Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Qualifications from Other Countries

Cymwysterau o Wledydd Eraill

Isod ceir gwybodaeth am gymwysterau o'r tu allan i'r DU i gael mynediad i'n cyrsiau Israddedig. Dyma lleiafswm y gofynion mynediad a byddant yn amrywio yn unol â’r rhaglen rydych chi'n ymgeisio amdani. Byddwch yn ymwybodol bod gan rai rhaglenni ofynion pwnc-benodol ac efallai y bydd angen cymwysterau lefel 3 ychwanegol arnynt. Edrychir ar bob cais yn unigol.

Mae angen lleiafswm o IELTS 6.0 heb unrhyw elfen is na 5.5; ac mae rhai rhaglenni'n gofyn am hyd at IELTS 7.0 heb unrhyw elfen o dan 6.5, oni nodir yn wahanol isod

America

Diploma Graddio Ysgol Uwchradd- yn cael ei ystyried yn gymharol â safon Gradd TGAU (A*-C) / Safon Credyd ar yr amod y ceir cyfartaledd o leiaf gradd C mewn pynciau sydd â chymheiriaid yn y Maes Llafur TGAU, ac sydd wedi'u hastudio i Radd 12.

Arholioad Uwch Ar Leolia- yn debyg i safon TAG Uwch/Scottish Advanced Higher. Asesir yr arholiadau hyn ar sail unigol. Bydd nifer yr arholiadau a'r graddau sy'n ofynnol ar gyfer pob rhaglen yn amrywio, ond fel arfer edrychir am gyflawni o leiaf dri phwnc Grŵp A gyda graddau 3 neu 4. Yn ddiweddar, mae UCAS wedi ychwanegu'r arholiadau yma i'r Tariff gyda gradd 4 gyfwerth â 24 pwynt. 

Nid oes angen IELTS os yw ymgeiswyr wedi cwblhau Saesneg hyd at Radd 12 gan lwyddo i sicrhau gradd C.

Gwlad Belg

Bydd cymwysterau'n dibynnu ar ba faes y mae'r myfyriwr wedi ei astudio - Fflandrys (siarad Iseldireg) neu Wallonia (Ffrangeg).

Fflandrys:

Ystyrir bod Brevet de Aanvullende Secundaire Beroepsschool (rhaglen addysg alwedigaethol uwchradd) yn gymharol â safon Diploma Cenedlaethol BTEC a bod Diploma van Secundair Onderwijs yn gymharol â lefel A

Wallonia:
Ystyrir bod Tystysgrif d'Enseignement Secondaire Superieur yn gymharol â Lefel A a bod Diplome d'aptitude a Acceder a l'enseignement Superieur yn gymharol â lefel A

Isafswm cyfartaledd cyffredinol gofynnol o 60%.

Bwlgaria

Ystyrir bod Diploma za Sredno Obrazovaine (Diploma Addysg Uwchradd wedi'i Gwblhau) yn gymharol â lefel UG; derbynnir y Diploma ar gyfer mynediad i sawl un o'n rhaglenni gydag isafswm gradd o 4.5. Yn achos rhaglenni sy’n gofyn am wybodaeth o bwnc penodol, bydd angen cymwysterau Lefel 3 ychwanegol.

Ystyrir bod Diploma za Sredno Spetsialno Obrazovanie / Svidetelstvo za Profesionalna Kvalifikasia (Diploma Addysg Arbenigol Uwchradd wedi'i Gwblhau) yn gymharol â safon lefel UG.

Croatia

Ystyrir bod Svjedodzba o Maturi (Tystysgrif Matura) yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm graddau 3,3,3,3 o 4 pwnc.

Cyprus

Ystyrir bod Tystysgrif Gadael Ysgol Uwchradd Uchaf (Lykeio) (Apolytirio) yn gymharol â lefel UG; byddwn yn derbyn yr Apolytirio ar sawl un o'n rhaglenni gydag isafswm gradd gyffredinol rhwng 16 - 18.5. Yn achos rhaglenni sy’n gofyn am wybodaeth o bwnc benodol, bydd angen cymwysterau Lefel 3 ychwanegol.
    

Y Weriniaeth Tsiec

Ystyrir bod Maturitni Zkouska / Maturita yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm gradd 3.

Ystyrir bod Vysvedceni o Maturitni Zkousce (Tystysgrif Gadael Ysgol gyda Maturita o ysgolion technegol / galwedigaethol) yn gymharol â safon Genedlaethol BTEC.

DR Congo

Ystyrir bod Diplôme d'État d'Études Secondaires du Cycle Long a Examen d'État ill dau’n debyg i TGAU (graddau A*-C) ar gyfer bob pwnc a basiwyd gyda 50% ac uwch.

Y Ffindir

Ystyrir bod Ylioppilastutkinto / Studentexamen (Archwiliad Matriciwleiddio) yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm sgôr cyffredinol o 4,4,4,4 yn y pedwar pwnc gorau.

Ffrainc

Ystyrir bod y Diplome du Baccalaureat Cyffredinol yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm gradd 11. Ystyrir bod yr Option Internationale du Baccalaureat yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm gradd 12. Ystyrir bod y Brevet de Technicien (BT) yn debyg i safon Diploma / Tystysgrif / Dyfarniad Cenedlaethol BTEC.

Gambia

Ystyrir bod Tystysgrif Ysgol Hŷn Gorllewin Affrica yn gymharol â TGAU (graddau A*-C) ar gyfer pob pwnc a basiwyd, lle cafwyd graddau A1 - C6.

Yr Almaen

Ystyrir bod Zeugnis der Allgemeinen Hochschulreife / Abitur yn debyg i Safon Uwch. Mae angen isafswm gradd 2.6. Gellir ystyried bod pob pwnc a basiwyd yn gymharol o leiaf â graddau TGAU A*-C; gan gynnwys Saesneg, ar yr amod ei fod wedi'i sefyll fel Hauptfach / Leistungskurs, a bod marc o 10 / gut wedi'i sicrhau.

Ghana

Ystyrir bod Tystysgrif Addysg Gyffredinol Lefel Uwch yn gymharol â Safon Uwch. Ystyrir bod Arholiad Tystysgrif Ysgol Uwch Gorllewin Affrica, neu Tystysgrif Ysgol Uwchradd Hŷn ill dau yn debyg i TGAU (gradd A*-C) ar gyfer pynciau a basiwyd gyda graddau A1-C6 neu A-D.

Gwlad Groeg

Ystyrir bod yr Apolytirio of Lykeiou (Tystysgrif Gadael Ysgol Uwchradd Uchaf yn gymharol â lefel UG; byddwn yn derbyn yr Apolytirio ar sawl un o'n rhaglenni gydag isafswm gradd gyffredinol rhwng 16 - 18. Ar gyfer rhaglenni sydd angen gwybodaeth pwnc penodol, bydd angen cymwysterau Lefel 3 ychwanegol.

Hwngari

Ystyrir bod yr Erettsegi Bizonyitvany (Tystysgrif Graddio Addysg Uwchradd), a elwir hefyd yn Matura, yn gymharol â Safon Uwch. Bydd angen pasio o leiaf 5 pwnc i gynnwys 3,3,3 i gynnwys dau bwnc Uwch.

India

Ystyrir bod Tystysgrif Ysgol Indiaidd (Blwyddyn 12) yn gymharol â lefel UG o gael ei ddyfarnu gan CISCE, gyda phob pwnc a basiwyd yn cymharu â graddau TGAU A*-C. Ystyrir bod Tystysgrif Uwchradd Uwch / Safon 12 yn gymharol ag UG lefel o gael ei ddyfarnu gan Fwrdd cydnabyddedig Addysg Uwchradd Uwch ar ôl cwblhau Gradd 12. Gellir ystyried bod pob pwnc a basiwyd yn â graddau TGAU A*-C o leiaf, ac eithrio'r iaith Saesneg. Ystyrir bod Tystysgrif Ysgol Uwchradd (SSC) / Safon 10 yn gymharol â TGAU (graddau D-G)

Yr Eidal

Ystyrir bod yr Esame di Stato yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm sgôr o 70%

Latfia

Ystyrir bod yr Atestats par visparejo videjo izglitibu (Ardystio Addysg Uwchradd Gyffredinol) yn gymharol â lefel UG. Derbynnir y cymhwyster hwn ar gyfer nifer o'n rhaglenni gydag isafswm cyfartalog o radd 7 (C) mewn o leiaf 12 pwnc. Yn achos rhaglenni sy’n gofyn am wybodaeth pwnc penodol, bydd angen cymwysterau ychwanegol Lefel 3.

Lithwania

Ystyrir bod Brandos Atestatas (Tystysgrif Aeddfedrwydd) (o Gymnasiwm neu Ysgol Uwchradd) yn gymharol â lefel UG. Derbynnir y cymhwyster hwn ar gyfer nifer o'n rhaglenni gydag isafswm gradd 7.5 i gynnwys o leiaf 65% mewn 3 arholiad gwladol. Yn achos rhaglenni sy’n gofyn am wybodaeth pwnc benodol, bydd angen cymwysterau ychwanegol Lefel 3.

Malta

Ystyrir bod Matriciwleiddio Uwch yn gymharol â Safon Uwch. Gofynnir am isafswm graddau DD ar lefel Uwch. Ystyrir bod Arholiad Tystysgrif Matriciwleiddio (o Brifysgol Malta) yn gymharol â Safon Uwch. Gofynnir am safswm graddau DD ar lefel Uwch. Nid oes angen IELTS os yw ymgeiswyr wedi ennill graddau IGCSE A*-C i gynnwys Saesneg Iaith.

Nigeria

Ystyrir bod Tystysgrif Ysgol Hŷn Gorllewin Affrica yn gymharol â TGAU (graddau A*-C) o’u hastudio ar ôl 1998. Ystyrir bod Tystysgrif Ysgol Hŷn yn gymharol â TGAU (graddau A*-C). Rhwng 1989 a 1998 dyfarnwyd y cymhwyster hwn gan Gyngor Arholiadau Gorllewin Affrica (WAEC). Ers 2000, fe'i dyfarnwyd gan y Cyngor Arholiadau Cenedlaethol (NECO). Ar gyfer pob pwnc a basiwyd gyda graddau 1 - 6 (A1 - C6).

Gwlad Pwyl

Ystyrir bod Swiadectwo Dojrzalosci (Tystysgrif Aeddfedrwydd) / Matura) yn gymharol â Safon Uwch. Gofynnir am isafswm sgôr o 65%, i gynnwys o leiaf dau bwnc Uwch â 55%.

Portiwgal

Ystyrir bod Certificado de fim de Estudos Secundarios yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm o radd 14.

Rwmania

Ystyrir bod Diploma de Bacalaureat yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm o radd 7. Ystyrir bod Diploma de Bacalaureat (Proffil Technolegol/Galwedigaethol) yn gymharol â safon Diploma Cenedlaethol BTEC.

Sbaen

Ystyrir bod Titulo de Bachillerato yn gymharol â Safon Uwch. Mae angen isafswm o radd 6.2. Ystyrir bod Tecnico Especialista (Formacion Profesional - segundo grado) yn gymharol â safon Diploma / Tystysgrif / Dyfarniad Cenedlaethol BTEC.

Twrci

Ystyrir bod Diplomasi Devlet Lise (diploma Ysgol Uwchradd y Wladwriaeth yn gymharol â safon rhwng lefel TGAU ac UG gydag isafswm o 2 fel marc pasio.

Simbabwe

Ystyrir bod Tystysgrif Addysg Gyffredinol Lefel Uwch, neu Tystysgrif Ysgol Uwch Caergrawnt yn gymharol â Safon Uwch. Ystyrir bod Tystysgrif Addysg Gyffredinol Zimbabwe ar Lefel Gyffredin yn gymharol â TGAU (graddau A*-C) ar gyfer pob pwnc â graddau A-C.

CYMWYSTERAU ERAILL

Bagloriaeth Ewropeaidd (EB)
Y ganran basio isaf a ystyrir ar gyfer Addysg Uwch yw 68%. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud â rhaglen benodol ar www.ucas.com, o dan broffiliau mynediad.

Tystysgrif Bagloriaeth Ryngwladol (Tystysgrif IB)
Gellir ystyried hon ar sail pwyntiau Tariff UCAS yn unol â’r rhaglen. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud â rhaglen benodol ar www.ucas.com, o dan broffiliau mynediad. Os cymerwyd Saesneg: Iaith a Llenyddiaeth ar Lefel Uwch gan lwyddo i sicrhau gradd 4 neu uwch, derbynnir hyn yn lle TGAU Iaith Saesneg.

IDiploma Bagloriaeth Ryngwladol (Diploma IB)
Yr marc pasio isaf a ystyrir ar gyfer Addysg Uwch yw 24 pwynt, dyma hefyd yr isafswm pwyntiau er mwyn ennill y Diploma llawn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud â rhaglen benodol ar www.ucas.com, o dan broffiliau mynediad. Os cymerwyd Saesneg A: Iaith a Llenyddiaeth ar Lefel Uwch lle cafwyd gradd 4 neu uwch, gellir derbyn hyn yn lle TGAU Iaith Saesneg.

Gofynion Iaith Saesneg

TGAU Saesneg Iaith gradd C neu uwch, neu gyfwerth, yw gofyniad sylfaenol pob rhaglen Israddedig ac Ôl-radd ac eithrio rhaglenni UTT lle mae angen gradd B. Enghreifftiau o gymwysterau amgen a gymerwyd yn lle gradd C TGAU yw:

Cymhwyster Gradd

CEFR

 

IELTS (Academaidd)6.0 (dim elfen llai na 5.5)B2

Cambridge English Advanced

169 (dim elfen llai na 162)
B2

TOEFL Rhyngrwyd

72B2

Pearson Academic

52 (dim elfen llai na 51)B2
Prawf Saesneg GETS Met Caerdyddt75% (dim elfen llai na 75%)

​B2

 

 Cywerthedd Gradd C TGAU

Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu Lefel 3 (Cymru)

Bydd sawl Rhaglen yn derbyn Lefel 2, gwiriwch gyda Derbyniadau am fanylion pellach )

Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2 Saesneg (Lloegr)

IGCSE Iaith Saesneg A - Gradd C.

O 2017 bydd y system raddio TGAU newydd yn Lloegr yn dod i rym gan ddechrau gydag iaith Saesneg a Mathemateg - ystyrir bod gradd 4 yn gyfwerth â Gradd C

 

Sylwer bod angen sgorau uwch ar rai Rhaglenni na'r rhai a restrir uchod. Cyfeiriwch at dudalennau cyrsiau am wybodaeth bellach neu cysylltwch â'r Uned Dderbyniadau.

Derbynnir cymwysterau Iaith Saesneg Ewropeaidd ar gyfer mynediad

Gwlad

Cymhwyster Gradd Gyfwerth

Austria

Matura/Reifeprufung2 (Gut)

Denmark

Bevis for Studentereksamen7
GermanyAbitur10 (ar yr amod ei fod wedi'i gymryd fel Hauptfach / Leistungskurs)

Iceland

Studentsprof9

Netherlands

Voorbereidend Wetenschappelijk Onderwijs

8
Norway

Vitnemal fra den Videregaende Skole

4

Sweden

Avgangsbetyg/SlutbetygVG/4