Cynnwys Y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Gall y rhaglen hon gynnwys Blwyddyn Sylfaen a fwriedir ar gyfer myfyrwyr a fydd am ymrestru ar radd anrhydedd dair blynedd, a fydd yn dod o dan un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr a fydd heb gael y nifer ofynnol o bwyntiau Safon U (neu gyfwerth) er mwyn cael dechrau ar flwyddyn gyntaf rhaglen y radd.
2. Myfyrwyr hŷn a fydd heb fod yn y system addysg ffurfiol am dipyn o amser.
Mae rhagor o wybodaeth ar y Flwyddyn Sylfaen ar gael drwy
glicio yma.
Gradd
Mae rhaglen y radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i gael datblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Bydd y dewis gan y myfyrwyr i gwblhau lleoliad blwyddyn mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.
Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.
Blwyddyn 1:
Modiwlau gorfodol:
- Datblygu Cymwysiadau
- Saernïaeth a Systemau Gweithredu
- Meddwl yn Gyfrifiadurol
- HCI a UX mewn Amgylcheddau Rhithwir
- Cyflwyniad i Dechnolegau Realiti Rhithwir ac Estynedig
- Egwyddorion Rhaglennu
Blwyddyn 2:
Modiwlau gorfodol:
- Cyflwyniad i Ddylunio Lefelau a Datblygu Asedau Gemau
- Amlgyfryngau a Rhyngweithio
- Llywio Bydoedd Rhithwir
- Graffigwaith Cyfrifiadurol Amser Real
- Rhyngweithio Go Iawn gydag AIN
- Sgiliau Proffesiynol ac Ymchwil
Blwyddyn 3:
Modiwlau gorfodol:
- Prosiect Traethawd Hir (40 credyd)
- Creu Bydoedd Rhithwir gan ddefnyddio’r GPU
- Datblygu Sain Gofodol
Modiwlau opsiynol:
- Mecaneg Uwch
- Deallusrwydd Cyfrifiadurol
- Gemeiddio a Datblygu ar gyfer Cyd-destunau Di-gêm
- Profiad Gwaith Diwydiannol (Lleoliad)
- Datblygu Gemau Symudol
- Datblygu Gemau AmlChwaraewyr
- Systemau Paralel a Gwasgaredig
- Efelychu Gweledol
Dysgu Ac Addysgu
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy'n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.
Asesu
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
Cyflogadwyedd A Gyrfaoedd
Bydd amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol ar gael i raddedigion yn y sector cyfrifiaduron, TG a thelathrebu, yn ogystal â’r rhan fwyaf o’r sectorau diwydiannol eraill (rhai cyhoeddus a rhai preifat), gan gynnwys y diwydiannau digidol/creadigol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gweithgynhyrchu uwch, peirianneg ac ymgynghoriaeth rheoli.
Mae’n bosib cael profiad o’r byd go iawn yn rhan o’ch astudio drwy leoliadau blwyddyn rhyngosod ac interniaethau diwydiannol (opsiynol). Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, llwyddodd ein myfyrwyr TG/cyfrifiadura i sicrhau lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.
Wedi cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd rhagor o opsiynau ar gael i astudio ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ar draws cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.
Gofynion Mynediad A Sut I Wneud Cais
Llwybr Sylfaen:
Yn ddelfrydol dylai fod gan ymgeiswyr 5 TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch (gradd 4 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr) a 32 Pwynt Tariff UCAS o 1 Safon U o leiaf (neu gyfwerth).
Gradd:
Dylai fod gan ymgeiswyr 5 TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch (gradd 4 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau’r TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr) a 96 pwynt o 2 Safon U o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 96 pwynt o 2 Safon U o leiaf a fydd yn cynnwys graddau CC; Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ei ystyried yn drydydd pwnc
- RQF BTEC National Extended Diploma / Cambridge Technical Extended Diploma: MMM
- 96 pwynt o’r Irish Leaving Certificate (Highers) a fydd yn cynnwys 2 radd H2. Gradd H4 (Higher) yw’r lleiaf a gaiff ei gyfrif tuag at gynnig pwyntiau
- 96 pwynt o 2 Scottish Advanced Highers a fydd yn cynnwys graddau DD. 96 pwynt o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru a fydd yn sefyll Mathemateg TGAU ddiwygiedig, byddwn yn derbyn Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.
Os byddwch yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os bydd eich cymhwyster heb ei restru, a wnewch chi gysylltu â Derbyniadau neu edrych yma chwilio cyrsiau UCAS ar gyfer y gofynion mynediad. Bydd modd cael rhagor o wybodaeth ar ein gofynion mynediad ni, gan gynnwys cymwysterau oddi wrth yr UE, drwy glicio yma.
Caiff ymgeiswyr na fydd â’r cymwysterau mynediad isaf arferol eu cyfweld a’u hystyried yn unigol ar sail eu dysgu blaenorol neu eu cefndir gwaith. Ar gyfer ymgeiswyr a fydd ond yn cymryd 2 Safon U neu gyfwerth, caiff hyn ei ystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd, ac efallai y gwnawn roi cynnig graddedig yn lle cynnig a fydd yn defnyddio Tariff UCAS.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw roi tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith, ewch i’r tudalennau rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddewis:
Fel arfer bydd y dewis yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS cyflawn a chyfweliad, lle bydd hynny’n berthnasol.
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yma: www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Cydnabod Dysgu Blaenorol a Throsglwyddo Credydau i Flwyddyn 2 a 3
Os bydd diddordeb gennych i drosglwyddo credydau o sefydliad arall er mwyn astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs lle y gellir ymuno â blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais yma: . Cysylltwch â Derbyniadau os bydd unrhyw ymholiadau gennych ar Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr hŷn
Ymgeisydd hŷn fydd unrhyw un a fydd dros 21 na fuodd mewn prifysgol wedi gadael yr ysgol neu goleg. Bydd Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn a gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth yma.
Cysylltu  Ni