Asesu Ffioedd

Mae ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn Gartref neu'n Rhyngwladol at ddibenion talu ffioedd. Mae statws ffioedd ymgeisydd yn cael ei benderfynu gan staff derbyn yn unol â chanllawiau UKCISA. Os nad yw statws ffioedd ymgeiswyr yn glir o'r wybodaeth a ddarperir ar y cais, bydd angen darparu gwybodaeth ychwanegol fel y gellir gwneud asesiad ffioedd.

Os nad yw ymgeisydd yn hapus gyda chanlyniad asesiad ffioedd gellir apelio, o fewn tri mis i'r canlyniad neu hyd at y pwynt cofrestru pa un bynnag a ddaw gyntaf. Dylid gwneud yr apêl i'r Rheolwr Derbyniadau drwy e-bostio holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk​​. Mae unrhyw newidiadau i statws ffioedd ar ôl cofrestru yn ôl disgresiwn y Pennaeth Derbyniadau ac ni fydd yn cael ei brosesu ar ôl cofrestru ar raglen. 

Mae'r Brifysgol yn cadw at yr hawl i ddiwygio statws ffi ar unwaith, os daw gwybodaeth bellach sy'n cwestiynu'r statws ffioedd i'r amlwg. Ceir rhagor o wybodaeth am asesiad o statws ffi Met Caerdydd yn Cyngor i Ymgeiswyr Asesiad o Statws Ffioedd​.​