Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Feedback Policy

Polisi Adborth

Gall ymgeiswyr gysylltu â'r uned Dderbyn am adborth ar eu cais os ydynt wedi derbyn penderfyniad aflwyddiannus.

Polisi Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw darparu adborth ar gais ac ar gyfer rhai rhaglenni, anfonir adborth generig ar ffurf llythyr. Gall ffurf a dyfnder yr adborth amrywio rhwng gwahanol raglenni.

Anogir ymgeiswyr i gysylltu â'r uned Dderbyn am adborth naill ai drwy ebost (askadmissions@cardiffmet.ac.uk) o fewn mis o dderbyn penderfyniad aflwyddiannus. Bydd adborth yn cael ei roi o fewn pythefnos pan fydd yn rhaid cael adborth gan yr ysgol.

Mae'r adborth a ddarperir yn seiliedig ar farn academaidd sy'n ymwneud ag addasrwydd ymgeiswyr i ymgymryd â rhaglen a bydd yn cynnwys methiant i fodloni gofynion academaidd ac anacademaidd (e.e. archwiliadau iechyd galwedigaethol, gwiriadau cofnodion troseddol). Efallai na fydd y staff yn cymharu rhinweddau perthynol ceisiadau unigol.

Dim ond i'r ymgeiswyr eu hunain ac ar gais yr ymgeisydd y bydd adborth yn cael ei roi, oni bai bod caniatâd yn cael ei roi sy'n cynnwys mynediad enwebedig drwy UCAS.

Ni fydd adborth a roddir i ymgeiswyr yn golygu ailystyried y cais. Os oes angen adolygiad o benderfyniad, ni fydd y Brifysgol yn adolygu penderfyniad ynghylch derbyniadau os mai'r sail dros wneud cais amdani yw bod yr ymgeisydd yn anghytuno â'r dyfarniad academaidd sydd wedi'i gymhwyso, a lle nad oes tystiolaeth nad yw’r gweithdrefnau cywir wedi'u dilyn.

Os yw ymgeisydd yn credu nad yw'r gweithdrefnau cywir wedi'u dilyn, fe'u hanogir i ddechrau i drafod hyn gyda'r Pennaeth Derbyniadau naill ai drwy ebost neu lythyr. Os yw'r ymgeisydd yn teimlo bod yr ymateb yn annigonol, yna gellir gwneud cais am adolygiad ffurfiol o'r penderfyniad y dylid ei wneud yn ysgrifenedig a'i gyfeirio at y Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr, a fydd yn ymchwilio i'r mater drwy ymgynghori â'r Pennaeth Derbyniadau, Tiwtor Rhaglen a phersonau priodol.

Wrth wneud cais am adolygiad o benderfyniad, rhaid i ymgeiswyr gynnwys y rhesymau dros ofyn am adolygiad a chynnwys tystiolaeth ategol pan fyddant ar gael. Bydd y Brifysgol yn ceisio ystyried yr adolygiad o fewn cyfnod o bythefnos, ond os na fydd hyn yn bosibl bydd yn rhoi gwybod i ymgeiswyr os oes angen amser ychwanegol. Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei anfon at yr ymgeisydd yn ysgrifenedig yn y cyfeiriad a ddarperir.

Os bydd ymgeiswyr yn parhau i fod yn anfodlon ar ganlyniad yr adolygiad, gellir wedyn gwneud cwyn ffurfiol drwy weithdrefn gwyno Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar www.cardiffmet.ac.uk/complaints.