Skip to main content
Ysgol Dechnolegau Caerdydd>Cyrsiau>Cyflwyniad i Ficro-gwrs Dylunio Gemau Fideo

Cyflwyniad i Ficro-gwrs Dylunio Gemau Fideo

Bydd y micro-gwrs Cyflwyniad i Ddylunio Gemau Fideo yn rhoi trosolwg i chi o biblinell datblygu cynnar gêm fideo. 

Byddwch yn dysgu sut mae pob gêm fideo yn dechrau, o greu Dogfen Dylunio Gemau a chelf cysyniad, hyd at wneud y bloc bras cyntaf o lefel gêm mewn peiriant gêm addas, a phrofi'r mecaneg gêm a phrofiad chwaraewyr. Byddwch yn dysgu am ddylunio lefel, arferion safonol y diwydiant, a rôl y strwythur naratif – sut y gall adrodd straeon helpu i greu ymdeimlad o drochiant mewn gemau fideo. 

Erbyn diwedd y micro-gwrs, byddwch wedi gwneud eich camau cyntaf i fyd dylunio a datblygu gemau. 

Mae'r cwrs yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn gemau fideo a sut maen nhw'n cael eu gwneud. 

Mae micro-gyrsiau yn gyrsiau byr hyblyg, wedi'u cyflwyno mewn fformatau cymysg ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd maent yn cael eu treialu ar draws prifysgolion Cymru heb unrhyw gost i'r dysgwr. Gallwch fynychu micro-gwrs i uwchsgilio a dysgu rhywbeth newydd, fel llwybr i gyflogaeth, neu i gael blas ar bwnc penodol. Mae micro-gwrs technoleg ddigidol ym Met Caerdydd yn ymdrin â phynciau y mae galw amdanynt gan ddiwydiant. Cliciwch yma i weld y micro-gyrsiau eraill ym Met Caerdydd. 


Cynnwys y Cwrs

Bydd y micro-gwrs yn cael eu cyflwyno drwy ddeg sesiwn 2 awr, sy'n cynnwys darlithoedd, gweithgarwch dysgu ar-lein, seminarau ar y campws, gwaith labordy a gwaith grŵp bach. 

Mae'r pynciau'n cynnwys:

  • Creu Dogfen Dylunio Gemau
  • Cynhyrchu celf cysyniad
  • Creu lefel prototeip mewn peiriant gêm

Gwaith cwrs ac Asesiadau. 

Mae asesiadau wedi'u cynllunio i atgyfnerthu eich dysgu.

Byddwch yn cwblhau dau dri aseiniad byr trwy gydol y cwrs micro. Mae'r rhain yn cynnwys arddangosiad lefel, portffolio o gelf cysyniad, a dogfen dylunio gêm ysgrifenedig o tua 1,000 o eiriau.

 

Darllen a Awgrymir

Rogers, S. (2014) Level up! : the guide to great video game design. Second edition. Chichester, England :: Wiley. (Required) 

Csikszentmihalyi, M. and Csikszentmihalyi, I.S. (eds.) (1988) Optimal experience : psychological studies of flow in consciousness / [electronic resource]. Cambridge :: Cambridge University Press. 

Gregory, J. (2018) Game engine architecture . 3rd edition. Boca Raton, FL :: A K Peters/CRC Press an imprint of Taylor and Francis. 

Evan Skolnick (7201) Video Game Storytelling: What Every Developer Needs to Know about Narrative Techniques. Potter Craft. Available at: 

Epic Games - Various (no date) Unreal Online Learning. Available at: https://www.unrealengine.com/en-US/onlinelearning-courses?sessionInvalidated=true 

World of Level Design (4201) UE4: BSP Blockout From Concept Art to an Interior Motel Room - Tutorial. Available at: https://www.youtube.com/watch?v=8yShBi3yJaY.

Sut i Ymgeisio

Gallwch archebu eich lle ar y micro-gwrs Cyflwyniad i Ddylunio Gemau Fideo ar Siop Ar-lein Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly rydym yn argymell archebu’n gynnar i osgoi siom. 

Cysylltwch â ni 

I gael rhagor o wybodaeth am y micro-gwrs hwn, cysylltwch â Dr Fiona Carroll, FCarroll@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Man Astudio:
Campws Llandaf 

Ysgol:
Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Hyd y Cwrs:
10 wythnos (1 x sesiwn 2 awr yr wythnos). Dydd Mawrth rhwng 2yh a 4yh.

Dyddiad dechrau:
10 Mai 2022-12 Gorffennaf 2022

Cost:
Am ddim

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms