Gwasanaethau Myfyrwyr>Finance support>Myfyrwyr sy'n ofalwyr

Myfyrwyr sy'n Ofalwyr

Os ydych chi'n gofalu am rywun ac yn darparu cefnogaeth ddi-dâl i deulu a ffrindiau, efallai y byddwn yn gallu eich cefnogi chi drwy gydol eich amser ym Met Caerdydd.
 
Bydd ceisiadau am y fwrsariaeth yn cau pan fydd yr holl ddyfarniadau wedi'u rhoi neu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd (pa un bynnag sydd gyntaf).

Os bydd cyllid yn weddill erbyn diwedd Tymor 2, byddwn yn gwahodd y rhai sy’n cwrdd â’r meini prawf isod ac sydd naill ai ddim ym mlwyddyn gyntaf eu hastudiaethau neu a fu’n aflwyddiannus wrth ennill y wobr yn ystod y cam ymgeisio, i ymgeisio. Fodd bynnag, os ydych wedi derbyn y fwrsariaeth yn barod yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau, ni fyddwch yn gymwys i ymgeisio. 

Cymhwysedd

I fod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth hon, rhaid ichi gwrdd â’r holl feini prawf canlynol:
Rhaid ichi fod yn fyfyriwr Cartref at ddibenion talu ffioedd 
Rhaid ichi fod ym mlwyddyn gyntaf eich astudiaethau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2022
Rhaid ichi hefyd fodloni diffiniad yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr o ofalwr:

“Unrhyw un sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o’r teulu na allant, oherwydd salwch, anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gaethiwed, ymdopi heb eu cefnogaeth.” 
 
Cysylltir â myfyrwyr newydd, sydd wedi datgan eu statws gofalwr wrth gofrestru, yn ystod y tymor cyntaf ac fe'u gwahoddir i wneud cais am y fwrsariaeth. Os na wnaethoch ddatgan eich statws gofalwr wrth gofrestru, ond eich bod yn credu efallai eich bod chi’n gymwys, cysylltwch ag ecook@cardiffmet.ac.uk yn uniongyrchol. 

Os ydych chi’n ansicr o’ch cymhwysedd, cysylltwch ag ecook@cardiffmet.ac.uk.
 
Sylwch, nid yw'r fwrsariaeth hon ar gael os ydych yn astudio mewn coleg masnachfraint neu sefydliad partner. 

Gweler y Telerau ac Amodau ar gyfer y meini prawf cymhwysedd llawn. 

Ein pecyn cymorth

Bydd gennych fentor staff penodedig a all eich cefnogi a’ch cynghori ar bob agwedd ar fywyd prifysgol. Gallant weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf rhyngoch chi a'ch cwrs/y Brifysgol i sicrhau eich bod yn cael mynediad at yr holl gefnogaeth sydd ar gael ichi.
 
Fe allai ‘Bwrsariaeth Gofalwyr’ o hyd at £1,000 ar gyfer myfyrwyr amser llawn a hyd at £500 ar gyfer myfyrwyr rhan-amser fod ar gael yn ystod blwyddyn gyntaf eich cwrs (na fyddai’n rhaid ichi ei dalu’n ôl).

Byddai’n rhaid i fyfyrwyr ddarparu cadarnhad eu bod nhw’n ofalwyr gan rywun sy'n ymwneud â'r teulu ar sail broffesiynol (e.e. Gweithiwr Cymdeithasol, meddyg teulu ac ati).
 
Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu cael gafael ar gyngor ariannol trwy'r Gwasanaeth Arian a Llesiant.

Rydym yn cynnig ystod eang o gefnogaeth i helpu myfyrwyr ag amrywiaeth o anghenion. Gallwn gynnig cymorth anabledd ac iechyd meddwl a gwybodaeth anacademaidd yn gysylltiedig â'ch astudiaethau.

Mae Met Caerdydd yn cynnig ystod o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau, ac rydym hefyd wedi creu rhestr o rai o’r opsiynau ar gyfer cyllid allanol y daethom ar eu traws sydd ar gael.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr gyfoeth o adnoddau ar gael i gefnogi gofalwyr, a gallwch ddod o hyd i gefnogaeth yn eich ardal trwy eu gwefan, boed yn gymorth ariannol, neu iechyd a lles. 

Cysylltwch â Ni 

Cysylltwch â'r Cynghorydd Arian a Llesiant, Emma Cook, i drafod eich opsiynau: ecook@cardiffmet.ac.uk

Gallwch hefyd ymweld â'r parth-g ar eich campws i gael cefnogaeth anacademaidd. 


Trefnwch apwyntiad