ddysgu yn y dyfodol’

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we’r gynhadledd yma

Cynadleddau blaenorol:

Cynhadledd Gwella Ansawdd 2019:

'Gwella Ymgysylltiad, Cyrhaeddiad a Llwyddiant Myfyrwyr ym Met Caerdydd'Quality Enhancement Conference

Bydd cynhadledd 2019 yn cael ei chynnal ar Ddydd Iau 5ed Medi 2019 a bydd yn canolbwyntio ar daith y myfyriwr ym Met Caerdydd.

Bydd cynhadledd 2019 yn cael ei chynnal ar Ddydd Iau 5ed Medi 2019 a bydd yn canolbwyntio ar daith y myfyriwr ym Met Caerdydd.

Prif araith Claire Saunders – Newid y sgwrs: Sicrhau mai dysgu sydd wrth wraidd cynllunio’r cwricwlwm

Crynodeb: Yn 2017, gofynnwyd i sefydliad Dysgu ac Addysgu Solent wneud cyfraniad allweddol at raglen gweddnewid cwricwlwm y brifysgol. Y dasg oedd dyfeisio fframwaith cwricwlwm sy’n adlewyrchu nodweddion unigryw ein prifysgol fodern, gymhwysol, ac roeddem yn benderfynol o gynnwys holl gymuned y brifysgol yn y sgwrs am natur bosibl ein cwricwlwm. Ond mae proses ymgynghori ledled y sefydliad sy’n cynnwys gwaith ymchwil yn dasg enfawr. Bydd y brif araith hon yn ystyried rhai o’r newidiadau sylfaenol sy’n sylfaen i’n fframwaith, a rhai o’r gwersi a ddysgwyd gennym ar hyd y ffordd. Bydd yn pwysleisio rôl hanfodol deialog ddilys mewn unrhyw broses o’r fath ac yn bwrw golwg onest ar rai o’r heriau anoddaf y bu’n rhaid i ni eu hwynebu.