Rhyngwladoli'r cwricwlwm

Mae'n Cynllun Strategol yn cynnwys blaenoriaeth i wella cwricwla i ddatblygu EDGE Met Caerdydd, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, profiad, gwybodaeth, hyder a gwytnwch Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd. 

Mae datblygu gallu diwylliannol myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ryngwladoli'r cwricwlwm yn rhan o ddatblygiad EDGE, gan ganolbwyntio'n benodol ar: 

  • ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio'u hunaniaeth a'u gwerthoedd diwylliannol eu hunain fel eu bod yn fwy parod i werthfawrogi diwylliannau eraill 
  • defnyddio adnoddau sy'n darparu persbectif diwylliannol amgen i'r cwricwlwm 
  • ennyn ymgysylltiad myfyrwyr â phrosiectau byw sydd ag elfen foesegol a / neu fyd-eang sy'n gwella'u syniad o'r Arall, a datblygu eu gallu i fod yn ddinasyddion byd-eang 
  • annog a galluogi myfyrwyr i archwilio'r ddisgyblaeth o safbwyntiau diwylliannol eraill 
  • gwneud y mwyaf o'r amrywiaeth sy'n bodoli ym mhoblogaeth y myfyrwyr a'r staff, ac yn ein cysylltiadau rhyngwladol 

Mae cyfle i staff ymgysylltu â rhyngwladoli trwy: 

  • Weithdai parhaus lle mae rhyngwladoli yn cael ei ystyried o fewn ffrâm ehangach y cwricwlwm cynhwysol 
  • Defnyddio teclyn myfyriol i gynnwys timau disgyblaeth mewn trafodaethau am eu cwricwla ac i ystyried newidiadau datblygiadol pellach 
  • Annog staff i ddatblygu eu gallu diwylliannol eu hunain trwy deithiau cyfnewid rhyngwladol, a chysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol 

Cyfeiriadau 

Grace, S. & Gravestock, P.  (2009) Inclusion and diversity: meeting the needs of all students.  London: Routledge.  

Jones, E. & Killick, D. (2007). Internationalisation of the curriculum.  In E. Jones & S. Brown (Eds). Internationalising higher education (pp. 109-119).  Abingdon: Routledge.  

Kerrigan, M.; Walker, S.; Gamble, M.; Lindsay, S.; Reader, K.; Papaefthimiou, M.; Newman-Ford, L.; Clements, M. & Saunders, G.  (2011).  The Making Assessment Count (MAC) Consortium – maximising assessment and feedback design by working together.  In ALT-C 2011 Conference Proceedings

​Kitano, M. K.  (1997).  What a course will look like after multicultural change.  In A. I. Morey & M. Kitano (Eds.).  Multicultural course transformation in higher education: A broader truth.  Bost​on: Allyn and Bacon

Citation information
Tangney, S  (2015)  Internationalisation of the curriculum.  Cardiff: Cardiff Metropolitan University.