Fel arfer, nid oes angen cyfweliadau fel rhan o'r broses dderbyn. Fodd bynnag, mae angen cyfweliadau ar gyfer cyrsiau lle mae gofynion proffesiynol yn gwarantu hyn e.e. Hyfforddiant Athrawon a chyrsiau GIG. Mae'r rhan fwyaf o raglenni Celf a Dylunio hefyd yn gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad er mwyn dangos portffolio a thystiolaeth addasrwydd ar gyfer y cwrs.
Gall ymgeiswyr sydd â chymwysterau ansafonol, neu ymgeiswyr aeddfed nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad safonol hefyd gael eu gwahodd i fynychu cyfweliad er mwyn dangos y potensial i lwyddo. Cyfeiriwch at adran 8.0 uchod mewn perthynas â Dethol.
Bydd methu â mynychu ar gyfer cyfweliad fel arfer yn arwain at dynnu'r cais yn ôl, oni bai bod Derbyniadau'n cael gwybod nad yw dyddiad y cyfweliad yn addas. Cydnabyddir y gall fod dyddiadau pan na fydd ymgeiswyr ar gael ar gyfer cyfweliad ac yn yr achosion hyn bydd y Brifysgol yn gwneud ymdrechion rhesymol i gynnig dyddiad arall.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfweliadau ar gael ar ein tudalennau gwe Cyngor i Ymgeiswyr.