Bydd y micro-gwrs Dysgu Peirianyddol sy’n rhad ac am ddim yn eich dysgu chi sut i ddatblygu modelau dysgu peirianyddol heb yr angen am wybodaeth codio helaeth, gan ddefnyddio llyfrgelloedd Python ffynhonnell agored cod isel ar gyfer dadansoddi data a datblygu modelau gan ddefnyddio dysgu peirianyddol awtomataidd.
Yn agored i ddechreuwyr, bydd y cwrs yn dangos i chi sut i osod eich amgylchedd datblygu eich hunan, yn ogystal â sut i ddadansoddi data a chreu nodweddion. Bydd hefyd yn rhoi trosolwg i chi o fathau amrywiol o fodelau dysgu peirianyddol, megis Dosbarthu, Atchweliad a modelu pwnc Prosesu Iaith Naturiol.
Erbyn diwedd y micro-gwrs, byddwch hefyd yn gallu dehongli a chyflwyno allbwn model dysgu peirianyddol gan ddefnyddio delweddu a dulliau Deallusrwydd Artiffisial Esboniadwy eraill. Byddwch hefyd wedi dysgu sut i ddatblygu dangosfyrddau rhyngweithiol syml a chymwysiadau gwe dysgu peirianyddol gan ddefnyddio Streamlit.
Cyrsiau byr hyblyg yw micro-gyrsiau, a gyflwynir mewn fformatau ar-lein ac wyneb yn wyneb cymysg. Maen nhw’n cael eu treialu ledled prifysgolion Cymru ar hyn o bryd heb gost i’r dysgwr. Gallwch fynychu micro-gwrs i uwchsgilio a dysgu rhywbeth newydd, fel llwybr i gyflogaeth, neu i gael blas ar bwnc penodol. Mae micro-gyrsiau technoleg ddigidol ym Met Caerdydd yn ymdrin â phynciau y mae galw amdanynt yn y byd diwydiant. Cliciwch yma i weld y micro-gyrsiau eraill ym Met Caerdydd.