Penderfyniadau

Bydd ymgeiswyr yn derbyn cadarnhad o'u cais naill ai ar bwynt cyflwyno'r cais neu unwaith y byddant yn cael eu derbyn i'n system myfyrwyr o UCAS. Caiff ceisiadau eu hadolygu a chaiff penderfyniadau eu cyfleu i ymgeiswyr drwy gydol y cylch derbyn.

Mae penderfyniadau ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais drwy UCAS yn cael eu hanfon at UCAS o system dderbyniadau'r Brifysgol ac mae ymgeiswyr yn cael gwybod am y rhain drwy Ganolfan UCAS.  Caiff penderfyniadau ar gyfer y rhai sy'n gwneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol eu prosesu drwy systemau derbyniadau'r Brifysgol.  Mae ymgeiswyr yn derbyn penderfyniadau naill ai drwy'r system Derbyn ac e-bost/llythyr cynnig. Mae penderfyniadau ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol yn cael eu hanfon drwy e-bost. 

Anfonir gohebiaeth hefyd at bob ymgeisydd drwy e-bost pan fydd penderfyniad wedi'i wneud.​