Llwybrau Ceisiadau

​​Gwneir ceisiadau am gyrsiau israddedig llawn amser a hyfforddiant athrawon ôl-raddedig amser llawn drwy'r Gwasanaeth Derbyniadau Prifysgolion a Cholegau (UCAS - http://www.ucas.ac.uk/). Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn prosesu ei chymwysiadau yn ôl systemau a gweithdrefnau UCAS. 

Mae ceisiadau ar gyfer ein cyrsiau rhan-amser, ôl-raddedig ac ymchwil (ac eithrio hyfforddiant athrawon ôl-raddedig) yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i Brifysgol Metropolitan Caerdydd drwy system Hunanwasanaeth. 

Disgwylir i raddedigion Met Caerdydd sy'n symud ymlaen o astudiaeth israddedig i ôl-raddedig ailymgeisio drwy system gais uniongyrchol Hunanwasanaeth Met Caerdydd. Mae angen cwblhau'r wybodaeth am y cais yn llawn, fel bod yr uned derbyniadau yn cael gwybod am unrhyw ddiweddariadau i wybodaeth a newidiadau mewn amgylchiadau.  

5.1 Ymgeiswyr sy'n talu Ffioedd Tramor

Gall ymgeiswyr rhyngwladol ymgeisio drwy UCAS neu'n uniongyrchol i Met Caerdydd drwy'r ceisiadau ar-lein i Fyfyrwyr Rhyngwladol - Sut i Ymgeisio - Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer cyrsiau Sylfaen ac Israddedig.  Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig ac ymchwil rhaid i ymgeiswyr wneud cais uniongyrchol at Fyfyrwyr Rhyngwladol - Sut i Wneud Ymgeisio – Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

5.2 Ymgeiswyr Masnachfraint

Mae gan Met Caerdydd nifer o gyrsiau sy'n cael eu rhedeg mewn partneriaeth â cholegau lleol.  Rhestrir y cyrsiau hyn ar UCAS a gall tudalennau ein cyrsiau ac ymgeiswyr wneud cais drwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

5.3 Trosglwyddiadau o Brifysgolion eraill ac o Met Caerdydd

Mae Met Caerdydd yn ystyried trosglwyddiadau i bob blwyddyn o Brifysgolion eraill cyn belled â bod y gofynion mynediad yn cael eu bodloni ar gyfer y cwrs dewisol.  Mae angen i ymgeiswyr sy'n gwneud cais gan Brifysgol arall gyflwyno cais drwy UCAS.  Mae angen i ymgeiswyr rhyngwladol ymgeisio trwy Fyfyrwyr Rhyngwladol - Sut i Ymgeisio - Prifysgol Metropolitan Caerdydd.  

Gellir anfon prawf o'r astudiaethau cyfredol at yr Uned Derbyniadau fel y gellir gwneud asesiad am addasrwydd, cyn cyflwyno cais. Cyfeiriwch at adran 20, ar Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol am wybodaeth ynglŷn â mynediad i flynyddoedd 2 a 3.

Mae angen i fyfyrwyr presennol Met Caerdydd sy'n dymuno trosglwyddo i gwrs arall, gysylltu â thiwtor y cwrs derbyn ac nid oes angen iddynt ailymgeisio drwy'r uned derbyniadau.  Os cytunir ar y trosglwyddiad bydd angen i diwtor eich cwrs presennol gwblhau'r broses drosglwyddo.​