Cofrestru

​Er mwyn dechrau astudio ym Met Caerdydd mae'n rhaid i bob ymgeisydd gofrestru gyda'r Brifysgol drwy ddefnyddio'r system gofrestru ar-lein. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru naill ai cyn neu ar gychwyn eu rhaglen astudio ar gyfer pob blwyddyn academaidd.

Mae gwybodaeth am gofrestru a dechrau yn y Brifysgol yn cael ei hanfon i ymgeiswyr cadarn diamod o fis Gorffennaf ymlaen.

Er mwyn i ymgeiswyr fod yn gymwys i gofrestru, bydd angen bodloni amodau sydd wedi eu rhoi ar gynigion am le i astudio ym Metropolitan Caerdydd.  Bydd y rhain yn cynnwys amodau academaidd ac an-academaidd er enghraifft gwiriadau cofnodion troseddol, gwiriadau iechyd galwedigaethol, hawl i astudio yn y Deyrnas Unedig (os yw'n cael ei ddysgu yn y Deyrnas Unedig).  Bydd angen darparu prawf gwreiddiol o gymwysterau a gwybodaeth i gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol.  Mae angen cytundeb i gadw at bolisïau, rheoliadau a gweithdrefnau prifysgolion drwy arwyddo telerau ac amodau cofrestru hefyd.

Dylid cyfeirio pob ymholiad mewn perthynas â chofrestru i'r uned Gofrestru o fewn y Gofrestrfa Academaidd drwy e-bostio registryenquiries@cardiffmet.ac.uk.​​​