Mae croeso i ymgeiswyr sy'n ailsefyll arholiadau wneud cais am ein rhaglenni.
Bydd ymgeiswyr israddedig a hyfforddiant athrawon TAR sy'n cael cynnig amodol, ac sy'n aros am ganlyniadau o ail-farc neu apêl, yn cael eu derbyn ac yn cael cynnig lle, ar yr amod bod telerau'r cynnig yn cael eu bodloni erbyn y 31ain o Awst.
Ar gyfer ceisiadau uniongyrchol gan gynnwys rhai ôl-raddedig a rhan amser, fel arfer mae'r Brifysgol yn gallu ystyried ymgeiswyr yn disgwyl am apeliadau ac ail-farciau tan yr wythnos cyn dechrau'r rhaglen.
Mae angen i ymgeiswyr rhyngwladol fodloni'r dyddiad cau ar gyfer amodau, y manylir arnynt ar gynnig cyfathrebu yn ogystal â gwefan Met Caerdydd. Bydd angen i ymgeiswyr sydd angen fisa myfyrwyr sicrhau bod digon o amser i hyn gael ei gyhoeddi.
Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw rhoi gwybod i'r uned Derbyniadau o ganlyniad yr apêl neu ail-farcio.