Proses Ymgeisio DBS a Nodiadau Canllawiau

​Anfonir cyfarwyddiadau at ymgeiswyr sy’n ymateb yn Gadarn i’w cynnig gyda Met Caerdydd ar sut i gynnal a chwblhau gwiriad DBS trwy First Advantage Know Your People, sy’n wasanaeth datgelu electronig ar-lein.

Darperir arweiniad llawn yn y “Canllaw Defnyddiwr yr Ymgeisydd” ar wefan First Advantage Know Your People.

Sylwch fod yn rhaid eich bod wedi cwblhau’r holl wiriadau cofnodion troseddol cyn dechrau eich cwrs.

Os nad Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw eich dewis Cadarn, cysylltwch â’r sefydliad perthnasol i ddarganfod eu gweithdrefnau o ran gwirio cofnodion troseddol.

Sut ydw i’n llenwi’r ffurflen DBS ar-lein a pha ddogfennau adnabod sydd eu hangen?

Anfonir e-bost atoch o Met Caerdydd a fydd yn cynnwys dolen i dudalen Cofrestru/Mewngofnodi First Advantage lle bydd angen i chi hunan-gofrestru. Bydd yr e-bost actifadu yn rhoi rhai manylion i chi am natur y gwiriad y gofynnwyd amdano, ynghyd â’r ddolen actifadu ei hun.

Mae’r broses hunan-gofrestru’n galluogi creu cyfrinair fel y gallwch wedyn ddechrau’r broses ymgeisio. Ar ôl ei gwblhau, anfonir e-bost atoch fel cadarnhad eich bod wedi cofrestru, gyda’ch manylion defnyddiwr ar gyfer mewngofnodi yn ôl i’r system. Gallwch fewngofnodi i gwblhau’r broses ymgeisio yn eich amser eich hun a dychwelyd i’r ffurflen mor aml ag sy’n ofynnol.

Cyn i chi ddechrau’r broses hon a ddylai gymryd tua 5 munud yn unig, argymhellir bod gennych y wybodaeth a’r dogfennau canlynol wrth law, er mwyn gwneud y broses mor gyflym â phosibl:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Trwydded Yrru Ddilys
  • Pasbort Dilys
  • Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Dilys
  • Hanes cyfeiriadau 5 mlynedd llawn gan gynnwys dyddiadau
  • Tystysgrif Priodas os yw’n berthnasol
  • Dyddiadau newid enw os yw’n berthnasol

Yn unol â gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, rhaid i chi ddarparu o leiaf 3 dogfen adnabod. I weld rhestr lawn, ewch i dudalen Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ar ôl dilyn y ddolen, bydd angen i chi gadarnhau eich enw defnyddiwr yn gyntaf (sef eich cyfeiriad e-bost), yna bydd angen i chi greu eich cyfrinair personol eich hun cyn y gellir cynhyrchu’r cyfrif. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer creu cyfrinair trwy glicio ar y botwm gwybodaeth (i) ar wefan Know Your People.

Unwaith y bydd y cyfrif wedi’i actifadu, fe’ch anogir i fewngofnodi gan ddefnyddio’ch manylion sydd newydd eu cadarnhau.

Bydd y botwm ’Mewngofnodi Yma’ yn mynd â chi i’r brif dudalen fewngofnodi yn uniongyrchol.

Gyda manylion mewngofnodi’r cyfrif wedi’u nodi a’u cadarnhau, byddwch yn gallu cael mynediad i’ch proffil a chwblhau’r ffurflen gais yn ôl y gofyn.

Sut alla i gael gwirio fy nogfennau?

Mae Met Caerdydd yn darparu nifer o opsiynau yng nghais First Advantage ar-lein ar gyfer gwirio’ch dogfennau fel rhan o’r broses ymgeisio DBS.

Opsiwn 1 – Swyddfa’r Post

Dewis arall yw parhau â’ch cais heb yr apiau gwirio ID digidol a bydd eich dogfennau’n cael eu gwirio â llaw yn bersonol, ar ôl i chi uwchlwytho copïau i wefan First Advantage – Know Your People. Gallwch gael eich dogfennau wedi’u gwirio yn Swyddfeydd Post dethol. Bydd angen i chi ddod o hyd i Swyddfa Bost sy’n cynnig y gwasanaeth Gwirio yn y Gangen.

Opsiwn 2 – Sefydliad

Os ydych yn byw ger ein campysau Cyncoed neu Landaf ac nad ydych yn gallu sefydlu eich cyfrif digidol, gallwch ddod â’ch dogfennau gwreiddiol i’n Parth-g Gwasanaethau Myfyrwyr a bydd rhywun yn gallu eu gwirio ar eich rhan yno.

Newid Dull Gwirio

Os ydych wedi dewis un dull gwirio e.e., Swyddfa’r Post ac yna angen newid hwn e.e., i Sefydliad, bydd angen i chi fewngofnodi yn ôl i system First Advantage a mynd i Gam 3, lle cewch gyfle i newid y dull a ddewiswyd.

Faint mae’n ei gostio?

Met Caerdydd sy’n talu am brosesu gwiriad DBS felly nid oes angen gwneud unrhyw daliad fel rhan o’r broses. Fodd bynnag, er mwyn i’ch gwiriad DBS fod yn drosglwyddadwy a chaniatáu i sefydliad arall ei dderbyn, argymhellir eich bod yn cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru, y codir ffi amdano. Cyfeiriwch at yr adran ar Wasanaeth Diweddaru i gael mwy o wybodaeth.

Codir tâl ar Met Caerdydd am y gwiriad DBS cyn gynted ag y bydd y cyfrif yn cael ei actifadu ar y system. Os byddwch yn gwneud camgymeriad yn ystod y broses ymgeisio, e.e., gwybodaeth bersonol a hunaniaeth anghywir, bydd hyn yn golygu y bydd angen gweithredu gwiriad arall, y bydd angen i chi dalu amdano.

Sut yr ymdrinnir â’m cais o ddatgan euogfarn droseddol berthnasol

Ar ôl i’ch tystysgrif Datgelu DBS gael ei phrosesu, dim ond os bydd euogfarn wedi’i nodi y cysylltir â chi. Os yw hyn yn wir, bydd gofyn i chi ddod/anfon eich tystysgrif wreiddiol i’r Swyddfa Dderbyn cyn gynted â phosibl. Os ydych chi’n anfon eich Tystysgrif drwy’r post, argymhellir eich bod chi’n defnyddio’r Post Cofrestredig. Anfonir eich tystysgrif i’r Ysgol berthnasol i asesu a yw’r euogfarn yn rhwystro mynediad i’r cwrs. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

Os yn fodlon nad ydych chi’n peri risg, bydd eich cais yn symud ymlaen yn y ffordd arferol.

Bydd yr holl wybodaeth sy’n ymwneud ag euogfarnau droseddol yn cael ei thrin yn sensitif, yn gyfrinachol a’i rheoli yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Awgrymiadau ar gyfer cwblhau’r cais

Wrth gwblhau eich cais gwnewch yn siŵr eich bod:

YN darllen y Canllaw i Ddefnyddwyr Ymgeiswyr ar y dudalen ganlynol Mewngofnodi.

YN sicrhau bod gennych o leiaf 3 dogfen adnabod. I weld rhestr lawn, ewch i dudalen Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

YN dangos hanes eich cyfeiriad llawn dros y pum mlynedd ddiwethaf.

YN dangos dyddiadau unrhyw newidiadau i’ch enw.

YN gwneud nodyn o enw eich mam cyn priodi.

YN cymryd cymaint o amser ag sydd ei angen. Mae’r system yn caniatáu i ddefnyddwyr ymgymryd â’r broses yn eu hamser eu hunain a dychwelyd i’r ffurflen mor aml ag sydd ei angen i gwblhau’r broses.

YN gwneud yn siŵr eich bod yn cadw’ch tystysgrif DBS mewn man diogel gan nad yw’r DBS yn rhoi rhai newydd yn eu lle.

-

PEIDIWCH â defnyddio dogfennau i brofi pwy ydych os nad oes gennych gopi gwreiddiol, dim ond dogfennau gwreiddiol y gellir eu defnyddio i brofi pwy ydych chi naill ai yn Swyddfa’r Post neu ym Met Caerdydd.

PEIDIWCH â gadael y broses yn rhy hwyr fel ei bod yn gohirio’ch cofrestriad ym Met Caerdydd. Hefyd PEIDIWCH ag oedi cyn anfon eich datgeliad DBS at Dderbyniadau os nodir euogfarn droseddol.

PEIDIWCH â dewis cysylltu â dilyswr o’r rhestr y byddwch yn ei darparu ar ddiwedd eich proses ymgeisio ar-lein.

PEIDIWCH â darparu ID y Gwasanaeth Diweddaru i Met Caerdydd gan fod hwn at eich defnydd chi yn unig i gael mynediad i’ch cyfrif.

Pa mor hir mae’r gwiriadau fel arfer yn eu cymryd?

Er mwyn sicrhau bod gwiriadau mor gyfredol â phosibl ni fyddwn yn anfon gwybodaeth cyn mis Mai yn y flwyddyn y mae disgwyl i chi ddechrau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd (wrth gychwyn ar eich rhaglen ym mis Medi). Ar gyfer derbyniadau heblaw Medi, anfonir gwybodaeth DBS gyda’ch gwybodaeth gynnig.

Mae’r gwiriad DBS ei hun yn cymryd tua phythefnos. Ar ôl cwblhau’r gwiriad, byddwch yn derbyn copi o’ch datgeliad y dylech ei gadw’n ddiogel er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol. Dim ond os bydd euogfarn yn cael ei nodi y bydd angen i chi ddarparu’r datgeliad hwn i Met Caerdydd. Gallwch olrhain eich cais drwy’r system First Advantage ac o wefan DBS sydd o dan yr adran ar olrhain cynnydd.

Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau yn ymweud â’ch cais at First Advantage – Know Your People.

Sylwch, os na dderbyniwch eich datgeliad oherwydd problem gyda’r gwasanaeth post, dim ond ymhen tri mis o’r dyddiad y cyhoeddwyd y datgeliad y bydd y DBS yn darparu ail-argraffu am ddim.

A allaf olrhain cynnydd fy ngwiriad DBS?

Gallwch olrhain cynnydd eich cais, yn rhad ac am ddim, o wefan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn:

https://secure.crbonline.gov.uk/enquiry/enquirySearch.do

Bydd angen i chi nodi cyfeirnod y ffurflen a’ch dyddiad geni.

Mae fy nghais yn araf. A ddylwn i gysylltu â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Bydd First Advantage yn cysylltu’n awtomatig â’r DBS os na dderbynnir eich Tystysgrif Datgelu ar ôl deufis.

Sylwch, os na dderbyniwch eich datgeliad oherwydd problem gyda’r gwasanaeth post, dim ond cyn pen tri mis o’r dyddiad y cyhoeddwyd y datgeliad y bydd y DBS yn darparu ail-argraffu am ddim.

Mae gen i goi caled o Ddatgeliad DBS, beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Mae angen cadw tystysgrifau DBS yn ddiogel fel y gellir gofyn am eu gweld wrth fynychu lleoliadau ac ati, neu os nodir euogfarn.

Anogir myfyrwyr lleol i ddod â’u tystysgrif DBS gwreiddiol i’r parth-g ym Met Caerdydd, campws Llandaf neu Cyncoed (www.metcaerdydd.ac.uk/izone) gan na all y sefydliad fod yn gyfrifol am dystysgrifau a gollir yn y post. Yn achos ymgeiswyr na allant ymweld â Met Caerdydd, argymhellir defnyddio post cofrestredig wrth anfon y dystysgrif DBS ymlaen.

Ymgeiswyr Sydd Wedi Preswylio Dramor gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd

Bydd disgwyl i unrhyw ymgeisydd sydd wedi byw mewn gwlad arall ddarparu gwiriad troseddol a gynhelir gan y wlad honno. Ar hyn o bryd ni all y DBS gael mynediad at gofnodion troseddol tramor neu wybodaeth berthnasol arall fel rhan o’i wasanaeth datgelu. I gael gwybodaeth am weithdrefnau tramor, cyfeiriwch at y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) ar www.gov.uk/fco sy’n rhestru gwefannau pob llysgenhadaeth ac Uchel Gomisiwn lle gallwch ddarganfod gwybodaeth am yr arferion presennol ar gyfer gwneud cais.

Dylai ymgeiswyr geisio cael y canlynol (ar gost yr ymgeisydd):

  • ‘Tystysgrif ymddygiad da’ (gwiriad cofnodion heddlu) gan yr awdurdodau perthnasol yn cadarnhau nad oes gan yr ymgeisydd gofnod troseddol o’r wlad enedigol.
  • Cael dilysiad o’r ‘dystysgrif ymddygiad da’ gan y Conswl perthnasol ar gyfer y wlad honno yn y DU (ar gost yr ymgeisydd).

Rhaid cyfieithu pob dogfen a geir o dramor (ar gost yr ymgeisydd) o’r iaith berthnasol i’r Saesneg. Dylai ymgeiswyr gysylltu â’r llysgenhadaeth dramor berthnasol i gael rhagor o wybodaeth am ddilysu dogfennau.

Er mwyn bodloni gofynion derbyn ymgeiswyr tramor nad ydynt erioed wedi byw yn y DU, bydd yn ofynnol iddynt gael gwiriad DBS manylach ar ôl iddynt symud i’r DU, a bod â chyfeiriad yn y DU oherwydd na all y DBS gynnal gwiriad oni bai bod cyfeiriad y DU yn cael ei ddarparu.

Ymgeiswyr Tramor ond sydd wedi byw yn y DU

Mae’r Brifysgol yn rhoi’r cyfrifoldeb ar ymgeiswyr sydd wedi bod yn byw yn y DU am gyfnod cyfyngedig o amser, i ddarparu manylion eu hanes cofnodion troseddol o’u gwlad gartref yn ogystal ag ymgymryd â gwiriad DBS am eu hamser yn y DU.

Cwestiynau Cyffredin

Faint o amser sydd gennyf i lenwi fy ffurflen gais DBS?

Mae’r cyfrinair un amser yn eich e-bost croeso yn dod i ben ar ôl 30 diwrnod.

A fyddaf yn cael negeseuon atgoffa drwy e-bost os nad oes gennyf amser i gwblhau’r cais pan fyddaf yn cael y gwahoddiad i ddechrau’r broses am y tro cyntaf?

Dylech dderbyn nodyn atgoffa dri diwrnod ar ôl i’r cais gael ei gychwyn.

Rwyf wedi cofrestru gyda First Advantage, ond nid wyf wedi derbyn e-bost actifadu.

Os nad ydych wedi derbyn eich ​e-bost actifadu, cysylltwch â gdpr@firstadvantage.com. Os yw’ch proffil wedi’i sefydlu, bydd tîm cymorth First Advantage yn rhoi dolen actifadu i chi. Bydd y ddolen yn mynd â chi i dudalen we lle gallwch greu eich cyfrif neu fewngofnodi (os yw’ch cyfrif eisoes yn weithredol). Byddwch hefyd yn gallu ailosod eich cyfrinair os ydych wedi ei anghofio.