Skip to main content

Dr Taslima Begum

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg

Adran: Adran Cyfrifiadura Gymhwysol a Pheirianneg

Rhif/lleoliad swyddfa: F1.11, Ysgol Dechnolegau Caerdydd, Campws Llandaf

Rhif ffôn:

Cyfeiriad e-bost: tbegum@cardiffmet.ac.uk

Trosolwg/bywgraffiad byr

Mae Dr Taslima Begum yn Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.  Mae hi hefyd yn Ddarlithydd Gwadd mewn Diwydiannau Creadigol (Celf, Cyfryngau a Dylunio) ym Mhrifysgol De Cymru ac yn Ymchwilydd sy'n Cyfrannu at Ymchwil Traws-dechnoleg ym Mhrifysgol Plymouth. Cyn hynny, bu’n gweithio fel Ymchwilydd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl gyda PDR - ymgynghoriaeth ymchwil dylunio sy’n arwain y byd ac fel hyrwyddwr i elusennau sy’n grymuso pobl fregus a difreintiedig yn y gymuned.  Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cyfrifiadureg, astudiaethau cymdeithasol-ddiwylliannol, technoleg, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron a dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl.  Mae hi wedi bod yn Gymrawd yr AAU ers 2010 ac mae hi’n aelod o  fyrddau a phwyllgorau mewnol ac allanol amrywiol yn ogystal â bod yn aelod anweithredol o fwrdd Gyrfaoedd Cymru ers Chwefror 2020. Diddordeb ei PhD, a gwblhawyd yn 2015, oedd Ymarfer Technoleg a Dylunio Diwydiannol, Proses ac Addysgeg trwy lens Astudiaethau Postolonyddol a Diwylliannol.   

Addysgu.

Yn 2019 roedd Taslima yn 2il oruchwylydd ar fyfyriwr o Iwerddon a Doethuriaeth Broffesiynol mewn 'Dylunio Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr mewn Addysg Uwch' yn llwyddiannus ac ar fyfyriwr o Abu Dhabi oedd yn astudio  Doethur mewn Athroniaeth mewn 'Cyfryngau Cymdeithasol a Throsedd Canfod'. 

Fel cymrawd o'r Academi Addysg Uwch mae Taslima wedi dysgu a chefnogi dysgu er 2004 gan gyflwyno darlithoedd, gweithdai a seminarau ym meysydd cyfrifiaduron, dylunio, technoleg a chyfryngau newydd mewn amrywiol sefydliadau yng Nghymru.  Cyn hynny, roedd hi'n Uwch Ddarlithydd yn y rhaglen BA Rhyngweithio Dylunio ac yn Arweinydd Rhaglen dros dro ar Raglen Dylunio yn ôl Ymarfer MFA yn PDC.  

Ym Met Caerdydd mae Taslima wedi arwain nifer o fodiwlau ar draws ein cyfres o raglenni israddedig ac ôl-raddedig sef BSc Peirianneg Meddalwedd, BSc Cyfrifiadureg, BSc Systemau Gwybodaeth Busnes, MSc / BSc Cyfrifiadura, MSc Rheoli Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a MSc Rheoli Prosiect Technoleg. Mae hi wedi bod yn arweinydd modiwl ar gyfer Proffesiynoldeb a Moeseg mewn Systemau Gwybodaeth (L6), Cyfrifiadura a Chymdeithas (L4), Dulliau Ymchwil ar gyfer Prosiectau Technoleg (L7), Cymwysiadau Cyfreithiol mewn Technoleg (L7) a Marchnata Digidol (L7). 

Ar hyn o bryd mae hi'n arwain y modiwlau canlynol: Technoleg a Chymdeithas (L4), Hanfodion Systemau Gwybodaeth (L4), a Dulliau Ymchwil ar gyfer Traethodau Hir Technoleg (L7).  Mae hi hefyd yn Diwtor Personol i nifer o fyfyrwyr MSc ac yn goruchwylio myfyrwyr traethawd hir (L6/7) fel rhan o'i rôl. 

Ymchwil

Mae ymchwil Taslima yn drawsddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol ei natur ar draws meysydd ehangach Gyfrifiadura, Technoleg, Dylunio, Diwylliant a Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Dyn.  Yn 2017 llwyddodd Taslima i drechu cystadleuaeth gref i gael ei dewis ar gyfer rhaglen Crucible Cymru ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol fel ymchwilydd gyrfa gynnar ac wedi hynny enillodd 3 grant prosiect ymchwil HEFCW cydweithredol, sef: 

1. Ailgynllunio'r Nodwydd Sterileiddio i atal a thrin Heintiau sy’n cael mynediad i’r Gwythiennau gan ddefnyddio Dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr - £8400; 

2. Datblygu Offeryn Llawfeddygol Clyfar ar gyfer Atgyweirio Mewnblaniad Deintyddol Gorau gan ddefnyddio Dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr - £3700; a 

3. Cyfathrebu Cymhlethdodau Newid Hinsawdd gan ddefnyddio Cyd-ddylunio a Gemau - £6200.

Yn 2017 a 2018, roedd Taslima yn adolygydd ar gyfer Cynadleddau'r Gymdeithas Ymchwil Dylunio.  Ym mis Mehefin 2018 adolygodd bapurau ar gyfer y trac: 'Sut mae Sefydliadau'n cyflogi Dylunio fel cyfrwng ar gyfer Newid'.

Cyhoeddiadau allweddol

Begum, T.  (2015) A Postcolonial Investigation into the role of Culture and Hegemony within Western Industrial Design History, Praxis and Pedagogy.  Traethawd PhD. Gwasg Prifysgol Plymouth.  

Begum, T.  (Oct 2016)  'A Postcolonial Critique of Industrial Design: A Critical Evaluation into the Relationship of Culture and Hegemony to Design History, Practice and Pedagogy'. Leonardo: International Journal of Art, Science and Technology, Cyf.49, rhifyn 5, t.458, MIT Press: Mass, U.D.A. 

Dorrington, P., Beverley, K., Bilbie, E., a Begum, T. (2017) 'Supporting SMEs in creating value through 3D printing- enabled re-distributed manufacturing'. DU: Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Report ISBN 978-0-9929482-6-9.  

Khan, I., Begum, T a Walters, A.  (2017) 'Process Design through Virtualisation and Visualisation – a Non-Narrative approach of Communication'.  Cynhadledd Datblygiadau mewn Rheolaeth a Gwybodeg, 5 Mai 2017, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, y DU.  

Hare, J., Beverley, K., Begum, T., Andrews, C., Whicher, A., Walters, A, a Ruff, A.  (2018) Uncovering Human Needs through Visual Research Methods: Two Commercial Case Studies.  Electronic Journal of Business Research Methods, The Intuitive Researcher:, Cyf.16, rhifyn 2. tt. 55-102. ISSN 1477-7029  

Ayre, W., Thomas, D., Begum, T., Eaton, M., Harwood, Blaikie, P., C., Crivelli, D.  (Gorffennaf 2018) A Smart Surgical Tool for Optimal Dental Implant Fixation.  Cyflwynwyd yn: 96ain sesiwn gyffredinol Cynhadledd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Ddeintyddol (IADR), Canolfan Confensiwn ExCel, Llundain.  

Foltz, A., Williams, C., Gerson, S., Reynolds, D., Pogoda, S., Begum, T., a Walton, P.  (2019) Communicating the Complexities of Climate Change via Gameplay. Frontiers Journal of Psychology, Cyf. 4, rhifyn 28. Doi. Ar gael yma: https://doi.org/10.3389/fcomm.2019.00028.

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Mae Taslima wedi bod yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch er 2010 ac roedd yn aelod o grŵp llywio Ymgysylltu Digidol y Brifysgol, ar bwyllgor Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain De Cymru (Y Sefydliad Siartredig TG), ac yn Ymddiriedolwr mewn elusen adfywio gymdeithasol leol.  Ar hyn o bryd mae hi'n gyfarwyddwr anweithredol Gyrfaoedd Cymru, yn aelod o'r Gymdeithas Ymchwil Dylunio ac yn aelod o'r Ganolfan Ymchwil Cyfrifiadura Creadigol yn YCD yn ogystal ag yn aelod cyfrannol o Trans-Technology Research, sef grŵp ymchwil trawsddisgyblaethol, wedi'i leoli yng Nghyfadran y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Plymouth. 

Ers iddi ddychwelyd yn ddiweddar o gyfnod mamolaeth mae hi'n chwilio am brosiectau a gweithgareddau ymchwil posib yn y dyfodol ac mae'n agored i gydweithrediadau trawsddisgyblaethol.  

Dolenni allanol