Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i gynnwys y cwrs, gofynion mynediad, dull cyflwyno neu i atal, cyfuno neu dynnu rhaglen yn ôl, cyn ac ar ôl cofrestru myfyriwr i'r Brifysgol os ystyrir bod camau o'r fath yn rhesymol angenrheidiol.
Mae manylion am y math o newidiadau wedi'u hamlinellu yn ein telerau ac amodau a gyhoeddir ar ein gwefan. Os bydd newid o'r fath, byddwn yn ysgrifennu at unrhyw ymgeisydd/ymgeiswyr yr effeithir arnynt yn brydlon i'w hysbysu am y newid a rhoi manylion i ymgeisydd/ymgeiswyr am y camau gweithredu sydd ar gael iddynt.
Os ydym yn tynnu cwrs yn ôl cyn i fyfyriwr ddechrau ei astudiaeth (sydd wedi cael cynnig wedi'i gadarnhau), gall myfyriwr naill ai:
- drosglwyddo i raglen arall y cynigir gan y Brifysgol, y mae'r myfyriwr yn gymwys i ymgymryd â hwy (bodloni gofynion mynediad sylfaenol) ac os yw lleoedd ar gael (ni all nifer o raglenni fod yn uwch na niferoedd sy'n cael eu rheoli gan y Llywodraeth oherwydd rheolaethau'r Llywodraeth, lleoliadau proffesiynol cyfyngedig sy'n rhan annatod o'r rhaglen astudio benodol honno a/neu gyllid)
- tynnu'n ôl o'r Brifysgol heb unrhyw atebolrwydd am ffioedd.
Yn yr amgylchiadau hyn os yw myfyriwr yn dymuno tynnu'n ôl ac i gofrestru ar gwrs mewn Prifysgol wahanol, byddwn hefyd yn cymryd camau/au rhesymol i helpu i ddod o hyd i le arall addas.