Cyngor i Ymgeiswyr>Polisi Derbyn 2024>Diogelu Gwybodaeth a Data Personol

Diogelu Gwybodaeth a Data Personol

​Mae'r Brifysgol yn casglu data ar dderbyniadau gan ymgeiswyr er mwyn bodloni'r gofynion derbyniadau sy'n cynnwys gallu gwneud penderfyniadau, cysylltu ag ymgeiswyr a darparu gwybodaeth ar gyfer cwrdd â gofynion adrodd statudol.  Os na fydd y Brifysgol yn derbyn y data hwn bydd yn golygu na fyddwch yn gallu cael eich derbyn fel myfyriwr.

Mae gwybodaeth bersonol a gyflwynir gan ymgeiswyr yn cael ei phrosesu o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.  Dim ond y staff hynny sy'n ymwneud â phrosesu ceisiadau y bydd gwybodaeth yn cael ei chyrchu a bydd yn rhan o gofnod y myfyrwyr os bydd ymgeiswyr yn derbyn lle ac yn cofrestru yn y brifysgol.  

Y gofynion cyfreithiol ar gyfer prosesu yw:

  • Buddiannau cyfreithlon y Brifysgol a dibenion ymrwymo i gontract addysg gyda chi.

  • Cynnal prosesau er budd y cyhoedd sy'n cynnwys ein rhwymedigaeth i bennu addasrwydd ar gyfer cyrsiau â gofynion penodol e.e. addysg ac iechyd

  • Rhwymedigaethau cyfreithiol

  • Caniatâd gan gynnwys caniatâd ar gyfer rhwymedigaethau cyfreithiol pan fo hynny'n berthnasol

  • Prosesu am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol

  • Prosesu ar gyfer diogelu'r cyhoedd yn erbyn anonestrwydd

  • Prosesu mewn perthynas â chyflogaeth, nawdd cymdeithasol, cyfraith amddiffyn cymdeithasol a dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol

Cedwir data ar gyfer ymgeiswyr aflwyddiannus am flwyddyn cyn ei ddinistrio'n ddiogel. Bydd data ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus lle mae perthnasol yn rhan o ffeil y myfyrwyr ac yn cael ei gynnal am hyd at 7 mlynedd ar ôl graddio. 

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae gan unigolion hawl i gyrchu eu gwybodaeth bersonol eu hunain ac i gywiro hyn yn ôl yr angen neu ofyn am ei ddileu.

Mae modd cael mwy o wybodaeth am bolisi a gwybodaeth diogelu data Met Caerdydd mewn perthynas â phwy y mae modd cysylltu â nhw yn Diogelu Data Strwythur a Llywodraethiant y Brifysgol.​

​​