Cyngor i Ymgeiswyr>Polisi Derbyn 2024>Dysgu Blaenorol a Mynediad

Dysgu Blaenorol a Mynediad

Mae Met Caerdydd yn cydnabod bod astudiaeth, hyfforddiant a phrofiad blaenorol a gafwyd drwy waith neu wirfoddoli yn enghreifftiau o weithgareddau a allai gyfrif tuag at eich rhaglen astudio ac sy'n cael ei hadnabod fel 'Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol'. 

Gofynnir i ymgeiswyr sy'n dymuno hawlio credyd am ddysgu ymlaen llaw adolygu ein gwybodaeth am gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol yn https://www.cardiffmet.ac.uk/study/adviceforapplicants/Pages/Recognising-Prior-Learning-(RPL).aspx

Os yw ymgeiswyr wedi ennill cymwysterau neu fodiwlau gradd israddedig neu ôl-raddedig mewn prifysgol arall, gallwn ystyried y rhain ar gyfer eithrio modiwlau neu fynediad uniongyrchol i flwyddyn neu lefel mynediad.  Bydd yr eithriad a ganiateir yn ddibynnol ar yr hyn a gyflawnwyd a'i berthnasedd i'r cwrs a gymhwysir amdano. 

Gelwir y broses hon yn Trosglwyddo Credyd ac ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am yr angen hwn i wneud cais trwy'r llwybrau safonol a chynnwys eu pwynt mynediad arfaethedig yn eu cais.  Mae angen darparu trawsgrifiadau ar gyfer y credyd a gafwyd (astudiaethau) fel y gellir anfon hyn at diwtor derbyn y rhaglen berthnasol i benderfynu a oes modd gwneud defnydd o'r trosglwyddiad credyd.​