Mae’r Profiad Diwrnod Agored Rhithwir Ôl-raddedig hwn wedi’i greu i chi ei weld pryd bynnag y dymunwch ac o gysur eich cartref eich hun! Gallwch gael fynediad i gyflwyniadau sgwrs pwnc a chyrsiau ar unrhyw adeg.
Yn ogystal, gallwch gael Sgwrs Fyw gyda Derbyniadau ar y dudalen hon o ddydd Llun-Gwener (9yb-4yp) amser y DU.
COVID-19Cymuned Ddiogel - Darllen mwy
Graddau meistr mewn Celf Gain, Cerameg a Gwneuthurwr, Dylunio Cynnyrch, Ffasiwn, Ymchwil Celf a Dylunio, Dylunio Byd-eang, Menter Greadigol a Darlunio ac Animeiddio.
Graddau meistr a rhaglenni datblygiad proffesiynol mewn Addysg, TAR Uwchradd, Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol a mwy.
Graddau meistr mewn Gwyddorau Biofeddygol, Seicoleg Fforensig ac Iechyd, Gwyddor Bwyd a Deieteg, Technoleg Ddeintyddol, Iechyd Galwedigaethol a mwy.
Graddau meistr mewn Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Newyddiaduraeth Arbenigol a TESOL (Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
Graddau meistr a chyrsiau proffesiynol mewn Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes a Rheolaeth; MBA; Marchnata; Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau.
Graddau meistr gydag interniaethau dewisol mewn Cyfrifiadureg Uwch, Gwyddor Data, Rheoli TG a Rheoli Prosiectau Technoleg.
Diploma Ôl-raddedig a gradd Meistr wedi'i chymeradwyo'n broffesiynol yn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.
Graddau meistr mewn Gwyddor Chwaraeon, Seicoleg, Hyfforddi, Darlledu Chwaraeon, Dadansoddi Perfformiad, Cryfder a Chyflyru, Rheolaeth, Moeseg a mwy.
Ar ddyddiadau penodol yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd digwyddiadau byw gyda thîmau cyrsiau ôl-raddedig yn cael eu cynnig ar draws Ysgolion a phynciau academaidd.
Gostyngiad o 25% mewn ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion Met Caerdydd sy'n cofrestru ar raglenni ôl-raddedig a addysgir. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.
Chwiliwch ein hystod o gyrsiau ôl-raddedig a gwnewch gais ar-lein ar gyfer Medi 2022 trwy ein system ymgeisio hunanwasanaeth.