Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Pwy all elwa o RPL?

Gall y broses fod yn  fuddiol i'r rhai sydd:

• Wedi elwa o ddysgu anffurfiol (arbrofol) sylweddol ac sy’n meddu ar rai cymwysterau ffurfiol

• Yn edrych i ail hyfforddi neu newid eu llwybr gyrfa

• Angen parhau â chwrs/rhaglen mewn sefydliad  gwahanol

• Yn dymuno ennill cydnabyddiaeth am sgiliau a enillwyd mewn gwaith (â thâl/yn ddi-dâl) neu weithgareddau hamdden

• Yn dymuno dysgu ar garlam er mwyn sicrhau bod hynny’n effeithiol o ran cost ac amser

• Am gael mynediad at raglenni academaidd i barhau â'u datblygiad proffesiynol a chymdeithasol

• Yn edrych am gydnabyddiaeth o safbwynt rhaglenni datblygu cyflogwyr/sgiliau cyflogaeth

• Yn edrych am gydnabodiaeth o arfer proffesiynol ar gyfer cyrff proffesiynol

• Wedi dychwelyd o dramor, neu’n fewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd am gadarnhau eu cymwysterau a gafwyd mewn gwledydd eraill

A yw fy Nysgu'n Addas ar gyfer RPL?

Gellir cydnabod dau fath o ddysgu blaenorol, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

​Dysgu Ffurfiol (Ardystiedig) ​Dysgu Profiadol (Anffurfiol)

​Mae hyn yn cyfeirio at ddysgu y dyfarnwyd tystysgrif ar ei gyfer drwy sefydliad addysgol neu ddarparwr addysg/hyfforddiant cydnabyddedig arall.

Bydd y dystysgrif yn amlinellu'r maes llafur a astudiwyd, y canlyniadau a enillwyd a'r
prosesau asesu; gallai enghraifft gynnwysTGAU, CGC a HNCs a HNDs.

Mae hyn yn cyfeirio at ddysgu a gafwyd drwy waith, gweithgareddau gwirfoddol neu brofiadau bywyd eraill.

Mae'n annhebygol o gael ei ddogfennu a bydd angen casglu tystiolaeth i gadarnhau'r dysgu a nodir; gallai enghraifft gynnwys cyrsiau hyfforddi cysylltiedig â gwaith, hobïau.

 

Sut mae gwneud Cais RPL?

I wneud cais am Drosglwyddo Credyd neu RPCL, dylid gwneud hynny naill ai drwy UCAS ar www.ucas.com ar gyfer rhaglenni Israddedig amser llawn, oni bai eich bod eisoes yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac os felly bydd angen i chi wneud cais fel  trosglwyddiad mewnol.  Gwneir ceisiadau am raglenni ôl-raddedig a rhan amser drwy system ymgeisio ar-lein Hunanwasanaeth y Brifysgol.

I wneud cais am RPEL, mae angen i chi gofrestru buddiant yn gyntaf drwy'r Ffurflen Mynegi Buddiant ar-lein.  Os  cewch eich cynghori i wneud cais, bydd angen i chi lenwi'r Ffurflen Gais RPEL​.

Beth yw Credyd?

Dyfarniad a roddir i ddysgwr er mwyn cydnabod cyflawniad canlyniadau dysgu dynodedig ar lefel benodol yw credyd.

Mae credydau yn galluogi cydnabod cyflawniadau bach gael yn ffurfiol a'u cronni ar gyfer cymwysterau.  Y fframwaith a ddefnyddir yw'r Fframwaith Credyd a Chymhwyster i Gymru (CQFW)​.  Mae swm y credyd a roddir yn seiliedig ar amcangyfrif o faint o amser dysgu fydd angen a chyfartaledd y dysgwr i gyflawni'r canlyniadau dysgu penodedig.  Mae un credyd (o fewn CQFW) yn cyfateb i ganlyniadau dysgu y gellir eu cyflawni mewn 10 awr o amser dysgu.

Dyfernir pwyntiau credyd ar lefelau penodol sy'n ymwneud â  blynyddoedd astudio e.e. 1, 2, 3 neu M (lefel Meistr). Mae 120 pwynt credyd ym mlwyddyn 1/lefel 4 yn cynrychioli blwyddyn gyntaf gradd israddedig.

Mae'r lefel yn ddangosydd o safbwynt  ymhlethdod a dyfnder y dysgu sy'n ofynnol.

Pa gydnabyddiaeth a gaf o Gredyd a ddyfarnwyd yn sgil lleoliad gwaith ERASMUS?

Caiff unrhyw gredydau ECTS  a gyflawnir yn ystod eich astudiaethau drwy leoliad gwaith ERASMUS ei gydnabod gan Met Caerdydd, a’i restru ar eich trawsgrifiad gradd ar ôl ei dyfarnu.

Pa Gredyd y gellir ei ddyfarnu i mi?

Isod mae enghreifftiau o'r Credydau a ddyfarnwyd:


Cymhwyster Uchafswm Credyd trwy RPL​ Credyd trwy Fodiwlau Prifysgol Metropolitan Caerdydd
ÔL-RADDEDIG
Gradd Meistr ​120 credyd* 60 credyd ar Lefel 7
Diploma Ôl-Raddedig 60 credyd 60 credyd ar Lefel 7
Tystysgrif Ôl-Raddedig 30 credyd                   30 credyd ar Lefel 7
DEALLTWRIAETH​
Gradd Anrhydedd 240 credyd 120 credyd ar Lefel 6
​Gradd Arferol 200 credyd 100 credyd, o leiaf 60 o’r rhain ar Lefel 6​
​Gradd Sylfaen 120 credyd 120 credyd ar Lefel 5
Diploma AU 120 credyd 120 credyd ar Lefel 5
​Tystysgrif AU 60 credyd 60 credyd ar Lefel 4
​Tystysgrif Sylfaen 60 credyd 60 credyd ar Lefel 3
* o leiaf 90 credyd gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ennill Teilyngdod neu Ragoriaeth

A godir ffi arnaf?

Caiff ffi ei chodi a’i rhoi gan y Cynghorydd RPL, ond bydd yn dibynnu ar faint ac ar fath y credyd y gwnaed cais amdano yn eich cais. Mae'r gost yn cynnwys:

• Amser cefnogi i gynorthwyo gyda'r cais RPL
• Amser i academydd asesu'r cais
• Costau gweinyddol

Bras amcan o gost modiwl 20 credyd yw £300.

Codir cost ychwanegol o £50 yr awr am gymorth pellach yn ôl yr angen.

Beth yw hyd y broses?

Yn dibynnu ar y credyd y gwnaed cais amdano, gall y broses gymryd unrhyw beth wythnos neu ddwy hyd at 2 fis oherwydd faint o dystiolaeth y gofynnir amdano. Cytunir ar y cyfnod ar gyfer cwblhau popeth gyda'ch Cynghorydd RPL ar ddechrau'r broses.

Sut mae cwyno am benderfyniad?

Os nad ydych yn hapus â'r gwasanaeth neu'r canlyniad mewn perthynas â'ch cais, mae gennym weithdrefn gwynion ffurfiol. I gael mwy o wybodaeth am y gweithdrefnau cwyno ffurfiol, cliciwch yma.

A oes dyddiad cau ar gyfer hawliadau?

Mae'r dyddiad cau yn dibynnu ar yr hyn yr ydych am ei wneud, gan fod angen i'r credyd fod wedi'i ddyfarnu dair wythnos cyn dechrau'r rhaglen neu'r modiwl.  Cewch amserlen i weithio tuag ati gan eich Cynghorydd RPL.

Sut mae cynnig tystiolaet o brofiad dysgu blaenorol?

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o gymwysterau pan ddyfernir credyd yn ogystal â’r dysgu a’r phrofiad a enillwyd drwy fyd gwaith, gweithgareddau gwirfoddol neu brofiadau bywyd eraill.
Er mwyn tystio i ddysgu drwy brofiad bydd angen i chi ddarparu portffolio sy'n adlewyrchu eich profiad a'r canlyniadau dysgu gofynnol ar gyfer y modiwlau.  Bydd hyn yn eich helpu i nodi'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a ddatblygwyd yn sgil eich profiad, a’ch helpu hefyd i fynegi a chymhwyso'ch dysgu mewn ffordd y gellir ei hasesu ar gyfer credyd academaidd.   Cliciwch yma  i gael mynediad at dempled Canllawiau RPL a Phortffolio RPEL.

Gyda phwy y dylwn gysylltu fel Sefydliad sy’n ceisio Credyd ar gyfer hyfforddiant fy ngweithwyr cyflogedig?

Os ydych chi'n Sefydliad neu'n Asiantaeth Hyfforddi sy'n dymuno sicrhau credyd ar gyfer eich gweithwyr yn seiliedig ar yr hyfforddiant a’r profiad a gafwyd yn y gweithle, cysylltwch â'r Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith (CWBL): chead@cardiffmet.ac.uk. Ceir gwybodaeth bellach ar CWBL.