Ymgeiswyr Anabl

Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i roi cyfle cyfartal i bob myfyriwr, gyda'r nod o ddarparu amgylchedd cynhwysol a hygyrch, gan wneud addasiadau rhesymol i gefnogi ymgeiswyr ag anableddau.  Rydym yn annog datgelu unrhyw anabledd, yn gynnar yn y cylch derbyn fel y gallwn wneud addasiadau rhesymol.

Mae ceisiadau ar gyfer y rhai sy'n datgelu anabledd yn cael eu hystyried yn yr un modd ag unrhyw ymgeisydd arall, gyda'r penderfyniad yn cael ei wneud ar deilyngdod academaidd a photensial yr ymgeisydd. ​​