Gobeithio bydd y cwestiynau mynych canlynol yn ateb unrhyw ymholiad sydd gennych am ddod i’n gweld ar Ddiwrnod Agored. Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i opendays@cardiffmet.ac.uk os oes gennych gwestiwn na restrwyd isod.
I gael gwybod pa un o’n Dyddiau Agored sy’n briodol i chi, cliciwch yma
Mae’n hanfodol eich bod yn neilltuo lle cyn mynychu unrhyw un o’n dyddiau agored. Mae hyn yn ein galluogi i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer eich ymweliad a sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl pan gyrhaeddwch yma.
Bwciwch le ar-lein.
Gallwch neilltuo lle ar ddiwrnod agored ar ar-lein ar: https://uwic.askadmissions.co.uk/portal/ei/search. Os cewch unrhyw drafferth neilltuo lle ar-lein, cysylltwch â'n Tîm Diwrnod Agored 029 2041 6042 neu drwy anfon e-bost at opendays@cardiffmet.ac.uk.
Neilltuo Lle ar-lein: Os ydych wedi neilltuo lle ar-lein, cewch gadarnhad yn syth ar y sgrîn. Byddwch hefyd yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich lle o fewn 15 i 30 munud i’r cyfeiriad e-bost y byddwch yn ei roi yn ystod y cofrestru. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi tua pythefnos cyn eich diwrnod agored er mwyn ail-gadarnhau'r holl fanylion ynghyd ag unrhyw wybodaeth bwysig arall.
Neilltuo Lle dros y Ffôn: Os ydych wedi neilltuo eich lle dros y ffôn byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich lle o fewn 15 i 30 munud i’r cyfeiriad e-bost y byddwch yn ei rhoi ar adeg neilltuo lle. Os na fyddwch yn darparu cyfeiriad e-bost neu os nad oes un gennych chi un byddwch yn derbyn cadarnhad drwy'r post i'r cyfeiriad y byddwch wedi ei roi i ni bythefnos cyn y diwrnod agored.
Gallwch, os dymunwch newid unrhyw fanylion am eich lle, gallwch wneud hyn ar-lein ar: https://uwic.askadmissions.co.uk/portal/ei/search. Mewngofnodwch gyda’r manylion a roddoch pan neilltuoch chi’ch lle yn wreiddiol er mwyn newid unrhyw beth.
Neu, gallwch gysylltu â’n Tîm Diwrnod Agored ar 029 2041 6042 neu drwy anfon e-bost at opendays@cardiffmet.ac.uk.
Cynhelir ein holl ddyddiau agored ar wahanol adegau, yn dibynnu ar ba un y byddwch chi’n ei fynychu. Am restr lawn o ddyddiadau ac amseroedd ein dyddiau agored ewch i: https://uwic.askadmissions.co.uk/portal/ei/search. Fodd bynnag, anfonir yr holl wybodaeth angenrheidiol atoch chi tua phythefnos cyn y digwyddiad. Anfonir hyn ar e-bost, os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost i ni, neu drwy’r post safonol os nad oes gennym gyfeiriad e-bost i chi.
Byddwch, ar bob un Diwrnod Agored, mae gennym dîm o lysgenhadon o fyfyrwyr sydd ar gael drwy’r dydd a all ddweud wrthoch chi yn union sut beth ydy astudio gyda ni. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Blogiau Myfyrwyr i gael mwy o syniad am fywyd ym Met Caerdydd.
Ie, ewch i dudalen Diwrnod Ymgeiswyr/Cyfweliadau am ragor o wybodaeth.
Ydyn, am wybodaeth bellach, ewch i’n tudalen ar ddigwyddiadau ôl-radd.