Cyngor i Ymgeiswyr>Polisi Derbyn 2024>Oed Mynediad a Pholisi Dan 18

Oed Mynediad a Pholisi Dan 18

Mae Met Caerdydd yn amgylchedd oedolion lle mae myfyrwyr fel arfer yn 18 oed neu'n hŷn.  Fodd bynnag, ar brydiau, mae'r Brifysgol yn derbyn myfyrwyr sydd o dan 18 oed ar ddechrau eu cwrs.

Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod unrhyw un dan 18 oed yn blentyn yn gyfreithiol a bod gan fyfyrwyr dan 18 oed anghenion gwahanol o ran y gefnogaeth a'r lles.  Mae polisi o dan 18 oed ar waith sy'n nodi'r hyn a ddisgwylir gan fyfyrwyr a'r gefnogaeth a fydd yn cael ei rhoi ar waith.

Mae disgwyl i fyfyrwyr fyhafio fel oedolion ac mae'n bwysig bod ymgeiswyr a'u rhieni/gwarchodwyr yn deall hyn cyn dechrau ym Met Caerdydd.

Mae myfyrwyr israddedig 21 oed a hŷn ym mlwyddyn mynediad yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr aeddfed.  Rydym yn croesawu ymgeiswyr o'r grŵp hwn o fyfyrwyr a fydd yn cael yr un ystyriaeth.​