Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cefnogi prosesau derbyn sy'n deg ac yn dryloyw ac sy'n gwarchod buddiannau ymgeiswyr. Pwrpas y Polisi Derbyn yw esbonio proses derbyniadau'r Brifysgol.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwilio am unigolion a fyddai'n elwa o addysg uwch. Ystyrir ceisiadau yn ôl eu haeddiant unigol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gymwysterau ffurfiol yn ogystal ag unrhyw brofiad gwaith perthnasol.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn annog poblogaeth ehangach o fyfyrwyr drwy groesawu ceisiadau gan bawb sydd â diddordeb mewn addysg uwch. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, beth bynnag fo'u hoedran, anabledd neu anghenion arbennig, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Nodir y wybodaeth hon yn ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Rydyn ni'n dilyn cod ymarfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA - www.qaa.ac.uk/) ar Recriwtio a Derbyn wrth ymgymryd â gweithdrefnau derbyn a chanllawiau gan Wasanaeth Derbyniadau Prifysgolion a Cholegau (UCAS) a'r sector. Rydym hefyd wedi ymrwymo i'r pum egwyddor graidd o dderbyniadau teg fel y'u diffinnir yn Adroddiad Schwartz 2014: System dderbyniadau yn seiliedig ar dryloywder, dewis yn seiliedig ar gyflawniadau a photensial ymgeiswyr, gan fabwysiadu dulliau asesu sy'n ddibynadwy ac yn ddilys, lleihau rhwystrau i gael mynediad, a phroffesiynol ym mhob ystyr ac a ategir gan strwythurau a phrosesau. Ein bwriad yw cofrestru ar gyfer y Cod Ymarfer Teg ar gyfer y cylch nesaf er mwyn dangos ein hymrwymiad i Dderbyniadau Teg.
Rhoddir ystyriaeth gyfartal i bob cais a dderbynnir erbyn y terfynau amser priodol ar gyfer UCAS a Chwrs Uniongyrchol y flwyddyn mynediad. Ystyrir ceisiadau a dderbynnir y tu hwnt i'r dyddiadau hyn yn ôl disgresiwn y Brifysgol, yn ddibynnol ar argaeledd lleoedd.