Rydym wedi ceisio gweithio o fewn canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ac wedi cymryd adborth wrth ein myfyrwyr i gynllunio a dylunio ein haddysgu ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Byddwch yn cael eich addysgu wyneb i wyneb yn bennaf, mewn grwpiau nad ydynt yn cadw pellter cymdeithasol o hyd at 30 myfyriwr, mewn sesiynau rhyngweithiol a ddyluniwyd i ddarparu’r amgylchedd ac arferion dysgu ac addysgu mwyaf priodol i gefnogi ein cwricwlwm cymhwysol. Bydd rhai eithriadau i hyn – er enghraifft, mewn sesiynau labordy lle bo’r defnydd o gyfarpar diogelu personol yn caniatáu i nifer fwy o fyfyrwyr ddod at ei gilydd yn ddiogel.
Rydym yn ymwybodol efallai y bydd rhai myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu dal yn ôl rhag cyrraedd yng Nghaerdydd oherwydd diffyg hediadau a phrinder ystafelloedd mewn llety cwarantin a gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod hyn ac mae gan y myfyrwyr hynny sy’n cychwyn ym mis Medi 2021 hyd at 6 Ebrill 2022 i gyrraedd Caerdydd. I’r myfyrwyr hyn, mae Ysgolion yn gweithio i sicrhau y gellir cyrchu deunyddiau dysgu trwy ddarpariaeth ar-lein.
Siaradwch â’ch timau rhaglen am y cynlluniau sydd ar waith yn eich maes chi.